| Gwybodaeth Lyfryddol |
| MochRobert Munsch
Gweld rhagor o deitlau gan 'Robert Munsch' |
ISBN: 9780953320622 (0953320626)Dyddiad Cyhoeddi Mai 1998
Cyhoeddwr: Houdmont, CaerdyddDarluniwyd gan Michael MartchenkoAddaswyd/Cyfieithwyd gan Iwan Llwyd.Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 203x203 mm, 24 tudalen
Iaith: Cymraeg
Archebir yn ôl y galw Ein Pris:
£3.95
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Addasiad Cymraeg gan brifardd o Pigs, stori liwgar a doniol am ferch fach yn creu helynt mawr wrth ollwng y moch allan o'r twlc un bore, i blant 4-7 oed.
A Welsh adaptation by a chaired bard of Pigs, a colourful and amusing story about a little girl who creates havoc when she lets the pigs out of their pen one morning, for 4-7 year old children.
|
|
Gwybodaeth Bellach: 'Does dim byd gwell er mwyn denu plentyn i ddarllen na stori sy'n cynnig llond bol o chwerthin. Bonws ychwanegol yw fod hiwmor y Ilyfr hefyd yn apelio'n fawr at rieni, a dyna'n sicr beth a geir yn y tair stori fach hyn. Hanes ymdrechion mam ac athrawon i gael bachgen styfnig fel mul i wisgo'i siwt eira frown 'hyll' a geir yn Siwt Eira Tomos. Adrodd am helyntion Megan wrth ollwng y 'creaduriaid mwyaf twp' a welodd erioed allan o'u twlc a wneir yn Moch, ac yn y drydedd stori, 'Dwi eisiau mynd!, cawn olwg ar yr helynt y mae bachgen o'r enw Andrew yn ei achosi wrth iddo benderfynu 'peidio byth â phi-pi eto' - er mawr ddifyrrwch i'r darllenydd. Fe'n denir ni'n syth gan ddiwyg lliwgar y llyfrau yn ogystal â chan hiwmor bywiog ac iach y straeon. Mae'r tair stori'n hawdd i'w darllen; ceir yma ailadrodd pwrpasol, ac mae maint y print yn addas ar gyfer plant, sy'n cael eu cymell i ddarllen ar eu pennau eu hunain. Credaf fod addasiadau Iwan Llwyd o'r tair stori yn hynod raenus. Braf yw cael testun naturiol a chyhyrog, ac ambell ddisgrifiad gafaelgar, er enghraifft y disgrifiad o'r moch yn sefyll 'fel swigod ar blorod'. Mae'r sefyllfaoedd sylfaenol ddoniol yn ddeniadol dros ben. Yn wir, pa riant sydd heb glywed nain neu fam-gu yn doethinebu, 'Chefais i rioed y problemau hyn gyda 'mhlant i?' Dyma dair o'r storïau doniolaf yr wyf wedi eu darllen ers tro, ac mae'n braf dweud iddynt gael eu haddasu'n Ilwyddiannus i'r Gymraeg. Bydd croeso mawr iddynt. Delyth Parry Huws (Llais Llyfrau) |
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|