Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Rhag Pob Brad - Cofiant Gwynfor Evans
Awdur: Rhys Evans
Gweld rhagor o deitlau gan 'Rhys Evans'
ISBN: 9780862437954 (0862437954)
Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2005
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Caled, 640 tudalen
Ar gael 
Sgôr y Darllenwyr ar gyfartaledd:
(4.1/5 seren ar gyfartaledd)
 
 
Rhag Pob Brad - Cofiant Gwynfor Evans
Ein Pris: £24.95 
Cofiant cynhwysfawr, dadansoddol am un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol ac allweddol yng ngwleidyddiaeth Cymru yn yr ugeinfed ganrif; yn cynnwys llawer o ffeithiau newydd am ei fywyd personol a'i yrfa.

A comprehensive and analytical biography of one of the most influential and key figures on the Welsh political scene of the twentieth century, including new facts about his personal life and career.
Mae adolygiad ychwanegol yn dilyn

Y mae'r ffaith fod Rhys Evans yn ei ‘Ragair’ yn gorfod dweud wrth y darllenydd nad aberthlyfr ar allor Gwynfor mo'r cofiant rhagorol hwn yn dweud llawer am natur myrdd o'r cenedlaetholwyr y tybiai'r awdur ei fod yn eu cyfarch. Sef, pobl wedi'u maethu ar y syniad bod Cymru megis yn ail Israel (Israel yr Hen Destament nid Israel 1948), yn wlad a gâi ei harwain i wynfyd annibynnol gan wron eneiniedig o Foses neu Fab Darogan. Pobl a'u gwleidyddiaeth ddiniwed (neu ddelfrydol) yn cael ei diffinio gan Gwenallt ('Duw a'th wnaeth yn forwyn iddo') a Phennar Davies ('Fy Nghymru wen, rhaid bod y nef yn lân /Os yw'n rhagori ar dy lendid di'), ie, a chan Gwynfor Evans ei hun, a fynnai ei fod, hyd yn oed yn saithdegau'r ugeinfed ganrif faterol, wrth ymladd etholiadau Prydeinig, yn estyn cortynnau'r gwareiddiad Cristnogol gyda rhubanau gwyrddion Plaid Cymru. A ninnau'n nesáu at ddiwedd ail lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, a'r Gymru ddatganoledig yn gyfrifoldeb problematig byw inni oll, yr wyf yn amau y bydd mwy o blant realiti nag o ddelfrydwyr yn prynu ac yn darllen y llyfr hwn.

Byddant yn rhwym o gael gwledd, gwledd o wybodaeth fanwl wedi'i threfnu a'i threulio gan awdur na luniodd ddim hirach na sgript radio neu deledu cyn hyn. Dywedwyd droeon yn ystod y misoedd o flaen-sylw a roddwyd i'r llyfr fod Rhys Evans wedi bod yn gweithio arno 'ers blynyddoedd'. Wel, do, rhyw dair blynedd a hanner, sydd ddim yn llawer i feidrolyn o ohebydd gwleidyddol. Yn yr amser byr hwnnw darllenodd archifau'r Blaid, darllenodd bapurau Gwynfor a llu o wleidyddion eraill, darllenodd bapurau perthnasol y PRO, cynhaliodd gyfweliadau gyda nifer mawr o wleidyddion, perthnasau i Gwynfor, ac yn y blaen, a llunio cofiant sy'n adrodd hynt y gwrthrych o'i fachgendod yn y Barri hyd at ei farw yn afieithus awdurdodol.

Y gwir amdani yw bod y cofiant cig-a-gwaed hwn sy'n darlunio Gwynfor ystyfnig, mulaidd-ddigyfaddawd, anystyriol-o-eraill yn ogystal â Gwynfor gweithgar reiol, rhagor na'r Gwynfor gwynfydedig chwedlonol a greodd ei ddisgyblion o Lys Llangadog (chwedl Harri Webb), yn rhoi inni arwr o hyd, sef yw hwnnw arweinydd diorffwys y mudiad a etifeddodd oddi wrth Saunders Lewis, y piwritan pengaled a aberthodd gymaint o fwyniant naturiol gŵr a thad i fod yn benadur teulu Gwalia, gan ddioddef beirniadaeth fewnol ac allanol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Dim ond dyn perffaith sicr o'i genhadaeth a fyddai wedi cadw i fynd yn wyneb y fath fustl ag a ddioddefasai ef. Ac o ystyried y bustl – o gyfeiriad Penarth fel o gyfeiriad Llafur Westminster – bron nad yw dyn yn falch bod rhai o'i addolwyr yn y Blaid mor unllygeidiog o faldodus ohono. Er, drwy'r barnu a'r canmol i gyd, prif arwr (neu'n hytrach, prif arwres) y llyfr yw Rhiannon Prys, gwraig Gwynfor, nas gwelai weithiau am fis bwy'i gilydd, ac a fagodd deulu da bron yn ei absenoldeb. Yr oedd ganddo ef ei hunan dyb (yn yr ystyr orau) a'i weledigaeth i'w gadw i fynd. Cariad ato – ac o raid at ei achos, er mor athrist hwnnw'n aml – a’i cadwai hi.

Nid y lleiaf dirdynnol o ddatgeliadau Rhys Evans yw'r pethau a ddyfyd Dafydd Evans, un o'r meibion, yn ei ddyddlyfr. Ond y mae cynifer o ddatgeliadau yma! Dyna'r gynhaliaeth a gafodd Gwynfor gan Rhys Davies ar ôl iddo golli Caerfyrddin yn 1970. Dyna'r gefnogaeth wych a gafodd gan ei dad ac yna gan ei frawd, Alcwyn, wedyn. Pethau preifat yn hyrwyddo'r cyhoeddus oedd y pethau hyn. Ar yr ochr gyhoeddus, dyna'r holl frywesau yr oedd gan Gwynfor ei fysedd ynddynt, o Gyngor Sir Gaerfyrddin hyd at Deledu Cymru, ac yntau – eto – yn gorfod dibynnu ar ei acolytiaid i'w swcro yn nydd trallod. Bydd rhan fawr iawn iawn o'r hanes hwn yn newydd i gannoedd ar gannoedd o ddarllenwyr awchus y llyfr: hanes newydd i'w groesawu'n awchus ydyw.

O raid, gan rwydded y rhed amser, bydd nifer mawr o'r dramatis personae a geir yn y llyfr yn ddieithr i lu o'r darllenwyr hynny. Peidiais i â chwrs o ddarlithoedd ar Rethreg bymtheng mlynedd yn ôl am na wyddai fy myfyrwyr pwy oedd Gwynoro Jones! Sylw ofnadwy yw'r sylw bod llyfr pum can tudalen a hanner yn rhy fyr, mi wn, ond, er mwyn cenedlaethau'n codi, da o beth mewn argraffiad newydd fuasai cael rhestr o fywgraffiadau byrion o bobl fel J.E. Jones, Elwyn Roberts, Dr Gwenan, Emrys Roberts, Elystan Morgan yntau, Hughes Bogota, ac yn y blaen. Diau y byddai llawer o'i edmygwyr yn barod i gynorthwyo Rhys Evans gyda'r manwaith hwn, os yn unig er mwyn cael bod â rhan fechan mewn gwaith gwirioneddol angenrheidiol.

Canmolaf y testun yn frwd frwd. Dymunaf ganmol y detholiad o luniau a geir ynddo hefyd (godidog o lun yw'r llun Mosesaidd yn edrych ar y wlad ger Tynllidiart)a'r argraffwaith hael gan y Lolfa. Llyfr o destament angenrheidiol wedi'i weithio'n wych. Saliwt, Rhys Evans! Saliwt.

Derec Llwyd Morgan

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

ADOLYGIAD YCHWANEGOL

Mae Gwynfor: Rhag Pob Brad, gan Rhys Evans, yn glamp o lyfr am gawr o ddyn. Cofiant am Gwynfor Evans, gwleidydd sy’n cael ei ystyried gan yr awdur yn un o ‘benseiri gwleidyddol y genedl’. Does fawr neb yn debygol o anghytuno â hynny.

Llyfr Bwrdd Coffi a geir yma – mae’n pwyso cymaint â chopi Hen Nodiant o Caneuon Ffydd! Rhwng ei gloriau lliwgar, am 458 tudalen mae yna stôr o wybodaeth werthfawr, dehongli craff ac ysgrifennu coeth. Nod y llyfr yn ôl yr awdur ydi esbonio pam fod Gwynfor Evans mor ddylanwadol yn hanes diweddar Cymru a’r Gymraeg. Mae’n llwyddo i gyflawni hynny.

Bûm yn ffodus i gael nabod Gwynfor Evans am ddeugain mlynedd a mwy. Roedd y cyfarfyddiad cyntaf rhyngom yn hynod anffodus, ac yn y ‘Quad’ yn Hen Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth y digwyddodd hynny. Roedd yr Athro David Williams wedi fy annog i ystyried gwneud fy ymchwil ôl-radd ar hanes Plaid Cymru. Fe fu’r Athro yn dysgu hanes i Gwynfor Evans yn Barry County School fel yr oedd bryd hynny. Awgrymodd yr Athro fy mod yn trefnu cyfarfod i sicrhau caniatâd Llywydd Plaid Cymru i mi ddarllen papurau preifat a chyfrinachol y Blaid.

Yng nghysgod cofgolofn Prifathro cynta’r Coleg fe ddywedodd Gwynfor Evans ‘na’. Ni chafwyd math ar esboniad, a chyda’r cwrteisi fu’n gymaint rhan o’i bersonoliaeth dymunodd y gorau i mi mewn maes ymchwil arall. Yn ffodus i mi, roedd criw uned ‘Heddiw’ BBC Cymru wedi datgan diddordeb i’m cyflogi’n ohebydd i’r rhaglen ddyddiol. O fewn ychydig wythnosau i’r cyfarfod rhyngom yn yr Hen Goleg, roedd Gwynfor a minnau'n wynebu ein gilydd mewn stiwdio deledu. Ac felly y bu hi am ugain mlynedd a mwy yn trafod llawer ar amgylchiadau sy’n sail i’r cofiant.

Fe fyddwn wedi bod yn well newyddiadurwr petawn i’n gwybod bryd hynny'r hyn a ddatgela Rhys Evans yn awr. Ond dyna’r fantais sydd gan gofiadur dros newyddiadurwr. Mae cofiadur yn gwybod diweddglo’r stori cyn dechrau ei ymchwil. Gweithio tuag yn ôl mae cofiadur, gan geisio sicrhau nad ydy o’n dewis gorliwio neu gamddehongli ei ymchwil i siwtio’r diweddglo hwnnw. Nid yw Rhys Evans yn disgyn i’r trap hwn gan ei fod yn deall fod gwleidyddion, fel pawb arall, yn newid eu meddwl, yn dilyn sawl cwys wahanol cyn dod i benderfyniad terfynol.

Petai’r cyfle gan Gwynfor Evans i edrych yn ôl, dwi’n siŵr y byddai o wedi dewis gwneud pethau’n wahanol – yn Nhryweryn, yn ei gysylltiadau gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn yr Arwisgo – a hyd yn oed yn ei gyfathrach gyda George Thomas ac, o bosib, Saunders Lewis.

Mae nifer o wleidyddion Plaid Cymru – Dafydd Wigley, Cynog Dafis, a hyd yn oed Gwynfor Evans ei hun – wedi sgwennu hunangofiannau, ond yr hyn sy’n arbennig am Gwynfor: Rhag Pob Brad ydy bod yr awdur yn cynnig darlun cyflawn – ‘warts and all’, fel petai – o Gwynfor Evans a’r sefyllfa a wynebai ar y pryd.

Mae llawer o’r manylion am Gwynfor, ei lwyddiannau a’i fethiannau, eisoes yn hysbys. Yr hyn y mae’r cofiant hwn yn ei gynnig ydy gwell dealltwriaeth o’r cefndir, o’r awyrgylch oedd yn bodoli ar y pryd, a rôl a chyfraniad yr unigolion hynny oedd yn y cysgodion ond a oedd eto’n ddylanwadol oherwydd bod ganddynt glust Gwynfor Evans, ac am fod arweinydd Plaid Cymru – am wahanol resymau – yn ddibynnol arnynt. Unigolion oedd y rhain, pobl oedd ar y cyrion, unigolion na fyddai fyth yn mynd i sefyll mewn etholiad, ond unigolion a oedd yn hanfodol i Gwynfor Evans a Phlaid Cymru. Mae’r Barnwr Watkin Powell, yn ôl y cofiant, yn datblygu yn un o’r pwysicaf o’r rhain.

Oherwydd bod hynt a helynt Plaid Cymru ers llwyddiant isetholiad Caerfyrddin yn 1966 yn weddol hysbys, cryfder arbennig Gwynfor: Rhag Pob Brad i mi ydy’r drydedd bennod. Yn ‘Yr Heldrin Fawr 1939–45’, mae'r awdur wedi llwyddo i fynd i fêr esgyrn ei wrthrych mewn modd rhyfeddol o effeithiol. Os oes ar y darllenydd angen gwybod beth wnaeth Gwynfor Evans yn gawr o wleidydd, yna ceir yr ateb yn y fan hon. Mae’n anodd i’r genhedlaeth newydd lawn ddirnad gwir gost yr Ail Ryfel Byd. Fe gollwyd cymaint. Er nad aeth Gwynfor Evans i ryfel, roedd ganddo frwydr a oedd yr un mor ffiaidd – o fewn y teulu ac yn ei fro fabwysiedig.

Yn y bennod hon, fe geir uchafbwynt y cofiant wrth i Gwynfor Evans amddiffyn ei heddychiaeth wrth ymdrechu i weithredu fel cenedlaetholwr. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, pan gollwyd Epynt a phan foddwyd Cymreictod llawer i ardal dan don o faciwîs, fe ymbalfalodd Gwynfor Evans am ffordd i ‘achub Cymru’.

Yn ddiweddarach yn ei yrfa, bu'n rhaid i Gwynfor Evans ddewis rhwng llwybr unig hunanlywodraeth ac un o bartneriaeth amlbleidiol datganoli. I ddeall y boen meddwl a’r gwewyr oedd yn rhan o’r broses hon, mae gofyn i ni ddeall y dyn. Dyma beth yw cyfraniad mwyaf Gwynfor: Rhag Pob Brad.

Arwel Ellis Owen

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Bywgraffiad Awdur:
Ganed Rhys yng Nghaerfyrddin a'i fagu yn Aberystwyth. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Penweddig ac yng Ngholeg Hertford, Rhydychen. Ers dros ddegawd mae'n gweithio fel newyddiadurwr i BBC Cymru. Rhag Pob Brad yw ei gyfrol gyntaf.
Gwybodaeth Bellach:
"Heb os mae hwn yn un o'r bywgraffiadau gwleidyddol gorau i mi ddarllen mewn unrhyw iaith"
Vaughan Roderick
"Mae hanes y dyn arbennig hwn, a greodd y Gymru yr ydym yn byw ynddi heddiw, wedi ei groniclo'n gelfydd iawn yn y cofiant hyfryd hwn."
Dylan Lewis, Clonc
"Ceir yma hefyd ddarlun gonest a chignoeth o'i fywyd personol, gan dreiddio o dan croen yr eicon arwrol i greu portread gafaelgar, cyflawn o wleidydd a thad, meidrolyn a gwr."
A470
"Nid gormodiaith yw galw'r gyfrol yma yn gampwaith - llwyddodd ei hawdur i saernio darlun sy'n gytbwys tra'n finiog, yn gynhwysfawr tra'n ddifyr tu hwnt..."
Dr Richard Wyn Jones
“Gwerth digamsyniol cyfrol arddechog Rhys Evans yw ateb nifer o gwestiynau sy’n ymwneud â sut a phaham y bu i Gwynfor ymddwyn yn y ffordd y gwnaeth. Cawn yma hanes ffurfiant cymeriad unigryw, cymhleth ac argyhoeddiedig, un a oedd, ar yr un pryd fel petai, yn cynrychioli’r math o Gymro y dymuna nifer fod, heb iddynt wybod yn union paham.”
Colin Williams, Taliesin Haf 2006
“Gwyrth y dehongliad yw’r ffordd campus y mae Rhys Evans yn cyflwyno cymaint o ffeithiau fel petaent yn rhai amlwg.”
Colin Williams, Taliesin Haf 2006
“Mawr hefyd yw’r ddyled i Rhys Evans am groniclo oes Gwynfor mewn dull mor fyddlon a chytwbys…astudiaeth o gymeriad unigolyn a geir yma, nid hanes gwleidyddol a chymdeithasol y genedl yn unig.”
Colin Williams, Taliesin Haf 2006
“Does dim byd yn ymhonnus yn ei ddull o gyflwyno. Yn hytrach, mae’n tynnu’r darllenydd I mewn ac yn ei arwain ar daith drwy hanes gwleidyddiaeth Cymru yr ugeinfed ganrif.”
Catrin Beard
“Mae’r cyfanwaith yn ddifyr, dadlennol a dramatig”
Dafydd Glyn Jones
“Rhinwedd mawr yn y llyfr, rhinwedd mewn unrhyw gofiant neu lyfr hanes, yw ei fod yn codi tryblith o feddyliau. Meddyliau croes yw llawer ohonynt, yn ein hanesmwytho ynghylch ein safbwyntiau a’n dewisiadau ein hunain yn ystod y cyfnod maith a ddisgrifir.”
Dafydd Glyn Jones
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol: