| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Meddwl a'r Dychymyg Cymreig: Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod - Esthetig Radical Twm Morys, Vaclav Havel a Bohumil HrabalSioned Puw Rowlands
Gweld rhagor o deitlau gan 'Sioned Puw Rowlands' |
ISBN: 9780708320501 (0708320503)Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2006
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, CaerdyddFformat: Clawr Meddal, 216x138 mm, 192 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Pris Llawn:
£14.99
Ein Pris:
£9.99
Rydych yn Arbed:
£5.00 (33.4%)
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Cyfrol sy'n trafod esthetig yng nghyd-destun gwleidyddiaeth cymunedau ymylol. Gwneir hyn trwy gymharu erthyglau a ysgrifennwyd gan yr awdur a'r bardd Cymraeg, Twm Morys a dau awdur Tsiecaidd, Bouhmil Hrabal a Vaclav Havel.
A volume discussing the aesthetic in the context of the politics of marginal communities. This involves the comparison of articles written by Welsh author and poet, Twm Morys, and two Czech authors , Bouhmil Hrabal and Vaclav Havel.
|
|
Tabl Cynnwys: Pennod 1 YR ESTHETIG A GWLEIDYDDIAETH YR YMYLON: CYFLWYNIAD
1.1 Yr ysgrifol a’r esthetig
1.2 Gwleidyddiaeth ddemocrataidd a’r esthetig 1
Pennod 2 ‘CODI SGWARNOGOD’ TWM MORYS A CHENEDLAETHOLDEB DIWYLLIANNOL
2.1 Sgwarnogrwydd fel trosiad estynedig
2.2 Beirniadu ideoleg?
2.3 Ideoleg greadigol
2.4 Gwleidyddiaeth ddemocrataidd a’r esthetig 2
Pennod 3 YR ESTHETIG GWLEIDYDDOL YN NHESTUNAU YSGRIFOL BOHUMIL HRABAL a VÁCLAV HAVEL
3.1 Václav Havel, y ffigurol a’r syniad o gyfrifoldeb yn Dopisy Olze (Llythyrau at Olga)
3.2 Cronicladau llenyddol Bohumil Hrabal o’r Chwyldro Felfed a Dopisy Dubence (Llythyrau at Dubenka)
Pennod 4 ADFER YR ESTHETIG
4.1 Yr ysgrifol fel esthetig radical?
4.2 Yr esthetig ar waith ar yr ‘ymylon’
Pennod 5 CASGLIAD
LLYFRYDDIAETH
MYNEGAI
Bywgraffiad Awdur: Mae Dr Sioned Puw Rowlands yn gyfarwyddwr asiantaeth Llenyddiaeth Cymru Dramor, sydd yn hyrwyddo cyfieithu llenyddiaeth Cymru yn rhyngwladol. Ymhlith ei chyhoeddiadau eraill y mae Byd y Nofelydd (Y Lolfa) a Diogi a Chynhyrfu (Gwasg Gwynedd). Hi yw un o gyd-sylfaenwyr y cylchgrawn ar-lein Transcript Review a’r rhwydwaith Ewropeaidd Literature Across Frontiers. Gwybodaeth Bellach: Mae’r gyfrol hon yn archwilio’r berthynas rhwng yr esthetig, ideoleg a’r ysgrifol mewn testunau gan Twm Morys a dau awdur Tsiec, sef Bohumil Hrabal (1914–1997) a’r cyn-arlywydd Václav Havel (1936–). Dadleuir bod y testunau hyn yn ymwneud â’r esthetig mewn modd deinamig, yn wahanol i’r syniad o’r esthetig fel anesthetig, fel rhywbeth anwleidyddol, a ddisgrifiwyd gan gryn dipyn o theori’r ugain mlynedd ddiwethaf – theori a luniwyd ar y cyfan yng nghyd-destun diwylliannau mwyafrifol. Dadleuir fod yr esthetig yn chwarae rhan sylfaenol yng ngwleidyddiaeth yr awduron, sydd yn ymwneud â safbwyntiau lleiafrifol. Wrth archwilio’r llinellau cyswllt rhwng yr ysgrifol a’r tensiynau sydd wrth wraidd yr esthetig trwy gyfrwng testunau Twm Morys, Václav Havel a Bohumil Hrabal, gofynnir i ba graddau y gallai’r ddau fodd fod yn arbennig o atyniadol i gymunedau sydd wedi eu hymylu. Archwilir rôl trosiadau yng nghenedlaetholdeb diwylliannol Twm Morys, y ffigurol fel elfen angenrheidiol yng nghysyniad Václav Havel o gyfrifoldeb, a chroniclau llenyddol Bohumil Hrabal o Chwyldro Melfed Tsiecoslofacia yn Nhachwedd 1989 – hyn yng ngoleuni’r cwestiwn i ba graddau y mae’r cyfluniadau arbennig hyn o’r ysgrifol a’r esthetig, ynghyd â chonsýrn gwleidyddol penodol y testunau dan sylw, yn creu esthetig radical.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|