Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Rhwng Noson Wen a Phlygain - Cyfrol y Fedal Ryddiaith 1999
Sonia Edwards
ISBN: 9780860741596 (0860741591)Dyddiad Cyhoeddi Awst 1999
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Caernarfon
Fformat: Clawr Meddal, 80 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.25 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Cyfrol arobryn cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1999, sef dilyniant o wyth stori fer delynegol am y berthynas arbennig rhwng brawd a chwaer, a'u perthynas ag eraill yn ystod cyfnod ieuenctid a chanol oed.

The volume awarded the Literature Medal at the Môn National Eisteddfod 1999, which is a sequence of eight short lyrical stories about the special relationship between a brother and sister, and their relationships with others during youth and middle age.
Bu cryn ddadlau eleni ynglŷn â cherdd y Goron yn Eisteddfod Tyddewi, 2002. Ffin denau yw honno rhwng barddoniaeth a rhyddiaith, ac mae’n ymddangos nad yw, erbyn hyn, yn ddim ond ‘hen linell bell nad yw’n bod’.

Gwelodd Dewi Emrys y gorwel yn ‘rhith fel ymyl rhod’. Er mai cymeriadau cig a gwaed yw rhai’r nofel hon, mae fel petai llen anweledig rhyngom a hwy, yn ein rhybuddio i gadw pellter ac ymatal rhag cyffwrdd. Adleisio geiriau W. B. Yeats yn y dyfyniad a geir ar y dudalen flaen a wna pob un ohonynt:

I have spread my dreams under your feet;
Tread softly because you tread on my dreams
.

I Dafydd a Gwyneth yng Nghae Aur, pigau drain a chusanau o atgofion yw’r ymyrraeth a fu o’r tu allan. Gorfodwyd Gwyneth, y chwaer, i weld ‘tu draw i’r hud’ a pheri iddi ollwng yr ‘o’ o’r enw anwes, Deio. Dewisodd Dafydd roi ei alar mewn geiriau ar bapur, er mai i raddau’n unig y llwyddodd i droi’r ddoe’n yfory. Ni ddaw neb i ymweld â Chae Aur bellach, a thaith ddychmygol yw un Dylan yn y bennod glo. Gadewir i’r darllenydd benderfynu a fydd iddo allu datod y parsel bach tyn o obeithion, a dod o hyd i’r drych o yfory.

Yr ydym oll yn gyfarwydd erbyn hyn â dawn Sonia Edwards i drin geiriau. Ateb dilafar Dafydd i’r cwestiynau ‘pam ’dach chi’n barddoni, sut ’dach chi’n mynd ati?’ yw: ‘Deuai geiriau o hyd i gosi blaenau’i fysedd. Weithiau, yn erbyn ei ewyllys, eisteddai wrth ei ddesg wedi gadael rhywbeth arall ar ei hanner er mwyn ufuddhau ... Roedd hi bron fel pe na bai ganddo bin, bron fel pe bai’r inc yn llifo trwy bennau’i fysedd o. Bron fel pe bai’n tywallt cynnwys ei wythiennau’i hun ar hyd y papur gwyn.’ A bron na ellid dweud, hefyd, mai’r awdures ei hun sy’n siarad yma.

Er bod y nofel hon yn gyfanwaith artistig, tybed nad oes yma duedd i or-ddefnyddio’r paent ar adegau. Fe’n hudir, weithiau, i ymlacio yn sŵn a rhythm y geiriau a cholli golwg, o’r herwydd, ar eu hystyr a’u harwyddocâd. Ni cheir yma mo’r amrywiaeth arddull, y plethiad o ledrith a realaeth, a gawsom, yn ddiweddarach, yn Y Goeden Wen.
Un wen oedd y goeden ac un wen yw’r noson. O’r teitl i’r dudalen olaf, y gwyn sy’n rheoli. Gwyn, y lliw nad yw’n lliw yn ôl rhai; y gwyn glân, gwyryfol, pur, a’r cefndir delfrydol sy’n amlygu’r lliwiau eraill i’r sawl a wêl ymhellach. Yn ôl John Ruskin, y meddyliau puraf a’r mwyaf myfyrgar yw’r rhai sy’n caru lliwiau. Un wen yw’r ystafell lle mae Garmon Parry, y tad, yn ceisio ’sgota hen eirfa o bwll du ei ymennydd, a’i gwynder yn edliw ei fethiant i’w fab. Celwydd i gyd yw cyfaredd gwyn yr eira i’r Parchedig Eifion Rhys. I Glenys, gwres oer, gwyn sydd i’r ‘haul crwn, fel platiad o rew’.

O ollwng yr ‘eth’, Gwyn yw’r ferch ddeg ar hugain oed, y plentyn na chollodd ei gafael ar y gallu i ryfeddu. Hi, yn ei diniweidrwydd, yw’r un sy’n gweld ymhellach. Hi, ‘y ferch a welodd liwiau’r glaw a’i henw hi’n gweddu i’w gwên’ sy’n gwneud i Ifor gofio sut i gyffwrdd. Dafydd sy’n ennill y Gadair a’r clod, heb ddeisyfu’r naill na’r llall, ond barddoniaeth ei gweld a’i mynegiant syml hi sy’n aros yn y cof. Wedi iddo weithredu ar gyngor y meddyg a mynd â’i dad i’r Cartref daw cymysgfa o euogrwydd a gollyngdod i blagio Dafydd, ond iddi hi, ‘a’r dyfodol yn rhywbeth amhendant a phell’ daw rhyw yfory neu’i gilydd â’i thad adref ‘pan fyddan nhw wedi sgwennu enwau pethau’n ôl yn ei ben o’.

‘Yn enw pwy mae yfory?’ yw’r cwestiwn nas gall Ifor roi na thafod nac ateb iddo. Gobaith Dylan wrth iddo gychwyn i’w daith yw ceisio pontio’r gagendor rhwng noson wen a phlygain, ond pwy ŵyr beth ddigwyddith iddynt wedyn. ‘Mae hynny’n fwy na fedar neb ei ddweud.’

Eigra Lewis Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Martha, Jac a Sianco (CD) ...
Caryl Lewis
£13.26
 
Prynwch
Llên y Llenor: ...
Delyth George
£1.00
 
Prynwch
Cysgu ar Eithin
Sonia Edwards
£4.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch