Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Ganthrig Bwt y Wrach
Catherine Aran
ISBN: 9780860742265 (0860742261)Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2006
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Caernarfon
Darluniwyd gan Eric HeymanAddas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2 Fformat: Clawr Meddal, 198x131 mm, 48 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £3.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Stori fywiog, llawn darluniau, yn adleisio naws hen chwedlau, i blant 7-9 oed; dilyniant i'r gyfrol Idris y Cawr.

A lively, illustrated story for children aged 7-9 years, echoing the atmosphere of old myths; a sequel to Idris y Cawr.
Stori fywiog yw Ganthrig Bwt y Wrach syn datblygu o hunan-ddelwedd Ganthrig sydd yn bell o fod yn gywir. Mae gan y cymeriad yma bersonoliaeth sydd yr un mor hynod a gwreiddiol r enw y mae'n ei arddel, sef Ganthrig Bwt. Er ei bod hi mewn gwirionedd yn eithriadol o hyll mae hin mynnu mai hi ywr ferch brydfertha welodd neb erioed; maen meddwl ei bod mor ddel nes ei bod yn penderfynu cystadlu mewn cystadleuaeth harddwch.

Fel y gallwch ddychmygu, nid yw pethaun digwydd fel y dymuna Ganthrig ac mae hyn yn arwain at nifer o fisdimanars ar ei rhan hi. Yn sgil hyn down ar draws nifer o gymeriadau diddorol eraill sydd yn ceisio dod phethau i drefn yn dilyn yr anhrefn a achoswyd gan Ganthrig.

Mae yna ffraethineb a hiwmor yn amlwg yn yr ysgrifennu, yn enwedig felly wrth i ni gyfarfod Idris y Cawr, Carwyn y Carw ac yn arbennig yr eos fechan syn dod o hyd i gn i ateb cwestiynau'r ddau uchod; gwnaeth hyn i mi am merch chwech oed yn llythrennol chwerthin yn uchel.

Maer hiwmor hwn ynghyd r cymeriadau diddorol yn llwyddo i ddal diddordeb er bod trefn y digwyddiadau yn gallu bod yn gymysglyd ar adegau. Ond ar y cyfan mae hwn yn llyfr delfrydol i annog plentyn ifanc i gael mwynhad o ddarllen yn annibynnol.

Gwenith ap Robert John

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Idris y Cawr
Catherine Aran
£3.95
Tywysoges y Tŵr
Catherine Aran
£4.95
 
Prynwch
Cyfres Plant y Goedwig: ...
Anne Brooke
£2.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch