Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Wrth Draed Tad Dafydd
Awdur: Robert Munsch
Gweld rhagor o deitlau gan 'Robert Munsch'
ISBN: 9780953320639 (0953320634)
Dyddiad Cyhoeddi Mai 2003
Cyhoeddwr: Houdmont, Caerdydd
Darluniwyd gan Michael Martchenko
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Iwan Llwyd.
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 203x203 mm, 28 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Wrth Draed Tad Dafydd
Ein Pris: £3.99 
Addasiad Cymraeg o David's Father, stori ddoniol wedi'i darlunio'n lliwgar am gyfeillgarwch merch fach gyda bachgen bach a'i dad sy'n gawr; i blant 5-7 oed.

A Welsh adaptation of David's Father, a colourfully-illustrated humorous story about the friendship of a young girl with a young boy and his giant of a father; for children aged 5-7 years.
Addaswyd nifer o lyfrau Robert Munsch eisoes i’r Gymraeg, ac mae’r gyfrol hon yn dilyn yr un arddull anffurfiol, storïol, hawdd ei darllen.

Mae’r stori'n dechrau'n arbennig o afaelgar pan wêl Esyllt ddynion symud tŷ yn cario llwy, cyllell a fforc anferth heibio iddi. Mae'n darganfod mai hogyn digon cyffredin o’r enw Dafydd sy’n byw yn y tŷ, ond wrth gwrs, fel yr ydych yn gallu dyfalu, mae tad Dafydd yn gawr. Mae yna gysyniadau braidd yn anodd i blentyn eu deall yn y stori a rhaid i Robert Munsch esbonio’r gwahaniaeth rhwng Dafydd a’i dad trwy ddweud mai wedi cael ei fabwysiadu y mae Dafydd. Efallai y bydd tad Dafydd yn codi ofn ar ambell blentyn – ond yn y pen draw, ar ochr y bychan a’r diamddiffyn y mae o.

Mae tro digon clyfar ar ddiwedd y stori yma a bydd plant un ai yn hoffi’r gwiriondeb a’r digrifwch neu'n gweld y stori yn un hollol hurt!

Nia Gruffydd

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol: