|
Bywgraffiad Pennar Davies, y bardd, nofelydd, beirniad, hanesydd a diwinydd a chwaraeodd ran nodedig ym mywyd llenyddol, diwylliannol a chrefyddol Cymru yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Ffotograffau du-a-gwyn.
A biography of Pennar Davies, the poet, novelist, critic, historian and theologian who played a major role in the literary, cultural and religious life of Wales in the second half of the twentieth century. Black-and-white photographs.
|
|
Paid byth ag aberthu dy unplygrwydd ath ryddid llenyddol ar allor gyrfa barchus yn y weinidogaeth. Mae gan Gymru ddigonedd o feirdd-bregethwyr, ond dim ond un Davies Aberpennar sydd. Felly yr ysgrifennodd Alun Llywelyn-Williams at ei gyfaill Pennar Davies yn Awst 1940 pan oedd yn ystyried mynd ir weinidogaeth.
Roedd y dynfa rhwng ei ddaliadau crefyddol ai anian lenyddol yn gryf ar hyd oes Pennar, ac mae bywgraffiad Densil Morgan yn dangos mewn modd meistrolgar o eglur y pris roedd yn rhaid iddo dalu am wasanaethur Awen ai Dduw gydag ymroddiad mor angerddol.
Rhan or cymhlethdod oedd y ffaith ei fod mor amlochrog. Yn fardd, yn nofelydd, yn storïwr, yn feirniad llenyddol, yn ddiwinydd, yn hanesydd, yn bregethwr, yn wleidydd ac yn benteulu a oedd yn gorfod byw ar gyflog pitw, buasai Pennar wedi rhagori mewn pa yrfa bynnag fyddai e wedi ei dewis. Ond fe gadwodd at ei weledigaeth fel llenor tan y diwedd, heb esgeuluso ei gyfrifoldeb fel pregethwr y Gair. Hwyrach fod y tyndra wedi cyfrannun helaeth at ei ddiwydrwydd disglair a ffrwythlon mewn gymaint o feysydd.
Pwy fuasai wedi meddwl fod William Thomas Davies (Billy iw deulu), y bachgen o gartref tlawd iawn yn Aberpennar, yn mynd i fod yn un on gwŷr mawrion? Nid ei rieni, nai chwiorydd nid oeddynt yn deall ei ddisgleirdeb academaidd, a phan aeth i Brifysgolion Cymru, Rhydychen a Yale, daeth yn rhan o fyd hollol ddiarth iddynt hwy. Eto i gyd, arhosodd Pennar yn agos at ei deulu am weddill ei oes.
Rhyfedd meddwl, os nad ydych wedi darllen ei gerddi herfeiddiol mewn cylchgronau fel Wales yn y tri degau, fod Pennar wedi cychwyn fel bardd yn yr iaith Saesneg, a'i fod yn anghysurus yn y Gymraeg am flynyddoedd wedyn. Roedd yn gyfaill i Keidrych Rhys, y golygydd llamsachus hwnnw, ond trodd ei gefn ar lenyddiaeth Saesneg Cymru oherwydd agwedd beirdd fel Dylan Thomas a Vernon Watkins tuag at Gymru au Cymreictod. Er hynny, roedd yn dal i ddyheu am gael ei benodi i gadair Saesneg yn Aberystwyth yn ystod y pedwar degau.
Mae Densil Morgan wedi mynd ir afael â chymhlethdodau cymeriad Pennar gyda chryn lwyddiant. Un or agweddau nas trafodwyd tan nawr ywr elfen rywiol: roedd chwant y cnawd yn bwysig i Pennar, mewn llenyddiaeth ac yn ei fywyd personol. Roedd yn gallu mynegi rhywfaint o hyn fel aelod o Gylch Cadwgan ac yng nghwmni ffrindiau fel J. Gwyn Griffiths, ond maen amlwg, yn ei ohebiaeth â chydweithwyr yn America a Lloegr, bod rhyw yn chwarae rhan ganolog yn ei grefydd hefyd.
Cafodd yrfa ddisglair dros ben fel Athro a Phrifathro Colegau Diwinyddol Aberhonddu, Bangor ac Abertawe. Ond ni phallodd ei ysfa greadigol. Yn ei gyfrolau toreithiog o gerddi, storïau, ysgrifau a nofelau cafwyd corff o lenyddiaeth uchel-ael, ac weithiau anodd ei ddirnad, ac efallai nad oes digon o ddarllenwyr yng Nghymru syn gwerthfawrogi ei gamp. Trueni, a dweud y lleiaf.
Bid a fo am hynny, mae astudiaeth Densil Morgan yn gyfraniad pwysig in dealltwriaeth o lenor arbennig o alluog, ysgolhaig eithriadol o ddysgedig, Cymro twymgalon, dinesydd y byd gwâr, a diolch yn fawr amdano.
Gair personol i gloi. Pan bu farw Pennar ym 1996, ysgrifennais deyrnged iddo yn yr Independent lle cyfeiriais at rywbeth enigmatig yn ei bersonoliaeth, ac mae Densil Morgan yn dyfynnu hyn ynghyd â thystiolaeth ir un perwyl gan bobl eraill. Bûm yn edmygu Pennar am flynyddoedd lawer a threuliais oriau yn ei gwmni difyr, gan gynnwys gwibdaith i ynysoedd Ǻland yn y culfor rhwng Sweden ar Ffindir, rhywbryd yn y saith degau. Nid anghofiaf fyth ganu O, yr ôci-pôci! O, yr ôci-pôci! gydag ef o gwmpas coelcerth enfawr ar y traeth ar noson fyrraf yr haf, gan geisio perswadio ein ffrindiau newydd fod y gân yn perthyn i lên ganoloesol Cymru. Braint anhaeddiannol, serch hynny, oedd gweld ei fod wedi cyflwyno ei nofel olaf, Gwas y Gwaredwr, i mi.
Wedi darllen llyfr treiddgar Densil Morgan, rwyn deall Pennar yn llawer gwell, ond eto, erys rhywbeth na ellir ei gyffwrdd. Yr elfen arallfydol oedd hynny, decin i, sydd tu hwnt i eiriau. Fel y dywedodd Gwynfor Evans, un o ffrindiau agosaf Pennar, Os bu gŵr Duw erioed, ef yw hwnnw.
Meic Stephens
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|