Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Yng Ngolau'r Lleuad - Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard
Menna Baines
ISBN: 9781843234791 (1843234793)Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2005
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Caled, 218x155 mm, 370 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £19.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Astudiaeth drylwyr o fywyd yr awdur, Caradog Prichard, a thrafodaeth gynhwysfawr o'r themâu sy'n cyniwair drwy'i farddoniaeth a'i ryddiaith; rhoir pennod gyfan i'w nofel hunangofiannol ddwys, Un Nos Ola Leuad.

A thorough analysis of the life of author, Caradog Prichard, with a comprehensive discussion of the themes that run through his work; a whole chapter is dedicated to his deeply moving autobiographical novel, Un Nos Ola Leuad.
Mewn datganiad nodweddiadol drofaus – yng nghyd-destun yr helfa am Saddam, os cofiaf yn iawn – soniodd Donald Rumsfeld am ‘wybodaeth y gwyddom na wyddom amdani’. Dyma, yn ei hanfod, oedd y dasg dwyllodrus o syml a osododd Menna Baines iddi’i hun yn y gyfrol ddarllenadwy a destlus hon.

Gwyddem fod elfennau bywgraffyddol yng ngwaith creadigol Caradog Prichard; gwyddem fod ei gynnyrch yn ymdroi hyd obsesiwn gydag euogrwydd a hunanladdiad, rhywioldeb gwyrdroëdig, trais ac ymholi rhwystredig; nid oedd gofyn bod yn dreiddgar iawn chwaith i gasglu bod llenydda’n fath o therapi iddo, ond ni allem ddweud i sicrwydd hyd yn awr ai ffrwyth ei brofiad ynteu ffrwyth ei ddychymyg oedd. Bellach, gwyddom yr hyn y gwyddem na wyddem.

Nid yw’n syndod deall, efallai, mai tipyn o ddau yw’r ateb. Wedi’r cyfan, priodas dychymyg a phrofiad yw pob creu. Camp Menna Baines yma yw nid yn unig rhestru cyfatebiaethau ond dangos wrth wneud y gwahaniaeth rhwng y profiadau y cafodd Prichard fyw drwyddynt a’r greadigaeth ddychmygus yn ei sgil. Therapi oedd llenydda iddo, bid siŵr, ond nid mewn ystyr ddiogel, ddofus a dynnai golyn o brofiad. Rhoddai drwydded iddo yn hytrach i feiddio dweud trwy stori ac ar fydr yr hyn na fentrai ei ddweud yn ei lais ei hun.

Enghraifft bwrpasol yw tawedogrwydd Prichard ar adael y Western Mail i ennill ei damaid yn Stryd y Fflyd. Yn yr hunangofiant Afal Drwg Adda, ‘dihangfa’ yw – ac ynghlwm wrth y gair syml yna holl ensyniadau gwella stad, cefnu ar blwyfoldeb a diflastod, ceisio gloywach nen. Yn y stori ‘Y Ddinas Ddolurus’ yn Y Genod yn ein Bywyd, fodd bynnag, darlunnir Llundain nid fel dinas y gorwel newydd ond fel hoeden sy’n denu cariadon wrth y fil i’w siomi a’u sigo. Os oes dihangfa ynddi, fe’i ceir yn yr hiraeth ‘am galedi bodlon caib a rhaw’.

A thro ar ôl tro, dengys Menna Baines ragoriaeth gwirionedd y dychymyg ar y ffeithiau diaddurn. Hanes ei ymwneud ag eraill oedd ei fywyd; yn y pen draw, ei berthynas ag ef ei hun a geir yn y nofel, y storďau a’r cerddi.

Ie, cyfrol yw hi sy’n datgelu ffeithiau (ni wyddwn, er enghraifft, mai mursendod oedd ‘Prichard’ rhagor ‘Pritchard’ ei dad a’i fam); ond ei gwerth arhosol yw’r goleuni a deifl – fel pelydryn ar noson loergan – ar y tyndra cynhyrchiol rhwng ffansi a phrofiad.

T. Robin Chapman

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Croesi Traeth
Gwyn Thomas
£5.00
 
Prynwch
Gweddnewidio - Detholiad ...
Gwyn Thomas
£12.50
 
Prynwch
Writers of Wales: Bobi Jones
John Emyr
£7.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Diawl y Wasg
Geraint Evans
£8.95
 
Prynwch
Saesneg
Changing Patterns
Judith Barrow
£8.99
 
Prynwch