|
Darllenais yn ddiweddar am farwolaeth y stori fer; tydw i ddim yn poeni, am i mi gofio, ddegawdau’n ôl, ddarllen ‘obit’ yr ysgrif, hefyd. Nid marw wnaeth honno yn union, ond esblygu, er y gallwch weld ffosilau’r hen ffurf, yn bennaf yng nghloddfeydd eisteddfodau lleol, ond maent yn brigo i’r wyneb yn y Genedlaethol hefyd. Dowt gen i y gwelwn dranc llwyr y stori fer, chwaith ym mha bynnag iaith. Ond yng nghyd-destun penodol y Gymraeg, mae esblygu yn siŵr o ddigwydd, gan ei fod yn digwydd hefyd i’r iaith Gymraeg ei hun. Fe ddaw cyfnod pan edrychwn ar storïau fel y rhai yn y gyfrol hon fel tystiolaeth o’r esblygu hwnnw.
Mae hyn yn swnio fel petawn i’n condemnio’r gyfrol a’r awdur. Nid felly. Gwirion fuasai bwrw sen ar grefft Eigra Lewis Roberts: gwirion ac anghywir hefyd, fel y dengys crefft y storïau hyn oll. Y deunydd ei hun, felly? Ie, efallai. Y mae yma ymdriniaeth â phynciau cyfoes, yn ddiamau - darllenwch ‘Moelwyn Wy Melyn’ ac ‘Ifan Bach’ i gael prawf o hynny. Ac o leiaf, chewch chi mo’r teimlad yn y storïau am bynciau ‘cyfoes’ fod yr awdur wedi pigo’r pwnc am ei fod yn un o destunau’r dydd: diolch byth, does yma ddim o’r sgwennu cystadlaethau’r Urdd, sbïwch arna i yn sgwennu’n sioclyd, y rhai sydd prin allan o’u clytiau colegol clyd. Mi fedrwch nabod y math hwnnw yn iawn - Aids oedd hi ddeng mlynedd yn ôl, cam-drin plant rŵan, a’r ysgrifennu yn y naill achos a’r llall yn datgelu’n boenus ddiffyg profiad a di-glemdod di-ben-draw.
Mae’n wers boenus o amlwg, ond yn wir er hynny. Mae sgwennu’n gyson dda yn fater o arfer a phrofiad. Mae’n rhaid bod y sbarc yno, wrth gwrs – ac yr oedd y sbarc yn Eigra o’r dechrau. Dyna sy’n gwneud Oni Bai yn foddhaol – gafael sicr ar grefft a thestun, llithrigrwydd wrth sgwennu am bethau anodd a garw. I mi, y mae’r stori ‘Gee Ceffyl Bach’ yn enghraifft berffaith o hyn, yn un o’r goreuon.
Cadwyn neu fwclis o straeon: teitlau rhigymau yn gwlwm amlwg, ond llinyn o annifyrrwch yn clymu’r cwbl at ei gilydd, hefyd. Mae’r mwclis yn dechrau crafu o’i gwisgo’n rhy hir.
Cyfrol arwyddocaol yn esblygiad y stori fer, debygwn i. A ddangosir hi fel un o’r esiamplau olaf o saernïo cyfrol, o grefftwaith mewn iaith gyfarwydd? Digon posib. Ond peth fel’na yw esblygiad.
Meg Elis
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|