Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Rhoi Cymru'n Gyntaf – Syniadaeth Plaid Cymru
Awdur: Richard Wyn Jones
Gweld rhagor o deitlau gan 'Richard Wyn Jones'
ISBN: 9780708317563 (0708317561)
Dyddiad Cyhoeddi Medi 2007
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, Caerdydd
Fformat: Clawr Meddal, 216x138 mm, 240 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Rhoi Cymru'n Gyntaf – Syniadaeth Plaid Cymru
Ein Pris: £18.99 
Mae hon yn gyfrol wreiddiol, sy'n dyfnhau ein dealltwriaeth o brif arweinwyr Plaid Cymru a syniadaeth y mudiad yn gyffredinol. Mae'n trafod hanes y Blaid o'i chychwyn hyd at heddiw mewn ffordd drylwyr a manwl. Er yr ymdrinnir â syniadau astrus ar brydiau, mae'r gyfrol wedi ei hysgrifennu mewn dull apelgar.

A volume which sets out to deepen our understanding of the main leaders of Plaid Cymru, and the ideology of the movement in general. It discusses the history of the party from its foundation to the present day, in a thorough and detailed way. It deals with quite complex ideas, but the writing style is accessible and clear.
Cyfrol gampus yw hon, sy’n byrlymu ậ syniadau arloesol a sylwadau treiddgar. Ar ôl trafodaeth wybodus o genedlaetholdeb yn gyffredinol, cymhwysa’r awdur ei gasgliadau at syniadaeth Saunders Lewis, Gwynfor Evans, Dafydd Elis-Thomas a Dafydd Wigley, gan gymryd y stori hyd at 1997; bydd yr ail gyfrol yn ymdrin â’r cyfnod wedi hynny.

Prif bwynt y drafodaeth gyffredinol, sy’n gynnil a bachog, yw nad peth plwyfol, chwedl eu gelynion, nag etifeddiaeth oesol naturiol, chwaith, yw cenedlaetholdeb, ond ffrwyth datblygiad anwastad yn y byd modern sy’n gorfodi unedau cenedlaethol i fynnu hunanlywodraeth er mwyn amddiffyn eu hunaniaeth a’u buddiannau materol. ‘Synnwyr cyffredin’ yr oes yw cenedlaetholdeb, felly, sy’n cael ei gymryd yn ganiataol gan ‘ryng-genedlaetholwyr’ Prydeinig hefyd, o bob lliw gwleidyddol, am nad yw cenedlaetholdeb yn ideoleg gyflawn: rhagdybia fframwaith y genedl-wladwriaeth ond nid y polisďau a weithredir ynddi.

Sail yw'r ddadl hon i gymhariaeth hynod ddiddorol o Saunders Lewis a Gwynfor Evans. Deil yr awdur bod dylanwad Saunders ar ei olynydd yn llawer mwy nag yr ymddengys o ystyried y gwahaniaeth eglur rhwng y Catholig ceidwadol a’r Anghydffurfiwr radical, a lwyddodd yn Aros Mae i addasu gweledigaeth werinol ond Prydeinig O. M. Edwards at ddibenion cenedlaetholdeb modern. Allwedd i’r paradocs yw bod eu cenedlaetholdeb, sef eu syniadau am y genedl (pwysigrwydd y Gymraeg; Cymreictod yn grwsâd dros werthoedd arbennig fel perchentyaeth a’r drydedd ffordd; y gwahaniaethu rhwng rhyddid ac annibyniaeth fel nod – yma mae’r dadansoddiad o safbwynt Gwynfor yn ddeifiol) yn gallu cyd-fynd â pholisďau pragmataidd go wahanol. Fel gŵr y chwith, mae Richard Wyn Jones yn llym ei feirniadaeth ar Saunders, a gredai’n anghywir mai ideoleg gyflawn oedd cenedlaetholdeb a’i wrthgyferbynnu’n ddianghenraid â sosialaeth. I’r awdur, arweinwyr afresymol yn ceisio addasu’r byd i’w syniadau eu hunain oedd y ddau ond – newid tôn celfydd dros ben – ‘oherwydd ei [sef Gwynfor] ddyfalbarhad a’i styfnigrwydd y newidiwyd cwrs hanes Cymru’. Er y gydnabyddiaeth hon, mae’n bosibl bod yr awdur braidd yn llawdrwm ar ‘Drydedd Ffordd’ Gwynfor. Cydymdeimla ag ymdrechion y Chwith Genedlaethol i newid cyfeiriad ar ôl trawma 1979, gwęl gwrs troellog Dafydd Elis-Thomas yng nghyd-destun sefyllfa anodd gwlad fach na allai osod ei agenda ei hun; haera nad yw sylwedd a chysondeb cyfraniad syniadaethol Dafydd Wigley – y tro at Ewrop a’r achos gwyrdd – wedi cael eu gwerthfawrogi. Ar ôl adfer y syniad am y genedl o dan Saunders a Gwynfor, felly, meddai cenedlaetholdeb Cymreig erbyn 1997 ar bersbectif oedd yn asio â thueddiadau’r oes. Fel ag y gwelwn drwy’r llyfr i gyd, y mae’r dedfrydau hyn, gan ysgolhaig sy’n barod i edrych yn wrthrychol ar ei draddodiad ei hun, yn ffres, cytbwys a gafaelgar.

Robin Okey

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.





Bywgraffiad Awdur:
Richard Wyn Jones, Darllenydd, Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Prifysgol Cymru Aberystwyth.
Gwybodaeth Bellach:
Mae hon yn gyfrol wreiddiol, gwefreiddiol ar brydiau, sy'n dyfnhau ein dealltwriaeth o brif arweinwyr Plaid Cymru a syniadaeth y mudiad yn gyffredinol.
Dyma'r unig gyfrol i drafod hanes y Blaid o'i chychwyn hyd at heddiw ac mae'n torri tir newydd i'r graddau nad oes ymdrech gyffelyb wedi bod i drafod datblygiad syniadaeth y Blaid yn y manylder yma. Er ei fod yn ymwneud â syniadau astrus ar brydiau, mae wedi ei hysgrifennu mewn dull apelgar a fydd yn apelio at y darllenydd cyffredinol yn ogystal â'r academydd.