|
|
EICH BASGED
EWCH I...
CYSYLLTIADAU
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Cyfres Stori Sydyn: Jake |
| Awdur: Geraint V. Jones Gweld rhagor o deitlau gan 'Geraint V. Jones'
|
| ISBN: 9781843236832 (1843236834) |
Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2006
Cyhoeddwr: Gwasg Gomer, Llandysul |
| Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm, 128 tudalen |
| Allan o stoc dros dro |
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
|
| | |
|
|
| |
|
|
|
Ein Pris:
£2.99
|
|
Nofel yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Yn hon cawn stori am ferch ifanc sydd wedi cael ei threisio ym Mhencraig. Rhaid i DCI Mat Francis ddod o hyd i'r ymosodwr cyn iddo dreisio a lladd merch ifanc arall. Mae ei yrfa'n dibynnu ar hynny. Ond mae Jake, brawd Mat, hefyd ar y trywydd. Gohebydd ydy Jake, ac mae ganddo drwyn am stori. Stori fawr.
A novel in the short and fast-paced series Quick Reads. In this story a young girl has been murdered at Pencraig. DCI Mat Francis must catch the villain before he rapes and kills another young girl. His career depends on it. But Jake, Mat's brother, is also on the case. Jake is a journalist and has a nose for a story. A big story.
|
|
Thriller ydi Jake am ddau frawd sy’n mynd ar drywydd treisiwr a llofrudd yn nhref (ddychmygol) Pencraig yng Ngwynedd. Detective Chief Inspector Mat Francis ydi’r brawd hynaf, sydd dan bwysau cynyddol i ddal y ‘Black Rapist’ (a gafodd y llysenw am ei fod yn gwisgo mwgwd du) ar ôl i hwnnw daro eto. Gohebydd efo’r Sunday News ym Manceinion ydi Jake, ac mae yntau hefyd yn awyddus i ddal y treisiwr – a chael scoop yn y fargen!
Jake ydi prif gymeriad y nofel: tynnwr coes a thipyn o charmer efo trwyn am stori. Chwedl yr awdur, ‘Roedd Jake yn gallu deud celwydd fel tasa fo’n deud y gwir’ dawn sy’n ei alluogi i gael pobl (ond nid pawb!) i ymddiried ynddo wrth iddo’u holi.
Daw Jake yn dipyn o ffrindiau efo Nan Vaughan, athrawes ymarfer corff sy’n llwyddo i ddianc ar ôl i’r treisiwr ymosod arni. Arferai Non fod yn ddisgybl yn Ysgol Pencraig efo’r ddau frawd, pan oedd Jake yn ‘hogyn digon diniwed . . . yn cael ei fwlio gan rai o’r hogia eraill’. Gwahanol iawn i’r dyn mawr cry sy’n reidio moto-beic pwerus ac yn ddigon tebol i edrych ar ôl ei hun bellach!
Rhyngddynt, mae Jake a Mat yn mynd ati i ddatrys y dirgelwch a dod yn nes at ddal y treisiwr. Ac yn nhraddodiad straeon arswyd fel The Silence of the Lambs, caiff y darllenydd gip ar feddwl y treisiwr hefyd, a’r hyn sy’n ei yrru i gyflawni troseddau mor erchyll.
Ond pwy ydy’r treisiwr? Ai un o selogion brith y King’s Head? Ynteu un o ddisgyblion neu staff Ysgol Pencraig? Mae’n ddigon posib y byddwch chi wedi dyfalu cyn y diwedd, ond gwyliwch mae yna dro annisgwyl yng nghynffon y stori!
Dyma nofel gyffrous, hawdd iawn ei darllen. Mae’r iaith yn syml, efo Jake (a’r darllenydd, o bosib) yn dysgu rhai geiriau Cymraeg newydd wrth fynd ymlaen, ac ambell un fel ‘garlleg’ a ‘diheintydd’ yn allweddol i’r plot!
Elin Llwyd Morgan
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Gwybodaeth Bellach: Y Dyn Tawel - a Jake Dyn tawel ydi Geraint Vaughan Jones. Dim brolio, na sŵn mawr, na dim. Efo’i wallt gwyn urddasol, mae’n edrych jest y boi i fod yn daid caredig. Ond, o dan yr wyneb, mae ganddo dipyn o ddychymyg. Ac mae ei nofel ddiweddara am ddyn sy’n treisio a llofruddio merched mewn tref fach gyffredin yng Nghymru. Er ei fod yn sgrifennu sawl gwahanol fath o nofel, mae hefyd wedi sgrifennu am asiant cudd o’r enw Semtecs, a hwnnw’n gweithredu mewn tref sydd yn ddigon tebyg i ardal Ffestiniog, lle mae Geraint Vaughan Jones yn byw. Jake ydi enw’r arwr y tro yma – dyn papur newydd sy’n dod yn ôl i’r dre i sgrifennu stori’r treisiwr. Ond mae ganddo gystadleuaeth; mae ei frawd Mat hefyd yn ôl yno’n chwilio – a plisman ydi o. “O’n i’n trio creu stori fyddai’n cydio. Roedd yn rhaid iddi fod yn fywiog ac roedd yn rhaid i’r deialog daro deuddeg,” meddai Geraint Vaughan Jones. “Mae’r cyfan yn troi’n gystadleuaeth rhwng y ddau frawd a rhwng plisman a gohebydd wrth i’r ddau ohonyn nhw drio datrys y dirgelwch,” meddai’r awdur. “Y stori sy’n bwysig. Dipyn o stereoteip ydi Jake mewn gwirionedd. Arwr traddodiadol sy’n llwyddo ym mhob dim. Y math o berson mae dynion yn ei edmygu a merched yn ei ffansïo!” Erbyn hyn, mae wrthi’n sgrifennu nofel wahanol iawn – nofel hir am un teulu dros gyfnod o gan mlynedd – y math o nofel y byddech chi efallai’n disgwyl i ddyn tawel efo gwallt gwyn ei sgrifennu!
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
|
|
|