Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Golau Gwyrdd: Tŷ Ar Lôn Glasgoed, Y
Sonia Edwards
ISBN: 9780862437749 (0862437741)Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2005
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 183x121 mm, 72 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £3.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel fer am ferch ifanc yn ceisio ond yn methu ymryddhau oddi wrth afael ffrind ysgol arni, gan arwain at drychineb pan gaiff ei haflonyddu gan ysbryd merch ifanc arall wedi iddi ymweld â lloches i gam-ddefnyddwyr cyffuriau, gyda geirfa ddefnyddiol ar ymyl pob tudalen; ar gyfer dysgwyr.

A short novel about a young girl who tries but fails to free herself from a school friend's hold over her, leading to tragedy when she is disturbed by the ghost of another young girl after she visits a shelter for drug misusers, with a useful glossary on each page; for Welsh learners.
Nid yw dysgu Cymraeg yn beth newydd, ond mae’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr y presennol o ran amrywiaeth o ddefnyddiau darllen, yn enwedig nofelau, wedi gwella’n arw.

Nid yw ysgrifennu nofelau ar gyfer dysgwyr yn beth newydd chwaith. Cafwyd nofelau antur gan Ifor Owen ac eraill yn y saith degau, Philip Davies yn yr wyth degau, wedyn Bob Eynon a Pat Clayton oedd i gyd yn cyfrannu at ddysgu Cymraeg ac yn help wrth fynd ati. Ar ddiwedd y naw degau daeth cyfres Nofelau Nawr gan Wasg Gomer oedd yn torri tir newydd eto ac yn cyffwrdd â phob math o bynciau. Roedd yn bosib dod o hyd i o rai a fyddai at ddant pob darllenydd.

Gyda nofel newydd cyfres Golau Gwyrdd, Y Tŷ ar Lôn Glasgoed , dyma dorri tir newydd eto a braf yw gweld y datblygiad hwn. Pobl ifainc a chyffuriau yw’r pwnc, wedi’i gyflwyno’n gelfydd gan yr awdures brofiadol, Sonia Edwards.

Gwawr yw’r prif gymeriad a chawn ni hanes ei pherthynas hi a Sam, ei ffrind ers dyddiau eu plentyndod, a chipolwg ar gefndir y ddwy. Gyda’r ysgrifennu’n gynnil mae’r cipolwg yn ddigon i wneud i’r darllenydd deimlo ei fod yn nabod y ddwy. Wrth iddyn nhw gyfarfod mewn tŷ gwag, mi ddôn nhw o hyd i gorff merch sy’n peri dychryn iddynt.

Enw Gwawr a Dawn yw teitlau pob pennod. Dawn yw’r ysbryd yn y stori, ysbryd y ferch a ddarganfuwyd ganddynt, a chawn glywed ganddi hi ei hanes: ‘Nain oedd yn edrych ar fy ôl i. ond aeth hi’n sâl, do? Ac wedyn doedd 'na neb. Mi fues i am ychydig mewn cartre plant nes fy mod i’n un deg chwech oed. Cic allan ar fy nhin wedyn. Byw’n ryff. Drysau siopau. Heroin. A hyn . . .’

Beth ydy’r cysylltiad rhwng Dawn a Gwawr yw un o’r cwestiynau ddaw i feddwl y darllenydd yn syth ac un o’r rhesymau dros beidio â rhoi’r llyfr i lawr nes cyrraedd y diwedd, gan obeithio dod o hyd i’r ateb.

Mae’r llyfr yn hynod o hawdd i’w ddarllen gyda geirfa Saesneg ar ochr y dudalen gyferbyn â’r gair Cymraeg sydd mewn italig, yn lle bod mewn rhestr ar waelod y dudalen. Mae’r brawddegau’n fyr ac yn creu drama sy’n gwneud y darllen yn haws.

Bydd y nofel yma yn ateb y galw gan ddysgwyr sydd yn hoff o nofelau dyfnach, llai arwynebol, ac yn ychwanegu at y dewis eang o lenyddiaeth ar eu cyfer.

Shirley Williams

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Enillodd Sonia Edwards gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn 1996 a’r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1999. Mae’n enedigol o Gemaes, Môn ac yn byw ac yn gweithio yn Llangefni.
Gwybodaeth Bellach:
Cymorth Newydd i Ddysgwyr

Gyda’r angen cynyddol am gymorth i ddysgwyr ddarllen Cymraeg , mae cyfres newydd sbon o nofelau yn cael eu lansio gan Y Lolfa – cyfres wedi ei pharatoi a’i chynllunio’n benodol ar gyfer dysgwyr.

Teitl y gyfres yw Cyfres Golau Gwyrdd a’r nod yw annog dysgwyr i ddarllen ffuglen Cymraeg gyda nofelau byr, difyr gan awduron safonol. Ac er mwyn helpu dysgwyr, rhoddwyd geirfa pwrpasol Saesneg-Cymraeg ar ymyl pob tudalen.

Yn ôl Lefi Gruffudd o’r Lolfa: “Y nod yw cynorthwyo dysgwyr i ddod i’r arfer o ddarllen Cymraeg, fel y byddan nhw’n gallu ennill hyder i fynd ymlaen i ddarllen llyfrau mwy uchelgeisiol. Bydd y nofelau yn rai gafaelgar wedi eu hysgrifennu gan awduron safonol, gan ddechrau gyda’r llenor Sonia Edwards.”

Teitl nofel gynta’r gyfres gan Sonia Edwards yw ‘Y Tŷ ar Lon Glasgoed’, ac mae’n nofel 70 tudalen wedi ei lleoli mewn hofel o dñ sy’n cael ei ddefnyddio gan bobl ifanc ar gyffuriau - nofel afaelgar sy’n clymu cyfeillgarwch, cyffuriau a’r byd ysbrydol. Mae sawl llyfr arall ar y gweill yn y gyfres yn cynnwys nofel gan Elin Meek.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Byd Guto Gwningen a'i ...
 
£10.20
 
Prynwch
Dial Dau / Revenge for Two
Ivor Owen
£5.25
 
Prynwch
Goeden Wen, Y
Sonia Edwards
£4.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Cyfres y Dderwen: Rhywle ...
Sonia Edwards
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Library of Wales: ...
W. H. Davies
£8.99
 
Prynwch