EICH BASGED
EWCH I...
CYSYLLTIADAU
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Lliwiau Liw Nos |
| Awdur: Fflur Dafydd Gweld rhagor o deitlau gan 'Fflur Dafydd'
|
| ISBN: 9780862438494 (0862438497) |
Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2005
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont |
| Fformat: Clawr Meddal, 183x120 mm, 158 tudalen |
| Ar gael |
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
|
| | |
|
|
| |
|
|
|
Ein Pris:
£6.95
|
|
Nofel gyntaf yr awdures a'r gantores o Landysul. Adroddir hanes pedwar yn cyd-fyw mewn bloc o fflatiau mewn dinas fyrlymus. Y mae'r nofel yn ymdrin a themau megis unigedd a dioddefaint.
A debut novel by the author and singer from Llandysul. It tells the story of four very different friends who co-inhabit a block of flats in a city full of excitement. The novel involves themes such as loneliness and suffering.
|
|
Bu 2005 yn flwyddyn fawr i ferched y byd llenyddol Cymraeg – roedd y tair a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn yn nofelwragedd, ac er bod y nofel yng Nghymru wedi cael ei dominyddu gan ddynion yn y gorffennol (gydag eithriadau prin, ond pwysig, wrth gwrs), fe gyhoeddwyd cnwd o nofelau amrywiol wedi eu hysgrifennu gan ferched. Mae nifer ohonynt, megis Omlet, Nia Medi a Corcyn Heddwch, Beca Brown yn etifeddion traddodiad modern y ‘chic-lit’ Bridget-Jonesaidd – a diolch amdanynt. Nid beirniadaeth yw dweud hynny mewn hinsawdd lle mae mawr angen nofelau ysgafn, ffwrdd-â-hi i gystadlu gyda chynnyrch tebyg yn Saesneg. Ond mae Lliwiau Liw Nos mewn cae cwbl wahanol.
Comedi ddu yw’r nofel liwgar hon – nid y gyntaf na’r olaf o’i heironïau. Wedi ei lleoli mewn bloc o fflatiau mewn dinas anhysbys, mae’r awdur yn adrodd hanes trigolion y tri chartref sydd ar ben ei gilydd, a’r modd y mae’r drefn honno o fyw yn llywio’u bywydau; er gwaethaf eu hymdrechion i amddiffyn eu hannibyniaeth maent i gyd, yn eu tro, yn cael eu gorfodi i gyfathrachu â’i gilydd mewn amryfal ffyrdd. Gwydion, Lena a’u mab Emlyn sy’n byw ar y gwaelod, Cain yn y canol a’r ddawnswraig ddienw i fyny’r grisiau ar y trydydd llawr – ac er mai dyma’r cymeriad sy’n gweithredu fel catalydd mwya’r stori, mae diweddglo’r nofel a’r ffaith nad yw’n cael ei henwi yn gwneud inni amau ei holl fodolaeth erbyn y diwedd. Ond dyna’r math o nofel yw hon, lle mae’r ffin rhwng ffantasi a realiti’n barhaol amwys ym meddyliau’r cymeriadau, yn yr un modd â’r ffin rhwng lliwiau amrywiol yng nghanol nos. Mae’r gagendor cynyddol rhwng y gŵr a’r wraig yn cael ei adlewyrchu gan y ffaith ei fod o’n ffotograffydd sy’n mynnu gweithio mewn du a gwyn, tra mae hi’n artist rhwystredig sy’n gweld pawb a phopeth yng nghyd-destun lliwiau – ac wrth i bethau fynd o ddrwg i waeth, mae hi’n penderfynu paentio dros graciau eu perthynas drwy baentio ystafelloedd eu fflat mewn enfys o liwiau.
Nid yw’n syndod, felly, fod dadfeiliad ei fonocrom arferol yn deffro’i hanniddigrwydd, a’r lliwiau achlysurol sy’n sleifio i’w fywyd megis arwydd llachar fod rhywbeth mawr o’i le. ‘Ond yn ddiweddar, roedd hi’n sicr ei bod wedi synhwyro rhyw liwiau rhyfedd yn cripian i mewn i’w fywyd, heb yn wybod iddo bron. Prynodd grys-T oren, a chanddo rimyn porffor, er mai’r cyfan a wisgai fel arfer oedd jîns du a chrys gwyn. Roedd e wedi dechrau yfed sudd coch-yr-aeron wrth y bwrdd brecwast, gan dorri’r ddefod foreol o ddŵr a choffi du. Roedd ei lygaid hefyd, a sgleiniai’n ansicr rhwng brown golau a glas, wedi dechrau edrych yn fwy gwyrdd.’
Mae lliwiau hyd yn oed yn llywio’r elfen rywiol gref a berthyn i’r nofel. Mae bywyd carwriaethol y pâr priod wedi dirywio’n enbyd a dysgwn mai ‘dim ond ar nosweithiau glas roedden nhw’n caru bellach. Nosweithiau pan fyddai’r tristwch yn lasach na gorchudd y gwely’, a dim ond ar ôl i Lena beintio’r ystafell ymolchi yn lliw melynwy y maen nhw’n torri’r drefn druenus honno ac yn caru ar y llawr wrth ochr y bath. O’i gymharu, mae Gwydion yn ymdrybaeddu mewn nwyd afreolus yng nghanol cochni’r fflat i fyny’r grisiau lle mae’n dianc oddi wrth ei deulu i ymweld â’r ddawnswraig, tra mae gwynder clinigol fflat Cain yn dyst i’w anhoffter, sy’n ymylu ar alergedd heipocondriaidd, o unrhyw beth mor gorfforol a greddfol â chyfathrach rywiol. Yn wir, mae rhyw yn cael ei wyrdroi gan ymron bob un o gymeriadau’r nofel hon; mae’n fodd o dwyllo cymar yn achos Gwydion, yn egin cyfrinach fawr a thywyll ei wraig, ac yn arf anghynnes y mae’n rhaid i’r ddawnswraig ei defnyddio i gyrraedd ei nod personol.
Ond er ein bod yn cychwyn drwy bitïo’r wraig a’r fistres sy’n cael eu cam-drin gan y twyllwr mawr yn y canol, yn ogystal â darpar-briod Cain sy’n cael ei gadael yn gegrwth yn sêt fawr y capel wrth iddo ef ei heglu hi cyn hunllef eu haddunedau, buan iawn y daw'n amlwg mai’r menywod yw cymeriadau cryfaf y nofel. Er gwaethaf ei gorffwylledd, y ddawnswraig sy’n rheoli’r berthynas arwynebol rhyngddi hi a Gwydion; mae Lena’n dysgu peidio â beio’i hunan am ffaeleddau ei gŵr gan lwyddo i ailafael yn awenau grym ei phriodas, ac fe ddaw’n gynyddol amlwg mai dianc oddi wrth fenyw oedd yn llawer rhy gryf iddo a wnaeth Cain yn y bôn. Ac nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith fod y ddau ddyn gwantan a bortreadir yn cael eu cyflwyno mewn termau du a gwyn o’i gymharu â lliwiau llachar y menywod; dim ond trwy eu hymwneud â’r merched y mae lliwiau’n dechrau treiddio i’w bywydau hwythau.
Dyma enfys o brofiadau y mae’n werth eu profi, ac er nad trysor euraidd sydd ar ei waelod, mae diweddglo’r nofel yn sicr o siglo’r darllenydd a gwneud iddo ef/hi gwestiynu’r holl stori. Fel y dylai unrhyw chwedl gwerth ei halen.
Lowri Rhys Davies
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: Merch o Landysul yw Fflur Dafydd. Graddiodd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, cyn ennill MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol East Anglia a PhD ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd ym 1999. Mae wedi ymgartrefu bellach yng Nghaerfyrddin lle mae’n ddarlithydd rhan-amser yng Ngholeg y Drindod, ac yn awdur a cherddor ar ei liwt ei hun. Bu Fflur hefyd yn brysur yn llunio drama fer bwerus, Helfa Drysor, a gyhoeddwyd gan Wasg y Lolfa. Gwybodaeth Bellach: Nofel Gyntaf yr Awdures yn y Got Goch
Roedd 2005 yn flwyddyn i'w chofio i Fflur Dafydd. Yn gyntaf bu'n cystadlu am y tro cyntaf yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith a dod yn agos i'r brig yn y gystadleuaeth honno. Wedyn lansiodd ei halbwm cyntaf, 'Coch am weddill fy Oes', y bu'n teithio Cymru yn ei hyrwyddo mewn gigs. Hefyd, cafodd ei gwaith ei gyfieithu i Norwyeg, Almaeneg ac Eidaleg, gan mai hi eleni oedd cynrychiolydd Prydain ym mhrosiect stori fer Ewropeaidd y Scritture Giovani, a bu'n ymweld â gwyliau llenyddol ledled Ewrop i ddarllen a thrafod ei gwaith. Ac yn awr mae'n cyhoeddi ei nofel gyntaf, Lliwiau Liw Nos, sydd eisoes wedi plesio'r beirniaid.
Yn ôl yr Athro John Rowlands: "Mae darllen y nofel hon fel nofio o don i don, a'i harddull lachar yn ein codi i'r entrychion un funud, a'n taflu i ddyfnjwn y funud nesaf. Trwy ddychymyg ffrwythlon yr awdur, llwyddir i roi inni olwg newydd sbon ar themâu megis cariad, anffyddlondeb ac eiddigedd, a hynny trwy ddelweddau lliwgar, sy'n creu effaith lesmeiriol weithiau, ond hunllefus dro arall. Llwydda dychymyg yr awdur i brocio chwilfrydedd y darllenydd o'r dechrau i'r diwedd."
Yn ei beirniadaeth ar waith Fflur a ddaeth yn uchel iawn yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith eleni yn y Faenol, dywed Meinir Pierce Jones: "Mae teimlad Ewropeaidd i'r nofel; mae'n gyfoes a soffistigedig, yn llawn posibiliadau. Mae'n ysgrifennu'n sensitif, gan osod haen ar haen, fel paent trwchus, y caiff y darllenydd bleser rhyfeddol o'i blicio ar y darlleniad cyntaf, a'r ail a'r trydydd, i ddadorchuddio'r mân drysorau."
Yn gefndir i'r nofel mae bloc o fflatiau mewn dinas sy'n byrlymu o gyfrinachau. Gall fflat mewn dinas fod yn lle unig a distaw. Ond yn y tair fflat yn y nofel hon mae gwe gudd yn clymu'r cymeriadau wrth ei gilydd - ac, wrth gwrs, mae yna arwyddocâd arbennig i'r lliw coch yn y nofel.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
|
|