Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cywion Uffern
Sonia Edwards
ISBN: 9780860741671 (0860741672)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2000
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Caernarfon
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 4 Fformat: Clawr Meddal, 114 tudalen Iaith: Cymraeg Allan o brint Ein Pris: £3.95   
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Casgliad cyfoes o ryddiaith sy'n darllen fel nofel ar ffurf ymrysonau gan bob cymeriad yn ei dro, yn darlunio anobaith y genhedlaeth ifanc sy'n methu dianc rhag uffern eu hamgylchiadau.

A contemporary collection of prose portraying the despair of the young generation who are unable to escape from the hell of life's circumstances.
Yn y nofel cawn gyfres o ymsonau gan bedwar llanc ac un ferch – Huw, Bych, Dyf, Sgin a Kelly. O’r cychwyn cyntaf cawn ddarlun o gymdeithas amrwd, druenus: ‘Huwi oedd y brêns. Bych oedd y jynci, a Dyf oedd y seico. A fi – wel jyst fi oeddwn i, de?’

Gwelwn gymdeithas drwy lygaid y cymeriadau brith hyn – ei rhagrith, ei hannhegwch a’i hanfoesoldeb. Ni chamodd Sonia Edwards, fodd bynnag, ar ei bocs sebon i bregethu am anghyfiawnder a thlodi a phroblemau cymdeithasol ieuenctid heddiw. Rhagoriaeth y nofel hon yw ein bod ni fel darllenwyr yn medru corco chwerthin un funud a thosturio’r funud nesaf. Un o’r golygfeydd gorau yn fy marn i oedd yr un yng ngharchar Walton lle mae Kelly’n ymweld â’i brawd, Mickey Quinn. Yno, mae hi’n dod i benderfyniad sydd am newid ei bywyd hi a bywyd y pedwar cyfaill am byth.

Mae Cywion Uffern yn deitl arbennig i’r nofel hon sy’n ein hatgoffa o’r dywediad ‘Y cyw a fegir yn uffern, yn uffern y myn fod’. Mae’r cymeriadau, er gwaethaf pob un ‘uffern’ bersonol, yn dychwelyd at yr hyn sy’n gyfarwydd iddynt, er gwaetha’r ffaith bod y lle hwnnw’n hynod o anghysurus.

Nia M. Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Sgôr (Nofel T)
Bethan Gwanas
£3.95
 
Prynwch
Cyfres Pen Dafad: Aminah ...
Gwyneth Glyn
£2.95
 
Prynwch
Cyfres Pen Dafad: ...
Mari Stevens
£2.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch