Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Symudliw - Enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004
Annes Glynn
ISBN: 9780860742098 (0860742091)Dyddiad Cyhoeddi Awst 2004
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Caernarfon
Fformat: Clawr Meddal, 182x122 mm, 80 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £4.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Cyfrol arobryn Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch 2004, sef casgliad o drigain darn llên meicro, pob un yn ymwneud ag amryfal agweddau ar newid.

The prize-winning volume of the Literary Medal Prize at the Newport Welsh National Eisteddfod 2004, being a collection of sixty micro literature works, each one dealing with various aspects of change.
Cyfrwng cymharol newydd yw llên meicro, yr englyna mewn brawddegau (ond ymhell o fod yn rhyddieithol). Mae’n siŵr y bydd rhai’n cwyno ynglŷn â’r gwastraff papur ac yn ei chael yn anodd dygymod â’r byrder, er eu bod yn hen gynefin â darllen a gwerthfawrogi englynion.

Efallai ein bod yn rhoi gormod o bwyslais ar y cyfryngau llenyddol ac yn rhygnu ymlaen yn ddiddiwedd ynglŷn â’r gwahaniaeth sylfaenol rhwng barddoniaeth a rhyddiaith. Geiriau yw’r deunydd crai, a rhydd pob cyfrwng gyfle i’r awdur brofi ei allu i drin y deunydd hwnnw.

Cynildeb yw gair allweddol llên meicro. Rhaid dewis a dethol geiriau’n ofalus gan y gall un cam gwag ddifetha’r cyfan. Cefais flas ar fwyafrif storïau Symudliw, a blas arbennig ar ambell un. Chwaeth bersonol, yn fwy na dim, sy’n pennu’r ffefrynnau. Y storïau sy’n aros yn fy nghof i, oherwydd yr awgrymu cynnil, yw ‘Arallgyfeirio’ a ‘Newid Gêr’ (marciau llawn am y teitlau!), y naill yn ymwneud â pherthynas dwy ferch a’r llall â thrawswisgo.

Ni welaf angen rhannu’r storïau’n adrannau (er nad oes dim o’i le ar hynny) gan eu bod oll yn gwau i’w gilydd. Gellid eu symud o un adran i’r llall heb amharu ar y cyfanwaith. Nid oes yma ddim sy’n syfrdanol o newydd – beth sy’n newydd, wedi’r cyfan? – ond mae’r dweud yn gallu bod yn wefreiddiol ar adegau.

Maent oll yn cydio’n glòs wrth y dyfyniad ar y dechrau:

‘Er anwadalwch byd,
Yr un yw dyn o hyd.’

Gellid ychwanegu’r dyfyniad hwn:

‘Dyn yw dyn ar bum cyfandir,
Dyn yw dyn o oes i oes.’

Nodyn trist a diobaith a gawn yma ar y mwyaf. Gwelwn gymdeithas yn dadfeilio, dieithriaid yn goresgyn, merch fach yn deisyfu’i hoes cyn bod yn blentyn, byrhoedledd yr e-bost, dadrithiad, difaterwch, yr anallu a’r amharodrwydd i ddeall. Fel un sy’n credu mai hen fyd mileinig a phwdr yw hwn, rwy’n gallu uniaethu â hyn. Ond gall Annes, fel minnau, deimlo chwa o gysur sy’n cynhesu’r galon o dro i dro, fel ym mrawddeg glo ‘Rhwng y Cynfasau’. Weithiau, cawn fflach o ddireidi, yn y darlun o’r ferch gyfoes sydd wedi dysgu sut i’w hamddiffyn ei hun ac yn y sylw gwreiddiol, ‘Mae’n diolch i’r nefoedd mai i’r dosbarth nos gwaith coed, yn hytrach nag i’r life drawing, y penderfynodd ei gŵr hi fynd wedi’r cyfan (‘Pe bawn i’n artist’).

Dyma un sy’n ymwybodol o werth geiriau ac o allu un gair bach i droi’r cyffredin yn gofiadwy, fel ‘sboelio’ yn ‘Meincnod’ a’r dinistr sy’n deillio ohono, ‘dad’ yn rhestr blaenoriaethau’r Nadolig, y ‘late’ creulon sy’n dyrnu yn erbyn y ffactore, a’r ffin denau rhwng y ‘jest digon’ a ‘gormod’.

Ceir yma ddychan, sy’n pigo heb adael colyn, un wedi’i dyneru â chariad tuag at gyd-ddyn er ei holl ffaeleddau, fel yn ‘Arwr Cymraeg’ a’i hadlais o ‘Croeshoelier ef’ ac yn ‘Chwarae Duw’, sy’n fy atgoffa o Sister Geoge a’i hamharodrwydd ‘i ddiflannu heb ffeit’.

Dylai poen Annes fod yn boen i bob un ohonom sy’n pryderu ynglŷn â dyfodol ein cenedl a dynoliaeth yn gyffredinol. Ond, o dderbyn gwirionedd y dyfyniad, ni allaf lai na theimlo mai taro ein pennau yn erbyn y wal yr ydym ac na allwn ond ceisio gwneud y gorau o’r gwaethaf.

Eigra Lewis Roberts

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Un Nos Ola Leuad (SCD2472)
Caradog Prichard
£5.99
 
Prynwch
Te yn y Grug (SCD2471)
Kate Roberts
£5.99
 
Prynwch
Llên y Llenor: ...
Delyth George
£1.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch