Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Dywysoges Sach Datws, Y
Awdur: Robert Munsch
Gweld rhagor o deitlau gan 'Robert Munsch'
ISBN: 9780953320646 (0953320642)
Dyddiad Cyhoeddi Mai 2003
Cyhoeddwr: Houdmont, Caerdydd
Darluniwyd gan Michael Martchenko
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Iwan Llwyd.
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 203x203 mm, 28 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Dywysoges Sach Datws, Y
Ein Pris: £3.99 
Addasiad Cymraeg o The Paper Bag Princess, stori ddoniol wedi'i darlunio'n lliwgar am dywysoges fach nad yw ei hymdrech i dwyllo draig er mwyn achub ei chariad yn cael ei werthfawrogi o gwbl; i blant 5-7 oed.

A Welsh adaptation of The Paper Bag Princess, a colourfully illustrated humorous story about a young princess whose quest to outwit a dragon to save her prince goes unappreciated; for children aged 5-7 years.
Dyma’r llyfr diweddaraf yn y gyfres gan gwmni Houdmont o Gaerdydd sy’n cynnwys Dwi Eisiau Mynd, Siwt Eira Tomos a Moch. Mae’r rhain yn storïau llawn hiwmor a chwerthin iach i blant a’u rhieni. Dydy’r stori hon ddim yn eithriad. Ceir ynddi hanes tywysog, tywysoges a draig. Dyma gymeriadau cyfarwydd ym myd storïau hyd a lledrith, ond ceir fformiwla go fodern yma. Caiff y tywysog ei gipio, ac mae’r dywysoges yn ddewr ac yn llawn dychymyg wrth geisio’i achub. Dyma dywysoges y buasai’r ffeministiaid yn ein plith yn falch iawn ohoni.

Mae’r stori’n wreiddiol, a’r lluniau’n cydweddu i’r dim â’r testun. Dydw i ddim eisiau rhannu cyfrinach y diweddglo, ond digon yw dweud ei fod yn ddiwedd cofiadwy, ac yn peri i blant a’u rhieni wenu am amser hir ar ôl diwedd y stori. Mae’r stori hon a’r neges yn siŵr o apelio at blant o bob oed, a’u rhieni.

Lynwen Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol: