Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Stori Sydyn: Parti Ann Haf
Awdur: Meleri Wyn James
Gweld rhagor o deitlau gan 'Meleri Wyn James'
ISBN: 9781843236849 (1843236842)
Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2006
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm, 112 tudalen
Allan o brint 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Cyfres Stori Sydyn: Parti Ann Haf
Ein Pris: £2.99   
Nofel yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Yn hon down ar draws Ann Haf, Mae hi'n fam i ddau o blant ac mae ganddynt ddau dad gwahanol, a hithau ond yn 28 oed. Un noson, mae hi'n mynd i barti dillad isaf secsi, ac mae pethau'n newid yn ei bywyd am byth!

A novel in the short fast-paced series Quick Reads. In this story we come across Ann Haf. She's the mother of two children from different fathers, and she herself is only 28 years old. One evening, she goes to a sexy underwear party, and her life changes for ever!
Er bod gwerthiant llyfrau Cymraeg wedi dangos cynnydd rhyfeddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n sicr fod yna ganran uchel o Gymry sy’n gallu darllen Cymraeg na fyddant byth yn ystyried agor llyfr Cymraeg. A dwi’n eithaf sicr hefyd mai’r ddau brif esgus y bydden nhw'n eu rhoi yw diffyg amser ac nad yw eu Cymraeg ‘yn ddigon da’.

Gyda chyhoeddi’r nofel ddifyr hon gan Meleri Wyn James, nid oes esgus ganddyn nhw bellach oherwydd mae hon yn ddarllenadwy iawn, y Gymraeg yn gyfoes a chyfarwydd, yr arddull yn grefftus o bwrpasol a’r testun sy’n gyfuniad hyfryd o hiwmor a difrifwch yn cadw diddordeb y darllenydd hyd at y diwedd. Ac yn rhyfeddol mewn nofel ysgafn, llwyddodd yr awdures hefyd i gynnwys rhywbeth i gnoi cil arno.

Ysgrifennwyd y nofel yn y person cyntaf, gan ddod â’r prif gymeriad yn agos at y darllenydd, ac er y byddwch yn chwerthin llawer wrth ddarllen am yr helyntion ym mhartïon dillad ac offer rhywiol Sexy Sue a drefnir gan Ann, y fam sengl i ddau o blant, mi fyddwch chi hefyd yn gymysglyd iawn eich teimladau tuag ati – yn chwerthin gyda hi, yn teimlo’n drist drosti ac ambell waith yn teimlo’n ddig tuag ati – ond yn bennaf oll dwi’n sicr y byddwch chi’n edmygu ei gonestrwydd a’i dygnwch.

Mae darllenwyr Saesneg yn ffodus oherwydd bod yna ystod eang o ddeunydd darllen ar eu cyfer, ac mae’n bur annhebyg y byddai person sy’n darllen llyfrau Mills and Boon, er enghraifft, yn ystyried prynu llyfr gan Kazuo Ishiguro, a does dim ots am hynny wrth gwrs. Gwnaed ymgais sawl tro yn y gorffennol i roi'r un ystod o ddeunydd i’r Cymry Cymraeg, ond byrhoedlog fu’r cynlluniau hynny gwaetha’r modd.

Gobeithio y bydd hir oes i gynllun Stori Sydyn, ac os yw nofel Meleri Wyn James yn nodweddiadol ohoni, mae hi’n sicr o fod yn gyfres lwyddiannus iawn. Does dim esgus bellach – sut allwn ni beidio prynu llyfr difyr, byr sy’n rhatach na phryd o bysgodyn a tsips?

Gareth William Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Gwybodaeth Bellach:
Parti Sy'n Dod yn Wir
Mae bywyd yn galed
i bobl sy’n sgrifennu
nofelau. Er mwyn paratoi
Parti Ann Haf, roedd yn
rhaid i Meleri Wyn James
fynd i barti dillad secsi.
Ac, ers iddi sgrifennu
Parti Ann Haf, mae’r stori
wedi dod yn wir (bron!)
– erbyn hyn mae yna
gwmni sy’n trefnu partis
dillad secsi Cymraeg.
“Roeddwn i’n chwilio
am gefndir difyr ar gyfer
Stori Sydyn,” meddai
Meleri James. “Digwydd
gweld pwt mewn
cylchgrawn am bartïon
dillad isa’ wnes i, a dyna
ddechrau ar ychydig o
waith ymchwil i’r maes!
“Roedd yn rhaid i mi
fynd i barti fy hun hefyd
– er mwyn gwneud
gwaith ymchwil! O’n i
ddim yn siŵr iawn beth
i’w ddisgwyl – roedd cael
gwydraid o win yn helpu.
“Mae’n dibynnu pa
mor hwyliog ydy pawb
arall hefyd. Bach o sbort
a hwyl diniwed yw e a
wnes i siarad gyda lot o
ferched sy’n trefnu neu’n
mynd i bartïon fel hyn
hefyd.”
Fel mae’r enw’n
awgrymu, Ann Haf ydy’r
Ann Summers Cymraeg
ac mae hi’n trefnu’r
partis tra bydd ei mam yn
gofalu am y plant.
Rydyn ni’n dysgu
rhagor amdani hi, ei
chariadon a’i ffrindiau
ac, fel arfer, yn straeon
Meleri Wyn James, mae
tro yng nghynffon y stori.
Ond mae bywyd go
iawn wedi rhoi tro yng
nghynffon y stori hefyd
- erbyn hyn, mae cwmni
yng Ngwynedd pishyn.
com wedi dechrau trefnu
partis tebyg.