Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Arhoswch i Fi!Jonathan Emmett Gweld rhagor o deitlau gan 'Jonathan Emmett'
ISBN: 9781843234531 (184323453X)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2005
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Darluniwyd gan Adrian ReynoldsAddaswyd/Cyfieithwyd gan Sioned Lleinau.Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1 Fformat: Clawr Meddal, 274x245 mm, 32 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.99 
Arhoswch i Fi!
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Addasiad Cymraeg o Someone Bigger, stori fywiog a lliwgar ar ffurf rhigymau yn darlunio trafferthion bachgen bach a'i dad wrth iddynt fynd i hedfan barcud yn y parc ar ddiwrnod gwyntog; i blant 3-5 oed.

A Welsh adaptation of Someone Bigger, a lively and colourful story in rhyming form portraying the troubles of a young boy and his father as they go to fly a kite in the park on a very windy day; for children aged 3-5 years.
`Na chei, ti'n rhy fach!' Dyna eiriau mae'r rhan fwyaf o blant bach yn eu clywed yn llawer rhy aml, ond dyma lyfr sy'n herio'r geiriau hynny ac yn siŵr o apelio at bob plentyn bach rhwystredig! Yn wir, erbyn i ni gyrraedd y tudalen olaf, roedd fy mhlentyn 5 oed i yn neidio ar y gwely ac yn gweiddi hwrê mawr wrth i'r bachgen bach yn y stori brofi'r geiriau hyn yn anghywir.

Ar ôl treulio'r bore yn adeiladu barcud anferth, mae Llŷr a'i dad yn mynd allan i'r gwynt i'w hedfan. Ond pan mae Llŷr yn gofyn am gael y tro cyntaf, mae Dad yn dweud wrtho nad yw'n ddigon mawr i afael yn y cortyn . . . a dyna lle mae'r hwyl a'r helynt yn cychwyn. Mae'r barcud yn codi Dad i'r awyr, ac yna cawn gyfres o bobl ac anifeiliaid eraill sy'n trio ei achub. Ynghanol yr helynt, mae Llŷr yn galw drosodd a drosodd 'Plis a ga i gyfle? Nid babi ydw i nawr!' dim ond i gael ei wrthod ganddyn nhw i gyd, 'Mae'n RHAID cael rhywun mawr!' Dim ond pan fydd Llŷr yn gafael yn y cortyn o'r diwedd y mae'r helynt yn dod i ben a'r sefyllfa'n cael ei datrys.

Mae'r stori'n cael ei hadrodd yn effeithiol ar fydr llac, gyda rhythmau'r brawddegau, yr odlau a'r ailadrodd yn ychwanegu at y cyffro. Rhaid canmol hefyd y lluniau deniadol sy'n rhoi digon o gyfle i drafod y stori fel y mae'n datblygu.

Ann Hawke

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Mae copi braille, print bras a sain o'r llyfr yma ar gael i'w fenthyg gan RNIB Cymru. Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth Hygyrch RNIB Cymru ar 029 2045 0440 neu gwybodaethhygyrchcymru@rnib.org.uk am fwy o wybodaeth.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Rhacsyn a'r Goeden Hud ...
 
£10.99
 
Prynwch
Crempogau Mama Panya
Mary & Rich Chamberlin
£5.99
 
Prynwch
Cyfres Ffred y Ffarier: ...
Stephen Thraves
£1.50
Llyfr y Mis
Cymraeg
Argraff Gyntaf, Yr
Ifan Morgan Jones
£7.95
 
Prynwch
Saesneg
Not Quite White
Simon Thirsk
£9.99
 
Prynwch