|
Mae Pwy syn Cofio Siôn? yn perthyn i gyfres 'Nofelau Nawr' a gyhoeddir gan Wasg Gomer. Anelwyd y gyfres at ddysgwyr sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers blwyddyn neu ddwy. Tra bod y testun i gyd yn Gymraeg, ar waelod pob tudalen mae geirfa fer syn syniad da gan nad oes, yn fy mhrofiad i, ddim byd gwaeth wrth ddarllen llyfr na gorfod mynd i chwilio yn y geiriadur am ystyr geiriau diarth! Wedi dweud hyn, os ywr dysgwr am droi at eiriadur yn yr achos hwn, ceir manylion e.e. enw benywaidd, lluosog wedi eu nodi wrth y geiriau er mwyn hwyluso pethau, a nodir geiriau sydd wediu treiglo yn eu ffurf wreiddiol. Hefyd, mae yna adran fer yng nghefn y llyfr syn defnyddio enghreifftiau or stori er mwyn egluro ychydig ar y ramadeg.
Prif gymeriad y nofel yw Leni. Ei huchelgais yw cael swydd bwerus yn y cyfryngau a bod yn enwog. Am nawr, fodd bynnag, maen rhaid iddi fodloni ar weithio fel ymchwilydd ddi-dâl i orsaf radio leol er mwyn ennill profiad.
Pan ofynna pennaeth yr orsaf radio iddi chwilio am wybodaeth ar Siôn Tremthanmor, canwr enwog a ddiflannodd ugain mlynedd ynghynt, mae Lenin gweld ei chyfle i geisio darganfod beth ddigwyddodd i Siôn a'i phrofi ei hun fel newyddiadurwraig o fri. Mae hin penderfynu mai hi fydd yr un fydd yn dod o hyd i Siôn ac y bydd y clod am hyn yn arwain at yrfa lwyddiannus ac enwogrwydd. Maer chwilio am Siôn yn datblygun obsesiwn ganddi wrth iddi ddilyn un llwybr ar ôl y llall i geisio dod o hyd ir gwir.
Mae hon yn nofel gyffrous ac yn anodd ei rhoi i lawr, wrth i Leni ddod yn nes ac yn nes at ddatrys y dirgelwch. (Yn wir, maen hawdd anghofio mai nofel i ddysgwyr yw hon gan mair stori ac nid yr iaith syn dal y sylw.) Bob tro maen ymddangos ei bod bron â dod o hyd i Siôn, maen cael ei siomi. Ond nid yw Lenin ferch i roir gorau iddi, ac mae hin benderfynol o ddod o hyd i Siôn.
Cefais flas ar y nofel hon. Er ei bod yn stori eithaf byr (89 tudalen), mae digon o gyffro a thyndra yma. At ddysgwyr y bwriadwyd y llyfr yma, ond fe fyddwn in ei argymell hefyd i siaradwyr Cymraeg, yn arbennig ir rhai sydd heb ddigon o hyder i ddarllen llyfrau Cymraeg yn arferol.
Teleri Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|