Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Llyfrau Lloerig: Tric y Pic a Mics
Caryl Lewis
ISBN: 9780860742043 (0860742040)Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2004
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Caernarfon
Darluniwyd gan Gary EvansAddas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 1/2 Fformat: Clawr Meddal, 198 x 129 mm, 48 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £3.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Stori wreiddiol am bump o felysion yn defnyddio eu talentau unigol i ddianc rhag cael eu prynu a'u bwyta. 32 llun du-a-gwyn.

A fully illustrated original story about five sweets who use their individual talents to help each other to escape from being bought and eaten. 32 black-and-white illustrations.
Llyfr gwreiddiol, newydd sbon yn y gyfres Llyfrau Lloerig, addas i blant tua 7 oed, yw Tric y Pic a Mics gan Caryl Lewis. 46 o dudalennau sydd iddo, gydag ychydig o frawddegau mewn print bras a llun clir du-a-gwyn ar bob tudalen.

Pan ddarllenais y broliant, doeddwn i ddim yn siŵr sut fyddai stori am losin yn dianc oddi wrth sgŵp cas yn gweithio. Ond wedyn, os ydy storïau am deganau fel Superted a pheiriannau fel Tecwyn y Tractor mor boblogaidd, pam na all Sws y wefus lliw coch mefus a Stretsh y lasyn licris du adrodd eu stori!

Mae’r lluniau gan Gary Evans yn ychwanegu tipyn at y testun, ond trueni nad yw’r lluniau yng nghorff y llyfr yr un mor lliwgar â’r clawr. Ar waelod pob tudalen mae brawddeg fer yn dweud mwy wrth y darllenwyr am y cymeriadau e.e. Beret yw hoff het Pierre a Mae Cwtsh yn cario’i flanced i bobman. Syniad gwahanol, ond oni ellid bod wedi rhoi’r disgrifiadau yma mewn paragraffau ar ddechrau’r stori fel cyflwyniad mwy manwl i bob cymeriad? Mae yma ymgais arall i fod yn apelgar at blant trwy guddio gorgimwch yn rhai o’r lluniau.

Mae Tric y Pic a Mics yn fwy na llyfr darllen, felly, ac rwy’n siŵr y bydd yn boblogaidd. Wedi’r cyfan, mae pob plentyn yn hoffi losin Pic a Mics!

Meinir Wyn Edwards

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Llyfrau Lloerig: Popo Dianco
Robin Kingsland
£3.25
 
Prynwch
Llyfrau Lloerig: Ffortiwn ...
Rose Impey
£3.95
 
Prynwch
Llyfrau Lloerig: Help! ...
Sonia Edwards
£3.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Apostol
Dyfed Edwards
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Bee Book, The
Jo Byrne
£9.99
 
Prynwch
Plant
Dathlu gyda Sali Mali
Ifana Savill
£6.99
 
Prynwch