Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Gongol Felys, YMeinir Pierce Jones Gweld rhagor o deitlau gan 'Meinir Pierce Jones'
ISBN: 9781843235224 (1843235226)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2005
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 184x124 mm, 128 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £6.99 
Gongol Felys, Y
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel y Mis: Mehefin 2005
Nofel yn olrhain digwyddiadau ar fferm ym Mhen Llŷn yn 1912 wrth i ferch ddeuddeg oed gofnodi cyffro a siomedigaethau tyfu i fyny ac wrth i gyfrinachau teuluol a fu ynghudd ers blynyddoedd gael eu datgelu'n raddol gyda dychweliad ei thad i'r môr a chyda dyfodiad modryb awdurdodol i'r cartref.

A novel tracing events on a farm in Pen Llŷn in 1912 as a twelve year old girl records the excitement and disappointments of growing up and as long-hidden family secrets are gradually revealed with the return of her father to sea and with the arrival of an authoritative aunt in the family home.
Mae nofelau hanesyddol yn codi rhyw ragfarn ryfeddol ynof i – dwi’n hoffi nofelau, dwi’n hoffi hanes, ond does gen i ddim llawer i'w ddweud wrth lyfr nad yw y naill beth na’r llall. Ond ces fy siomi o’r ochr orau gan nofel Meinir Pierce Jones, oherwydd, er ei bod wedi ei gosod yn nechrau’r ganrif ddiwethaf, nofel, heb os, yw hon, ac fel pob nofel dda y cymeriadau a’r digwyddiadau sy’n cael y lle blaenaf – rhyw gefnlen ddigon cynnil i hyn yw popeth arall.

Ac mae’n gefnlen hynod o apelgar. Cawn gip ar fywyd darn o Ogledd Cymru sydd wedi hen ddiflannu, cip ar ffordd o fyw lle mae hyd yn oed ymweliad â’r eglwys yn rhywbeth yr edrychir ymlaen yn fawr ato gan blentyn deuddeg oed i dorri ar undonedd bywyd. Yn sicr, mae Meinir Pierce Jones wedi gwneud ei gwaith ymchwil, ond mae ei defnydd ohono yn gynnil grefftus. Ni fydd neb yn darllen y nofel hon a theimlo eu bod yn cael gwers hanes.

Mae iaith y nofel yn llifo ac mae yma rai dywediadau pert iawn – dwi’n hoffi’n fawr y disgrifiad o’r fodryb fel ‘cocrotshan’, ac mae yna rai geiriau fel ‘golstran’ a ‘pladras’ sy’n hollol anghyfarwydd i rywun fel fi, ond mae hyn oll yn cyfoethogi’r naws a’r syniad yma o’r filltir sgwâr sydd gymaint rhan o’r nofel. Yr hyn sy’n ddifyr iawn yw’r ffordd mae’r nofelydd yn cydosod culni eu byw ar y naill law gyda’r ffaith eu bod yn gwybod am lefydd ym mhen draw’r byd, ac yn wir yn byw gyda thrugareddau o’r gwledydd pellennig hynny yn eu cartrefi gan bod hon yn gymuned sydd â llawer o’i dynion yn gweithio ar y môr.

Ond mae hon yn fwy na nofel gymdeithasol; rhyw fath o ‘pwy wnaeth’ yw hi, neu hyd yn oed ‘beth wnaeth’. Mae yma sawl haen o ddirgelwch ac mae’r nofelydd yn gelfydd iawn yn y modd mae’n datgelu ychydig bach o wybodaeth ar y tro. Ar ôl dweud hyn, mae’r diweddglo i mi yn rhy amhendant. Gwn ei bod yn ffasiynol gadael y diweddglo'n benagored er mwyn caniatáu i’r darllenydd benderfynu beth yn union sy’n digwydd; fy nadl i yw petawn i’n medru gwneud hynny'n effeithiol y byddwn innau hefyd yn nofelydd.

Fe ddarllenais y nofel hon mewn diwrnod. Mae hynna'n dweud tipyn amdani. Mae’n afaelgar, mae’n syml, mae’n fyr. Ond mae yma rai pethau nad ydynt yn taro deuddeg yn hollol i mi. Mae’n anodd gen i ddychmygu merch bedair ar ddeg oed yn disgrifio 'yr holl dduwch sydd y tu mewn i mi'. Ac mae yma brolog, a hwnnw mewn dwy ran. Mae dau baragraff olaf y prolog fel petaent yn hollol ar wahân i weddill y gwaith. Roeddwn yn gobeithio y byddai’r darn yma yn gwneud mwy o synnwyr ar ôl i mi orffen darllen y nofel; ro’n i’n gobeithio rywsut y byddai’r darnau yn disgyn i’w lle. Ni ddigwyddodd hynny. Ond rhyw fân bethau yw’r rhain mewn nofel sy'n rhwydd i’w darllen, ac un sy’n sicr o roi pleser i lawer.

Dana Edwards

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Y Gongol Felys
(Edith's Voyage)
Fourteen-year-old Edith longs for the adventure and mystery she finds in novels, but when she experiences them in the cold springtime of 1912 she will regret the sudden end of childhood stability. When her widowed sea-captain father resumes his long voyages around the Horn and announces that his sister-in-law, Netta, will take charge in his absence, his sister Gwen, who had brought up the motherless children, abruptly walks out. Edith's older brother and sister are already beginning to live their own lives and when the harsh, black-clad Netta arrives, Edith's only ally is Dorti, the cheerfully unbiddable maid, who quickly becomes her close friend. When the two girls try to discover Netta's mysterious past, it is the more worldly-wise Dorti who finds the clues and grasps their significance before orchestrating the chilling dénouement. Through Edith's eyes we see the inevitable unravelling of a family trying to conceal the shameful circumstances of a deep rift some twenty years earlier. She realises that her former image of her family was false, but realisation brings only unhappiness and a sense of guilt. The gradual unravelling of Edith's familiar world marks not only the end of childhood certainties and innocence but forms a prologue to the wider social upheavals that will come to this part of rural north-west Wales with the First World War, already under way by the time her story is finished. Meinir Pierce Jones's first novel for adults, evoking a defining moment in the history of her own home area, is a beautifully written, understated gem. Using suggestion and small telling details she deftly brings people and places into vivid focus whilst imperceptibly tightening the psychological tension. This is a haunting, memorable book.
Cyfnewidfa Lên Cymru/Wales Literature Exchange
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Blodau'r Grug - 100 o ...
Alex Hamilton
£6.50
 
Prynwch
Merched Gwyllt Cymru/ ...
Beryl Hughes Griffiths
£7.95
 
Prynwch
Tinboethach
 
£6.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Argraff Gyntaf, Yr
Ifan Morgan Jones
£7.95
 
Prynwch
Saesneg
Not Quite White
Simon Thirsk
£9.99
 
Prynwch