Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Dygwyl Eneidiau - Nofel Fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006
Awdur: Gwen Pritchard Jones
Gweld rhagor o deitlau gan 'Gwen Pritchard Jones'
ISBN: 9780860742302 (086074230X)
Dyddiad Cyhoeddi Awst 2006
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Caernarfon
Fformat: Clawr Meddal, 181x122 mm, 528 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Dygwyl Eneidiau - Nofel Fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006
Ein Pris: £9.95 
Llofruddiaeth erchyll y ficer noson Dygwyl Eneidiau; dyna oedd dechrau gyrfa Siôn Rhisiart fel milwr ar feysydd rhyfel Ewrop, ond pam? A phwy oedd y llofrudd? Mewn ymgais i ateb y cwestiynau hyn dychwela Siôn i Aberdaron. Dyma stori llawn cyffro, dirgelwch a rhamant sydd wedi eu gwau o gwmpas digwyddiadau cythryblus cyn dechrau'r rhyfel cartref yn 1642. Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007

A murder on the eve of All Souls'; this was the beginning of Siôn Rhisiart's career as a soldier on the battlefields of Europe, but why? And who was the murderer? In order to answer these questions Siôn returns to Aberdaron. A story infused with energy, mystery and romance, all of which weave around the backdrop of the days leading up to the civil war of 1642. Book of the Year Short List.
Mae hon yn wledd o nofel hanes a ditectif ynghyd â stori ramant. Y cyfnod a chefndir y digwyddiadau yw Aberdaron yn y blynyddoedd sy’n arwain at y Rhyfel Cartref yn yr ail ganrif ar bymtheg. O’i chychwyn dramatig o lofruddiaeth y ficer Griffith Piers i’r penodau cyffrous olaf o droadau annisgwyl fe’n tywysir yn gelfydd ac yn hamddenol drwy fywydau'r bonedd a’r werin.

Siôn Rhisiart yw prif gymeriad y nofel. Bu’n rhaid iddo adael Cymru pan oedd yn blentyn ond, ac yntau'n awr yn filwr cefnog sy’n berchen tir ym Mohemia, dychwela i ddarganfod y gwir tu cefn i ddirgelwch y llofruddiaeth a’i ymadawiad gorfodol sydyn. Wrth gwrs, ac yntau wedi teithio Ewrop a’r llywodraeth yn ochelgar o ysbïwyr ac o Iwerddon mae ei ddiogelwch ef mewn mwy o berygl.

Camp y nofelydd hanes yma yw strwythur ei stori a’i chrefft wrth ddatblygu’r digwyddiadau a’r cymeriadau. Fe saif Alex Bodfel liwgar a pherchennog Enlli, ynghyd ag ymrafael y ddau John Bodwrda, sef y tad a’r mab, yn hir yn y cof. Y mae Siôn ei hun â dyfnder i’w gymeriad wrth i ragor o’i hanes gael ei ddatgelu. Nid nofel am ddynion yn unig mohoni gan fod Catrin, sef dyweddi John a ddaw’n gariad i Siôn, yn hawlio’i lle drwy’r holl ddigwyddiadau. Mae yma hefyd lawer o is-gymeriadau a chwaraea rannau pwysig yn y stori fel y ddwy chwaer ym Modwrda sef Jane a Modryb Dorothy simsan ei meddwl. Daw sawl un ohonynt, megis John ‘Prins’ Griffiths ac asiant Bodwrda, Enoch Evans, yn fyw wrth i ni ddeall am eu hymgais i gadw enw da’r teulu, cuddio hen gyfrinachau, yn ogystal â dangos eu hochrau ystrywgar.

Un o gryfderau Gwen Pritchard yw ei gallu i dynnu darlun clir rhyfeddol o fywyd y cyfnod gyda’r dillad yn cael cryn sylw ynghyd â’r paratoi at galan, y bwyd a’r ddiod, sgwrs yr uchelwyr ac yn arbennig gwleidyddiaeth y cyfnod gyda’r anghydfod a’r tensiwn rhwng San Steffan dan arweiniad Pym a’r brenin Siarl yn effeithio fwyfwy ar fywydau pawb. Diddorol yw’r darlun o agwedd y Cymry at grefydd gyda Phabyddiaeth yn gysgod tenau a Phrotestaniaeth yn arglwyddiaethu gyda’r hen arferion yn dal eu gafael megis ymladd ceiliogod a dathlu Calan Gaeaf.

Y mae’r awdures yn bencampwraig ar adrodd stori gydag arddull addas ddarllenadwy, ac nid yw’r cefndir hanesyddol yn llethu na mygu’r nofel mewn unrhyw fodd ond ei chryfhau. Fe wna’r dioddef a’r gwrthdaro, a’r dirgelwch ynghylch sawl cymeriad y nofel hon yn un hynod ddarllenadwy. Dyma ychwanegiad llwyddiannus a swmpus (dros 500 tudalen) i’r silff lle gorwedd nofelau R. Cyril Hughes, Marion Eames a Rhydwen Williams. Nid yw’n rhyfedd fod Dygwyl Eneidiau wedi cipio Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Abertawe 2006.

Ion Thomas

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Gwybodaeth Bellach:
‘Dyma nofel rymus gan un sydd wedi’i fwydo’i hun yn hanes yr ail ganrif ar bymtheg, ac eto sy’n ddigon o lenor i beri i’w stori hedfan yn rhydd o hualau hanes.’
John Rowlands
‘. . . mae’r awdur yn llenor wrth reddf . . . mae’r arddull yn gyfoethog, gaboledig, a cheir disgrifiadau tyner ochr yn ochr ag ysgrifennu caled, cignoeth. Mae hon yn nofel ragorol.’
Gwerfyl Pierce Jones
‘Mae’r nofel hon yn sefyll ar ei phen ei hun yn y gystadleuaeth. Oherwydd dyfeisgarwch ei phlot, cyfoeth ei dweud a soffistigeiddrwydd ei chefndir, mae hi’n llawn haeddu ennill y wobr bwysig hon.’
Branwen Jarvis