Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cedyrn Canrif - Crefydd a Chymdeithas yng Nghymru'r Ugeinfed Ganrif
D. Densil Morgan
ISBN: 9780708317204 (0708317200)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2001
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, Caerdydd
Fformat: Clawr Meddal, 216x138 mm, 290 tudalen Iaith: Cymraeg Archebir yn l y galw Pris Llawn: £9.99 
Ein Pris: £4.99 
Rydych yn Arbed: £5.00 (50.1%)   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Casgliad darllenadwy o saith traethawd yn portreadu saith ffigwr arwyddocaol eu dylanwad ym meysydd crefydd a chymdeithas yng Nghymru yn ystod yr 20fed ganrif, sef D. Cynddelw Williams, Timothe Rees, Lewis Valentine, J. E. Daniel, Ivor Oswy Davies, Pennar Davies ac R. Tudur Jones. 8 ffotograff du-a-gwyn.

A highly readable collection of seven essays portraying seven influentially significant figures in the fields of religion and society in Wales during the 20th century, namely D. Cynddelw Williams, Timothe Rees, Lewis Valentine, J. D. Daniel, Ivor Oswy Davies, Pennar Davies and R. Tudur Jones. 8 black-and-white photographs.
Y mae’r Dr D. Densil Morgan yn un o’r ysgolheigion hynny sydd yn ysbrydoledig ac yn ddisgybledig ar yr un pryd – yn ysbrydoledig o ran ei fod wedi diffinio maes astudiaeth newydd iddo’i hun, ac yn ddisgybledig o ran ei fod yn trin y maes hwnnw’n drefnus. A’r maes dan sylw yma yw hanes crefyddol Cymru’r ugeinfed ganrif. Rai blynyddoedd yn ôl cyhoeddodd gyfrol ardderchog ar Christmas Evans. Er na fynnaf ei fod wedi cefnu’n llwyr ar y ddeunawfed ganrif, y mae’n arwyddocaol taw llyfrau ar y ganrif sydd newydd fynd heibio yw ei weithiau diweddaraf bob un: Torri’r Seiliau Sicr: Ysgrifau J. E. Daniel (yr atgynhyrchir y 'cyflwyniad' yn y gyfrol newydd hon), yr astudiaeth Saesneg a gyhoeddodd (gyda Donald Allchin) ar Gwenallt, a’r gyfrol orchestol The Span of the Cross (a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 2000). Noder hefyd fod gweithiau mwy nag un o gynfyfyrwyr ymchwil Dr Morgan yn ymwneud â chrefydd Cymru’r ugeinfed ganrif. Ef, yn anad neb hyd yma, a geisiodd ddisgrifio, ac esbonio, camp a rhemp Cristionogaeth y 'Gymru wen' y maged yr hynaf a’r ifancaf o’i ddarllenwyr ynddi.

Rhemp, meddaf. Ni cheir llawer o hwnnw yma, am mai astudiaethau o hyrwyddwyr ac amddiffynwyr y ffydd sydd yn y llyfr. Pâr hynny imi weithiau amau addaster ei is-deitl. Oes, y mae cryn sôn am gymdeithas yr ugeinfed ganrif yn y bennod agoriadol ar D. Cynddelw Williams: caplan yn y ffosydd ydoedd ef. Yn y ffosydd hynny y bu farw nifer mawr o rinweddau cymdeithas Oes Victoria ac Oes Edward, ac ynddynt hwy y ganwyd ac y meithrinwyd nifer o’r syniadau a’r agweddau a ddaeth yn sail i wareiddiad y cyfnod ar ôl 1918. Ond yn y mwyafrif o benodau’r llyfr canolbwyntir ar greadigaethau a chyfraniadau’r gwrthrychau, ar y cedyrn eu hunain. A gallai’r beirniad beirniadol yn deg ofyn 'Pam na ddarfu i’r fath wroniaid gael dylanwad tecach, cryfach ar eu cenedl?' Y mae’r atebion yn The Span of the Cross.

Ynghyd â Chynddelw Williams, trafodir Timothy Rees, a ddychwelodd i Gymru yn Esgob Llandaf yn 1931, gŵr y mae’n dda iawn gennyf i ei adnabod; Lewis Valentine, y cyffelybir ei ymlyniad wrth y 'Gymru Gymraeg, Gristnogol' i ymlyniad hen broffwyd wrth ei Israel; J. E. Daniel, diwinydd ac athro; Ivor Oswy Davies, diwinydd a disgybl – a dyn y tybiaf iddo gael ei gynnwys yn y llyfr oblegid ei agosatrwydd at Karl Barth yn anad unrhyw reswm arall; ac yna y ddau Annibynnwr cawraidd, Pennar Davies a R. Tudur Jones, yr ysgrifennodd Densil Morgan ysgrif Saesneg yn eu gwrthgyferbynnu y llynedd. Y mae’r trafodaethau yn feistraidd bob un, ac yn bleser i’w darllen.

Diau y tybia rhai fod y dewis yn ddewis i anghytuno ag ef. Wrth gwrs ei fod! Ble mae’r Archesgob Edwards? A Miall Edwards? Pam nad T. Glyn Thomas, ac o’i flaen ef Thomas Charles Williams neu Jubilee Young? Na, ni ffitiant y patrwm Barthaidd y mae Densil Morgan mor hoff ohono. Ond ni wna rhagor nag un o’r cedyrn dethol hynny chwaith. Yn wir, fe ddywedir am Pennar Davies y byddai wedi cyflawni mwy 'petai ganddo ddiwinyddiaeth gadarnach, a gweledigaeth grefyddol lai unigolyddol' – am Pennar Davies o bawb, yr ysbryd mwyaf anghyffredin (o bosib) a gerddodd goridorau’r Colegau Diwinyddol erioed! ac awdur-awenydd yr oedd ei anadl yn brawf o allu Cymru fel pob cenedl i greu pobl nad ydynt yn 'ddyledus' i’w cymdeithas yn ogymaint ag yn wreichion a gododd o’r tân anesboniadwy y mae crefydd – a diwinyddiaeth yn neilltuol – yn gais i’w garu a’i esbonio.

Derec Llwyd Morgan

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Cedyrn Canrif
Ysgrifau ar Grefydd a Chymdeithas yng Nghymru yn yr Ugeinfed Ganrif
D. Densil Morgan
xvi282 tt 216x138mm Tachwedd 2001 clawr papur £14.99
ISBN 0-7083-1720-0
Yn ôl D. Densil Morgan canrif ‘gyda’r mwyaf enbyd a fu erioed’ fu’r ugeinfed ganrif. Yn y gyfrol gyfoethog ac arloesol hon darlunia’r awdur ymateb rhai o wŷr mwyaf dylanwadol y bywyd crefyddol yng Nghymru i’r her a’r argyfwng a wynebodd grefydd sefydliadol, a chymdeithas yn gyffredinol, yn ystod y ganrif gythryblus honno.
Ceir yma saith portread, rhai’n ffigyrau adnabyddus megis Pennar Davies, J. E. Daniel, Lewis Valentine ac R. Tudur Jones, eraill yn llai cyfarwydd er yn arwyddocaol iawn yn eu cyfnod a’u meysydd, megis D. Cynddelw Williams, Timothy Rees ac Ivor Oswy Davies. Dyma ‘gedyrn’ y gyfrol, ac o’u hamgylch hwy y darlunnir hynt a helynt y ganrif - o ddadlau ynghylch gwahaniaethau crefyddol i ymateb a cheisio ffrwyno llif seciwlariaeth yn y gymdeithas. Oherwydd rhychwant profiadau a diddordebau’r cymeriadau canolog teflir goleuni ar y ganrif nid yn unig o safbwynt crefyddol, ond hefyd o fewn cyd-destunau megis rhyfel, cymdeithas, gwleidyddiaeth, diwylliant a llenyddiaeth.
Cyfrol bwysig yw hon, yn ddehongliad coeth o gyflwr Cristionogaeth yng Nghymru’r ugeinfed ganrif a hwnnw wedi’i gyflwyno mewn Cymraeg rhywiog a darllenadwy.
Darllenydd yn Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Cymru, Bangor yw D. Densil Morgan; un sydd wedi ymchwilio’n drwyadl i’r meddwl Cristionogol a chrefyddol yn y gymdeithas Gymreig. Ynghyd â nifer o erthyglau, cyhoeddwyd ganddo eisoes gyfrolau ar amrywiaeth o bynciau, megis Sensuous Glory: The Poetic Vision of D. Gwenallt Jones (ar y cyd ag A. M. Allchin), Torri’r Seiliau Sicr: Detholiad o Ysgrifau J. E. Daniel, a The Span of the Cross: Christian Religion and Society in Wales, 1914-2000.
Cynnwys
Rhagymadrodd
Pennod 1: Ffydd yn y ffosydd: D. Cynddelw Williams (1870-1942)
Pennod 2: Olynydd y seintiau: Timothy Rees (1874-1939)
Pennod 3: Y proffwyd ymhlith y praidd: Lewis Valentine (1893-1986)
Pennod 4: Llysgennad brenhines dysg: J. E.Daniel (1902-62)
Pennod 5: Y tyst ymhlith y tystion: Ivor Oswy-Davies (1906-64)
Pennod 6: Ffyddlon was y Brenin Alltud: Pennar Davies (1911-97)
Pennod 7: Gan Dduw mae’r gair olaf: R.Tudur Jones (1920-98)
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch