Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
GlasHazel Charles Evans Gweld rhagor o deitlau gan 'Hazel Charles Evans'
ISBN: 9781845270308 (1845270304)Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2006
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 182x123 mm, 272 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £6.50 
Glas
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel y Mis: Mawrth 2006
Nofel yn cynnwys stori afaelgar. Yn gefndir i'r stori garu ddifyr mae mynyddoedd yr Andes, sychder y paith a'r cysylltiadau rhyfedd rhwng Cymru a Phatagonia. Bydd Glas yn eich atgoffa bod rhamant yn dal yn fyw ac yn iach, ac yn eich swyno hefyd.

The mountains of the Andes, the dry wasteland of the prairie and the unique relationship between Wales and Patagonia provide the backdrop for this enchanting love story.
Mae sawl ‘taith’ yn digwydd yn y nofel Glas gan Hazel Charles Evans. Yn ganolog i’r nofel mae ‘taith’ garwriaethol y prif gymeriad, Paula – Cymraes o gefndir Seisnig – ac Emrys, yr Archentwr o Gymro, a’i gefndir o yn mynd yn ôl yn bell at y Cymry cynnar a ymfudodd i’r Ariannin o Gymru.

Dau gymeriad hollol wahanol i’w gilydd, yn darganfod ei gilydd ar y paith. Brwydro mae Paula gyda’i chefndir Seisnig, ei thad, a’i phartner cyfalafol, a’r ffaith ei bod yn ariannog. Brwydro mae Emrys gyda’r ffordd y mae’r Ariannin yn cael ei rheoli, gyda’r posibilrwydd o’r iaith Gymraeg yn diflannu o’i gynefin, a thlodi. Dianc mae Paula o’r hyn sydd yn ei bywyd adref yng Nghymru, a gwelwn hi’n mwynhau ei rhyddid newydd i’r eithaf. Wrth fynd ar ei thaith o Gymru i’r Ariannin, caiff gyfle i fynd ar ei thaith bersonol hi ei hun hefyd ac, yn wir, i'w darganfod ei hun.

Llwydda Hazel Charles Evans i bortreadu'r hen Gymry yn gelfydd yng nghymeriad Nel, nain Emrys. Cawn gipolwg ar y Cymry ‘newydd’ yn y cymeriad bach diddorol honno, Maxima, gyda’i hawydd i ddysgu Cymraeg ac i fod yn fodel, a fyddai efallai'n cynnig tocyn i ryddid ac i ddod yn gyfoethog.

Llwydda’r awdur i blethu sawl thema bwysig i’r nofel, sef cariad-bron-yn-amhosib, sefyllfa’r iaith Gymraeg (yng Nghymru ac yn y Wladfa), cyfoeth a thlodi, yr hen a’r ifanc, a gwneud hynny’n gelfydd heb fod yn amlwg.

Mwynheais ei disgrifiadau cyfoethog o’r wlad ac ar adegau roedd yn darllen fel llyfr taith gyda bonws o’r stori garu wedi ei phlethu i mewn iddi. Elfen arall ddiddorol i Glas yw’r plethiad hyfryd o’r Sbaeneg a’r Gymraeg, ac mae yna eirfa yng nghefn y nofel i’n helpu.

Wrth ddarllen Glas, sylwais fy mod yn troi’r tudalennau’n gynt ac yn gynt ac yn awyddus i gyrraedd ei diwedd. Tua diwedd y nofel, daw’r amser i Paula gychwyn ar ei thaith yn ôl i Gymru, ond nid dyna ddiwedd y daith iddi hi chwaith . . . darllenwch Glas ac mi gewch weld be sy’n digwydd!

Gwen Lasarus

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cerddi'r Gadair - Cyfrol ...
 
£6.00
 
Prynwch
Dwdlam (DVD056)
 
£9.99
 
Prynwch
Ennill Neu Golli (Casét)
Bob Eynon
£3.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Argraff Gyntaf, Yr
Ifan Morgan Jones
£7.95
 
Prynwch
Saesneg
Not Quite White
Simon Thirsk
£9.99
 
Prynwch