Your basket
Your Basket is Empty
Go to...
Best-selling Books
Links
|
| Bibliographical Information |
| Natur y Flwyddyn - Cyfoeth y Misoedd Mewn Gair a LlunBethan Wyn Jones
View more titles by 'Bethan Wyn Jones' |
ISBN: 9781843238928 (1843238926)Publication Date November 2007
Publisher: Gwasg Gomer, LlandysulIllustrated by Jim SaundersFormat: Hardback, 250x227 mm, 130 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£19.99
| |
| There are no Customer Reviews for this title.
|
|
|
A celebration of nature from month to month. Including pictures, literature and quotations. Compiled by Bethan Wyn Jones, an experienced author of many nature books, and photographer Jim Saunders.
Dathliad o fyd natur ar hyd y flwyddyn fesul mis, mewn gair, llên a llun. Llyfr i'w drysori sy'n gofnod pwysig o gyfoeth byd natur Cymru. Wedi'i baratoi gan yr awdures brofiadol o Fôn, Bethan Wyn Jones, a'r ffotograffydd o Dref-y-clawdd, Jim Saunders.
|
|
Wn i ddim ai fi yw’r person gorau i adolygu llyfr o’r genre hwn gan nad oes gennyf lawer o amynedd gyda llyfrau bwrdd coffi fel arfer. Ond mae Natur y Flwyddyn yn cael maddeuant am y rheswm syml ei fod o yn y Gymraeg, a Bethan Wyn Jones a’i hysgrifennodd. Mae llyfrau bwrdd coffi i mi'n rhy debyg i Daytime TV ar bapur, ond mae’r gyfrol hon yn cynnig gwledd o wybodaeth am fywyd gwyllt, gwledd y byddwn yn herio’r mwyaf gwybodus yn y maes i fethu darganfod rhyw berl ynddi i’w ddifyrru ar ddiwrnod y Nadolig. Fy mherl i un ohonyn nhw oedd yr hen enw Saesneg ar y blodyn Carn yr Ebol, sef sons before fathers, am fod y blodau yn ymddangos ddechrau’r flwyddyn cyn bod sôn am y dail.
Un o gryfderau llyfrau o’r math yma yw safon eu lluniau ac mae ffotograffau Jim Saunders yn deilwng iawn. Ac fel y lluniau, tynnu’n drwm mae’r naratif ar y traddodiad Rhamantaidd. Hwyrach, o’r herwydd, mae’n dueddol o ryfeddu at ddirgelwch pan nad oes dirgelwch dyna sy’n nodweddu’r genre beth bynnag. Ond weithiau mae’r ffeithiau'n fwy diddorol. Cymerwch ‘wyrth’ taith mudo adar ‘heb na map na chwmpawd’. Ond dyna’n union sydd ganddynt, map a chwmpawd o fath ac mae'n hen bryd i ni ddeall hynny a symud ymlaen. Dro arall, colli cyfle a wneir i weld y rhyfeddod o’n blaenau. Organau rhywiol benywaidd y gollen, meddai Bethan, ‘yn ddarnau bychain braidd yn ddisylw’. Wel, yn Women in Love mae D.H. Lawrence (awdur sydd allan o ffasiwn erbyn hyn ac eithrio'i stori am giamocs enwog y cipar a’i fistras!) yn disgrifio, trwy un o’i gymeriadau, y darnau bach coch fel tanau bach ar hyd y brigau. Gwych os ydych yn digwydd gwisgo sbectol ond tanau fydda nhw i mi tra bydda i byw.
Y trydydd cyfrannwr i’r llyfr yw’r llu o feirdd sydd yn moli byd natur. Mi gewch chi benderfynu eich hunan pa rai sydd yn canu o brofiad uniongyrchol o’r creadur neu’r planhigyn byw, a pha rai sydd yn well ganddynt y geiriau na’r gwrthrych. Un peth sy’n sicr, mae Bethan Wyn yn adnabod cymeriad pob bod byw y mae’n ei ddisgrifio, a diolch i’r dilyniant a enillodd ymysg darllenwyr Yr Herald Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf, mi fydd llwyddiant y gyfrol hon yn anochel.
Duncan Brown
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Author Biography: Mae Bethan yn llais cyfarwydd iawn i wrandawyr Radio Cymru gan mai hi yw un o arbenigwyr y rhaglen byd natur bobologaidd, Galwad Cynnar. Cefndir gwyddonol sydd gan yr awdures, sy'n wraig a mam i ddau o blant yn y coleg, a bu'n gyfrifol am gynhyrchu rhaglenni gwyddonol BBC Radio Cymru am gyfnod. Further Information: Byd natur bendigedig Bethan
Sawl tro dros y blynyddoedd diweddar y clywsoch chi rywun yn cwyno nad yw'r tymhorau mor amlwg ag y buon nhw? Eleni, a'r haf wedi bod yn gryn fethiant, byddai wedi bod yn hawdd iawn coelio bod rhywbeth mawr wedi digwydd i'n byd natur. Ond dyna gysur mawr a ddaeth yn sgil gweld lliwiau bendigedig yr hydref yn lledu dros y coed a'r llwyni. Ac erbyn hyn, mae blas y rhew wedi cyrraedd hefyd – hwrê am drefn y tymhorau!
Dathlu patrwm byd natur yn ei holl ogoniant ledled y flwyddyn y mae cyfrol newydd sbon gan Bethan Wyn Jones. Lansiwyd Natur y Flwyddyn gan Wasg Gomer yn Rhostrehwfa, Sir Fôn, nid nepell o gartref Bethan ym mhentre Talwrn. Y peth braf iawn am y llyfr newydd hwn yw mai cyfrol ar gyfer unrhyw un sydd wedi mynd am dro yn y wlad a rhyfeddu at wychder byd natur yw hon – does dim angen gwybodaeth nac arbenigedd o gwbl, dim ond y gallu i agor eich llygaid a rhyfeddu at ogoniant blodau a choed ac adar ac anifeiliaid ar bob adeg o'r flwyddyn.
Cawn ein tywys yn hyderus yn llaw wybodus ond cyfeillgar Bethan Wyn Jones drwy flwyddyn gron o dyfu a marw ’nôl, o eni ac aeddfedu, o grwydro'r glannau ar ddiwrnodau braf a chwtsho yn agos i gartre ar ddyddiau byrion canol gaeaf.
Mae'r gyfrol hardd, clawr caled, yn gyfuniad o nodiadau misol Bethan, dyfyniadau byrion o farddoniaeth gan rai o'n hoff feirdd – pobl fel T. Llew Jones, Waldo, R. Williams Parry a Cynan, er enghraifft – a'r cyfan wedi ei gyfoethogi gan luniau bendigedig o fyd natur gan y ffotograffydd dawnus Jim Saunders. Mae rhai o'r lluniau'n gallu mynd â'ch hanadl: llun clos o eithin yn aur llachar yn erbyn yr awyr lasaf welsoch chi erioed; y wawr yn torri ar fore rhewllyd, yn binc a phorffor a glas; aderyn du yn barod i ganu cân bêr. Hawdd iawn cydymdeimlo â'r bardd Pennar Davies, wrth iddo ddweud ‘ Fy Nghymru wen, rhaid bod y Nef yn lân / Os yw'n rhagori ar dy lendid di…’
Ond mae darllen y llyfr hyfryd hwn yn codi cwestiynau hefyd; wrth ryfeddu at allu byd natur i adnewyddu'i hun mor rheolaidd, heb gloc na chalendar o fath yn y byd, rydym yn ymwybodol bod grymoedd cynhesu bydeang yn bygwth y cyfan hyn. Does ond gobeithio mai cofnod ac nid hanes fydd cynnwys Natur y Flwyddyn am flynyddoedd mawr i ddod. |
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|
|
More Titles
|
People who bought this title also bought the following:
|
Book of the Month
|