Portread crwn o un o gerddorion mwyaf amryddawn Cymru yn Oes Fictoria, sy'n dilyn ei yrfa o Ferthyr Tudful i'r Amerig, a'i ddychwelyd i Gymru, gwerthfawrogiad o'i arddull gerddorol, 19 o ddyfyniadau o'i gyfansoddiadau, a chatalog o'i weithiau. Pedwar ffotograff du-a-gwyn.
A portrait of one of the most versatile Welsh musicians of the Victorian era, following his career from Merthyr Tudful to America , and his return to Wales, an appreciation of his musical style, 19 extracts from his compositions, and a catalogue of his works. Four black-and-white photographs.
|
Maen syndod meddwl cyn lleied a ysgrifennwyd ar Joseph Parry, ac yntau wedi bod yn un on harwyr cenedlaethol ni. Wedir cyfan, ef oedd y Cymro mwyaf adnabyddus yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ôl pob tebyg. Heblaw am ffuglen, ffilm deledu, ac ambell erthygl neu adolygiad, ni chafwyd ond y Cofiant sylweddol gan E. Keri Evans (1912) ar llyfryn dwyieithog gan Owain T. Edwards (Joseph Parry 18411903) a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1970.
Rydym felly'n ddyledus i Dr Rhys am ailagor y maes lliwgar hwn, fel petai, gyda ffrwyth ei ymchwil am radd doethuriaeth rai blynyddoedd yn ôl, ac ir Wasg hefyd am gyflwynor gwaith mewn modd cyfleus fel cyfrol clawr meddal atyniadol, gyda lluniau diddorol, llawer o enghreifftiau cerddorol ac atodiadaun cynnwys catalog manwl o weithiau Parry yn ogystal â rhestr ddiddorol oi ddisgyblion, a llyfryddiaeth.
Yn ddiamau, Joseph Parry oedd prif eilun cerddorol Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn bennaf fel cyfansoddwr, ond hefyd fel athro, beirniad, awdur a hyd yn oed unawdydd bariton. Maer deunydd rhamant sydd iw fywyd (y bachgen bach o Ferthyr, erioed, erioed a dryn Bencerdd America; yn efrydydd yn yr Academi Frenhinol; yn athro cerdd cadeiriol cyntaf Cymru yn Aberystwyth; yn genedlaetholwr pybyr o anghydffurfiwr a gladdwyd, serch hynny, mewn mynwent eglwys ym Mhenarth gyda beddargraff Saesneg) wedi creu mytholeg arbennig, ac maer awdur, er cymaint ei edmygedd oi wrthrych, wedi ceisio bwrw goleuni llymach ein dyddiau ni arno.
Ar waethaf ei ddiffygion fel cyfansoddwr (yr ysgrifennu gor-doreithog, anhunanfeirniadol; y dylanwadau amheus, ar arddull a oedd yn ei gyfnod ei hun hyd yn oed yn henffasiwn a gafodd yn ail-law gan ei athrawon yn Llundain) ac fel dyn (y gymysgedd o ddiniweidrwydd ac uchelgais; yr ymateb emosiynol byrbwyll; y duedd i fyw o ddydd i ddydd) gallwn fod yn ddiolchgar amdano fel arloeswr a lanwodd fylchau cerddorol Cymru yn ei oes, a hefyd fel un a oedd yn deall gofynion y werin ir dim. Yn sicr byddai hanes cerddoriaeth ein gwlad hebddo, yn oes Victoria o leiaf, fel Hamlet heb y tywysog.
Ar ôl cyfnod hir o ddilornir cyfansoddwr hwn, mi gredaf ei bod yn llawn bryd i ni ailedrych ar ei gynnyrch, a hyn gyda syniad llai rhagfarnllyd, ac un syn fwy priodol in hoes ni, gan ddilyn esiampl yr hyn a wnaed gan Peter Lord gydar celfyddydau cain, efallai. Maer awdur yn pwysleisio fod cerddoriaeth well iw chael ymysg gweithiau diweddar Parry nar llond dwrn o ddarnau poblogaidd sydd mor gyfarwydd i ni oll. Ond dyna wraidd y broblem, wrth gwrs: heb berfformiadau teilwng or gweithiau hyn, sut y bydd modd i ni ailystyried eu gwerth?
Tybed a fydd ymddangosiad y llyfr hwn yn sbardun in cantorion an hofferynwyr ni arbrofi yn y fath faes hanesyddol a diddorol?
A.J. Heward Rees
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|