Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525Dafydd Johnston Gweld rhagor o deitlau gan 'Dafydd Johnston'
ISBN: 9780708319260 (0708319262)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2005
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, Caerdydd
Fformat: Clawr Caled, 239x158 mm, 496 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o stoc dros dro Ein Pris: £48.00 
Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Gwaith Beirdd yr Uchelwyr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed oedd uchafbwynt traddodiad barddol Cymraeg yr Oesoedd Canol. Hon yw'r gyfrol gyntaf i gynnig darlun cynhwysfawr o lenyddiaeth y cyfnod hwnnw yn ei holl agweddau. Rhoddir ystyriaeth fanwl i rai o gewri'r cywydd megis Dafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Guto'r Glyn, Dafydd Nanmor, Lewys Glyn Cothi a Thudur Aled.

'Beirdd yr Uchelwyr' in the fourteenth and fifteenth centuries are considered to be the pinnacle of the bardic tradition in Wales in the Middle Ages. This is the first attempt at giving a comprehensive look at the period's literature in all its aspects. Attention is given to masters of the cywydd, such as Dafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Guto'r Glyn, Dafydd Nanmor & Lewys Glyn Cothi.
Digwyddiad gwirioneddol gyffrous ym myd llenyddol Cymru yw ymddangosiad yr astudiaeth drylwyr a swmpus hon. Ni fu ymdriniaeth mor fanwl â llenyddiaeth y cyfnod rhwng Llywelyn y Llyw Olaf a'r Deddfau Uno ers cyhoeddi ail gyfrol y Guide to Welsh Literature yn 1979, ac yn sicr fe fydd y gyfrol newydd hon yn ei disodli fel y llawlyfr safonol ar y maes.

Prif gamp Dafydd Johnston yn ddiau yw cyflwyno maint y deunydd sydd yno, mewn golygiadau print ac, yn fwy defnyddiol fyth, mewn llawysgrifau anolygedig. Y mae barddoniaeth Gymraeg y bymthegfed ganrif yn arbennig mor helaeth, a chymaint ohoni heb ei astudio'n fanwl gan unrhyw un, fel mai o'r braidd y gall hyd yn oed ysgolheigion profiadol ei hamgyffred yn ei chrynswth. Gan hynny, fe fydd croeso arbennig i benodau 9 a 14, ‘Beirdd y Bymthegfed Ganrif’ a ‘Cyfnod y Tuduriaid’, sy'n cynnwys arolwg manwl o feirdd y cyfnod yn ôl rhanbarthau'r wlad.

Crynhoir gwybodaeth werthfawr iawn am bwnc digon dadleuol, sef cyfundrefn y beirdd, ym mhennod 2, ac y mae pennod 4 ar ‘Y Cywydd’ yn nodedig am drafod cywyddau'r cyfnod cyfan ac am ganfod newidiadau yn arddull y farddoniaeth. Dyna osod sylfeini ar gyfer dealltwriaeth fanylach o hynt a helynt y cywydd na'r rhaniad syml arferol rhwng gwaith y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed. Caiff Dafydd ap Gwilym bennawd iddo'i hun, a cheir pennawd hefyd ar ryddiaith y cyfnod, pwnc a esgeulusir yn gyffredin. Nodwedd arall ar y llyfr yw'r sylw manwl a roir i wahanol genres, yn enwedig y canu crefyddol, y canu serch, dychan a'r canu proffwydol. Y mae'r olaf yn sicr yn erfyn am gyflwyniad hwylus a dealladwy, ac nid yw pennod 12, ‘Proffwydoliaeth a Phropaganda’, yn siomi.

Gellir canmol diwyg y llyfr hefyd. O'r diwedd, y mae Gwasg Prifysgol Cymru wedi deall bod nodiadau ar ddiwedd llyfr neu bennawd yn ddim namyn ysgogiad i Repetitive Strain Injury, a braf yw gweld troednodiadau hwylus a chryno yn cyfeirio'r darllenydd at ffynonellau'r wybodaeth a deunydd darllen pellach. Y mae digon o wybodaeth newydd yn y troednodiadau i gadw ysgolheigion Cymraeg yn brysur am sbel go hir, fel y gallaf dystio fy hun.

Bydd y llyfr hwn o ddiddordeb mawr i ysgolheigion a myfyrwyr. Oherwydd i'r awdur ysgrifennu mewn arddull rwydd a bywiog, fe fydd hefyd yn plesio carwyr llenyddiaeth Cymru y tu hwnt i'r maes academaidd, a dylai gael croeso brwd gan unrhyw un a fyn gyflwyniad hwylus i'r cyfnod cyfoethocaf yn hanes llenyddiaeth Cymru. Fel sy'n wir, ysywaeth, am lawer o lyfrau ysgolheigaidd, y mae'r pris yn peri gwingo; ond yn yr achos arbennig hwn gallaf ddatgan yn hyderus fod y gyfrol yn werth ei phrynu.

Barry Lewis

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Bywgraffiad Awdur:
Brodor o Swydd Efrog yw Dafydd Johnston ac ef yw Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Abertawe. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar lenyddiaeth Cymru o bob cyfnod gan gynnwys tri golygiad pwysig,
Gwaith Iolo Goch (1988), Gwaith Lewys Glyn Cothi (1995) a Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (1998), yn ogystal â dau gasgliad thematig sydd wedi torri tir newydd, Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (1991) a Galar y Beirdd (1993). Ef yw awdur y gyfrol ar lenyddiaeth Cymru yng nghyfres Llyfrau Poced Gwasg Prifysgol Cymru.
Gwybodaeth Bellach:
"Mae hon yn astudiaeth aeddfed ac amheuthun o gynhwysfawr gan un sy’n awdurdod yn y maes. Prif gryfderau'r gwaith yw eglurder y cyflwyniad, manylder yr arolwg a threiddgarwch arbennig yr ymdriniaeth feirniadol."
Huw Meirion Edwards, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

"Dafydd Johnston's detailed but readable account of Welsh literature in the period 1300-1525 will be the standard work of reference for many years to come. Its careful and incisive discussion of a variety of compositions will prove invaluable for literary scholars and historians alike."
Dylan Foster Evans, Welsh History Review 24 Part 1

Gwaith Beirdd yr Uchelwyr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed oedd uchafbwynt traddodiad barddol Cymraeg yr Oesoedd Canol. Hon yw'r gyfrol gyntaf i gynnig darlun cynhwysfawr ac awdurdodol o lenyddiaeth y cyfnod hwnnw yn ei holl agweddau. Rhoddir ystyriaeth fanwl i rai o gewri'r cywydd megis Dafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Guto’r Glyn, Dafydd Nanmor, Lewys Glyn Cothi a Thudur Aled, a sonnir yn ogystal am lu o feirdd mawr a mân a'r tai lle caent groeso ar eu teithiau clera ar hyd a lled y wlad. Dyfynnir llawer o gerddi difyr, rhai ohonynt yn haeddiannol enwog ac eraill sy'n derbyn sylw yma am y tro cyntaf. Trafodir rhychwant eang o farddoniaeth, yn fawl a marwnad urddasol, yn ganu gofyn ffraeth, yn ganu crefyddol dwys, yn broffwydoliaethau gwleidyddol, yn ganu serch ac yn ganu dychan deifiol. Rhoddir cyfrif hefyd am y rhyddiaith amrywiol sy'n ddrych i ddiwylliant cyfoethog y cyfnod. Roedd hon yn llenyddiaeth drwyadl gymdeithasol ac felly esbonnir arwyddocâd y gweithiau yn eu cyd-destun hanesyddol, ond rhoddir pwyslais cyson hefyd ar eu gwerth llenyddol a'u hapęl at y darllenydd cyfoes.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyflwyniad i Astudio'r ...
D. A. Thorne
£16.99
 
Prynwch
Trioedd Ynys Prydein / ...
 
£65.00
 
Prynwch
Cyfres Hanes Cymdeithasol ...
 
£29.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mynd dan Groen
Sonia Edwards
£7.99
 
Prynwch
Saesneg
No Room to Live - A ...
Wynford Ellis Owen
£11.95
 
Prynwch