|
Stori am yr ymfudwyr amrywiol sy'n mynd ar long enwog y Mimosa ar y ffordd i sefydlu gwladfa newydd ym Mhatagonia; mae gan bob un ei reswm ei hun dros adael neu ffoi o Gymru mewn ymgais am 'fyd sy well', ond mae cyfrinachau a hanes gan bawb. Cyfrol sy'n cyfuno ffaith a dychymyg i adrodd stori afaelgar.
A story about the people who boarded the famous Mimosa on a journey to colonize Patagonia; everyone has a reason for leaving Wales in search of a better life, but secrets also dwell among the travellers. A volume that combines fact with imagination to tell a gripping tale.
|
|
Chwalu rhai o’r syniadau a'r delweddau rhamantus sydd ynghlwm ag ymfudo’r Cymry i Batagonia wna Siân Eirian Rees Davies yn ei nofel gyntaf, I Fyd Sy Well, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau, 2005. Ceir yma ddarlun byw o wir galedi mordaith enwog y Mimosa a phortread gonest o ba mor anodd oedd troi crindir cras yn wlad yr addewid.
Dyma nofel sydd wedi ei llunio’n grefftus gan adrodd hanes y fordaith hir drwy lygaid Jane Morgan a’i thad, y Parchedig Arnallt Morgan, am yn ail â chyfres o lythyrau o’r Wladfa gan Edwin Roberts, gŵr a fu’n gyfrifol am osod seiliau'r Wladychfa Gymreig. Er nad oeddwn yn gwbwl gyfforddus gyda’r defnydd o enwau pobl go iawn ar rai o gymeriadau amlycaf y nofel, rhaid canmol yr awdur am greu casgliad o gymeriadau gwahanol sy’n llwyddo i ddod â’r hanes yn gwbwl fyw. Drwy lygaid Jane Morgan yn arbennig, cawn gip ar fywyd bob dydd ymfudwyr tlawd y Mimosa. A ninnau mor gyfarwydd â hanes y Cymry wedi’r glanio, roedd adrodd digwyddiadau tebygol y fordaith yn rhoi gwedd newydd, real i’r hanes. Drwy’r gyfres o ddigwyddiadau llonydd a lleddf, doniol a dwys a adroddir, cawn flas go iawn o wir erchyllter bywyd ar y môr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ond nid nofel hanesyddol yn unig yw I Fyd Sy Well. Mae hi’n nofel hefyd sy’n trin a thrafod perthynas pobl â’i gilydd. Ceir yma ddarlun ingol o berthynas tad a merch ym mhortread yr awdur o Jane ac Arnallt Morgan, yn ogystal ag ymdriniaeth ystyriol o deimladau Edwin Roberts tuag at ei gyd-sefydlwr, Lewis Jones. Wedi eu gwau i fewn i bob un o’i lythyrau at ei deulu yng Nghymru, ceir sylwadau a gwir deimladau Edwin. Y gwirioneddau hynny na all eu rhannu â neb, boed am ei ddyheadau emosiynol neu anawsterau’r sefydlu. Drwy’r cyffyrddiadau bach yma, down i adnabod cymeriad Edwin Roberts a dod i ddeall mwy am anferthedd ei dasg.
Er nad oedd diweddglo’r nofel yn llwyr daro deuddeg, yn bennaf gan na lwyddwyd i ddod â llinynnau’r ddwy stori ynghyd, dyma nofel ddaeth ag elfennau o hanes arbennig sefydlu’r Wladfa yn gwbwl fyw.
Mari Siôn
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|