EICH BASGED
EWCH I...
CYSYLLTIADAU
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig |
| ISBN: 9780708319543 (0708319548) |
Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, Caerdydd |
| Golygwyd gan Menna Baines, John Davies, Nigel Jenkins, Peredur I. Lynch |
| Fformat: Clawr Caled, 245x164 mm, 1104 tudalen |
| Ar gael |
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
|
| | |
|
|
| |
|
|
|
Ein Pris:
£55.00
|
|
Cyfrol awdurdodol ar bob agwedd ar Gymru, gan gynnwys y gorffennol, pobl, lleoedd, y celfyddydau, traddodiadau, diwydiant a'r amgylchedd. Cynhwysir dros 5,000 eitem gan dros 300 o arbenigwyr. Dyma'r gwyddoniadur cyntaf am Gymru mewn un gyfrol sy'n darparu gwybodaeth hygyrch a thros 300 o ddelweddau. Ar gael yn Saesneg: 070831953X
An authoritative volume on all aspects of Wales, including the past, people, places, arts, industries, environment and traditions. Includes over 5,000 entries submitted by over 300 leading authorities. It is the first single volume encyclopaedia of Wales providing easily accessible information and illustrated with over 300 images. Available in English: 070831953X
|
|
Y peth rhwyddaf yn y byd wrth bori mewn cyfrol fel hon yw mynd ati fel rhyw fath o orchest i restru’r hyn nad yw ynddi, ac eisoes arweiniwyd ambell adolygydd i’r cyfryw brofedigaeth. Popeth yn iawn os gellir dangos rhyw ‘howler’ o fwlch, ond yn sicr ni wnaed hynny, ac felly onid ein rhesymol ymateb yw canolbwyntio ar yr hyn a ddarparwyd ar ein cyfer a pharchu penderfyniad y tîm golygyddol, a oedd yn gweithio o fewn terfynau amser a chostau, i gynnwys hwn a hepgor arall? Ac wrth wneud hynny, diolch yn galonnog iddynt am gynhyrchu campwaith a fydd yn ffynhonnell gwybodaeth a llawer o bleser a diddanwch i ddarllenwyr Cymraeg am amser hir.
Dyma gyfrol sy’n garreg filltir o bwys, i’w gosod gyda balchder wrth ochr cyhoeddiadau cyfeiriadol anhepgorol eraill, megis Geiriadur y Brifysgol, Geiriadur yr Academi, Y Bywgraffiadur a’r Cydymaith i’n llenyddiaeth – cyfrol yr oedd ei mawr angen i lenwi'r lle gwag ar y silff lle disgwylid cael gwaith a fyddai’n grynhoad cyffredinol o’r hyn yw Cymru. Ofer fyddai ceisio ymdrin â’r cynnwys gydag unrhyw fath o fanylder mewn cyn lleied o ofod â hyn; digon yw dweud fod yma ôl ymchwil gofalus, ysgrifennu bywiog a golygu doeth. Mae’n gyfrol gadarn, wedi'i dylunio’n dda, yn hyfryd i’w thrafod ac yn nefoedd i lyfrborwr hamddenol. O fewn ychydig funudau o loetran yn y cofnodion sy’n dechrau â’r llythyren ‘C’, ac o dan Cricieth, sy’n cynnwys cyfeiriadau at Llywelyn ap Iorwerth, Owain Glyndŵr a David Lloyd George, dysgais fod ‘Cricieth hefyd yn enwog am ei hufen iâ . . . a ystyrir gan lawer fel y gorau yn y byd’. Honnir bod gwraig wedi llongyfarch Dr Johnson unwaith am hepgor geiriau ‘amheus’ o’i Eiriadur, ac iddo yntau fynegi syndod ei bod hithau wedi chwilio amdanynt. Rhyw chwilfrydedd tebyg a’m gyrrodd innau i edrych yma o dan ‘Caru yn y Gwely’, a chwrdd am y tro cyntaf erioed â George Catlin, ethnolegydd Americanaidd o’r 19eg ganrif. Gwyddai ef am yr arferiad, meddir, yn sgil ei astudiaeth o hanes y Mandaniaid, y llwyth o ‘Indiaid Cymreig’ y clywsom sôn amdanynt. Sylwodd ar sawl arfer honedig Gymreig – ‘Caru yn y Gwely’ yn eu plith – a hefyd tuedd i ‘brepian’ [h.y., yn ôl y Geiriadur, ‘baldorddi, preblian, clebran, hel straeon, cario clecs’] yn ystod cyfathrach rywiol.
Ond na thynned ysgafnder o’r fath ar fy rhan un mymryn oddi ar bwysigrwydd y gyfrol nobl hon. Pan gyhoeddwyd Gwyddoniadur Cymreig Thomas Gee rhwng 1854 a 1879, barnai’r Cronicl, a gysylltir ag enw S.R., Llanbryn-mair, y byddai’n ‘drysor, nid yn unig i Gymry yr oes yma, ond i Gymry yr oes a ddaw’. Gellir yn ddibetrus ddweud yr un peth am Gwyddoniadur Cymru.
Tegwyn Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: As well as being one of the most significant poets in his field, Nigel Jenkins has won acclaim in other genres, most notably for his history of the Welsh in India, Gwalia in Khasia, which won the Arts Council of Wales Book of the Year award. Menna Baines, who is well-known as a former editor of Barn, will take prime responsibility for the Welsh language volume, and assisting and guiding the editors is John Davies who acts as editorial consultant. Gwybodaeth Bellach: 'The appearance of these handsome volumes represents an important achievement, or, more accurately, several important achievements. The standard of the diverse entries is high – meriting praise all around for the editors and contributors. The production quality is high, auguring well for the Press – as does, most especially, the simultaneous appearance of Welsh and English editions. For the weighty and colourful item that it is, £65.00 is good value. With the successful products now in hand, the kicking of the publication date ahead into 2008 is vindicated as a triumph of standards and uncut corners over the distortions and compromises to which many at UK universities and university presses succumbed in the race to the 2007 Research Assessment Exercise.' John T. Koch, Planet.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
|
|