Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Llyfrau Lloerig: Pen-Blwydd Hapus Blodwen - Y Fuwch Hynaf yn y Byd
Rose Impey
ISBN: 9780860741503 (0860741508)Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 2006
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Caernarfon
Darluniwyd gan Shoo RaynerAddaswyd/Cyfieithwyd gan Elen Rhys.Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 1/2 Fformat: Clawr Meddal, A5, 48 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £3.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Mae Blodwen y fuwch yn dathlu ei phen-blwydd yn 78 oed, ond does gan ei ffrindiau ddim syniad beth i'w brynu'n anrheg iddi. Llyfr arall yn y gyfres boblogaidd i blant. (Lloerig SYML)

Blodwen the cow is celebrating her 78th birthday, but her friends haven't a clue what to buy her as a gift. Another book in the popular series for children. (Lloerig EASY)
Cyhoeddwyd y llyfr hwn gan Wasg Gwynedd, yn y gyfres ‘Llyfrau Lloerig’ ac addaswyd gan Elen Rhys. Llyfr poced clawr meddal yw, sydd â digon o luniau i gadw darllenwyr ifanc yn hapus, ac mae’n gweddu i’r dim i deitl y gyfres (Llyfrau Lloerig): welsoch chi erioed fuwch mewn parasiwt?!

Mae hwn yn llyfr bendigedig ar gyfer unrhyw un sydd ar fin dathlu pen blwydd, beth bynnag fo’ch oedran, oherwydd ceir yma ddigon o syniadau am anrhegion cyffrous! Mae Blodwen yn fuwch enwog iawn, yr hynaf yn y byd (78 oed). ‘Been there . . . done that . . .!’ (Mae hi wedi gwneud popeth ac wedi bod ym mhobman.) Gymaint felly nes bod ei ffrindiau'n cael trafferth penderfynu beth i’w brynu iddi ar ei phen blwydd.

Mae’r lluniau’n fywiog a’r cymeriadau’n hoffus. Llyfr addas i’w ddarllen i blant bach, ac addas i blant ychydig yn hŷn sy’n mwynhau darllen stori ddoniol ac ychydig yn wahanol.

Lynwen Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.



Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Llyfrau Lloerig: Dyma Fi ...
Rachel Anderson
£2.95
 
Prynwch
Llyfrau Lloerig: Dyfal Donc
Rose Impey
£2.95
 
Prynwch
Llyfrau Lloerig: ...
Peter Firmin
£2.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch