Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Dyfi Jyncshiyn - y dyn blinGareth F. Williams
Gweld rhagor o deitlau gan 'Gareth F. Williams' |
ISBN: 9780860742418 (0860742415)Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2007
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, CaernarfonFformat: Clawr Meddal, 182x123 mm, 286 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£8.95
| |
Sgôr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:   
|
|
|
Fis Medi 1965, gadawodd dau o Gymry ifainc eu cartrefi yng Ngwynedd, eu dau ar drothwy bywydau newydd. Gorfu iddynt dorri eu siwrnai'n ddwy a threulio'r noson ar feinciau anghyfforddus yn ystafell aros Dyfi Jyncshiyn. Drannoeth, gwnaethant addewid y buasent - os byw ac iach - yn dychwelyd yno ymhen deugain mlynedd.
In September 1965, John and Marian left their homes in Gwynedd, setting off to start new lives. Following an unsettling night sleeping on benches at Dyfi Junction, they promised that they'd reunite at the same spot forty years later.
|
|
Does dim llawer o bobl yn gallu gweld rhamant yng Nghyffordd Dyfi. Rhywle i basio trwyddo ar y trên, ac unwaith i chi fynd heibio, ei ollwng o’r cof. Nid felly John Griffiths. Cychwynna Dyfi Jyncshiyn – y dyn blin ar ddechrau mis Medi 1965, gyda John Griffiths ifanc ar ei ffordd i Grymych i gychwyn ar ei swydd ddysgu gyntaf. A hithau’n ddiwrnod digon tymhestlog, erbyn cyrraedd Glannau Dyfi mae lein y Cambrian dan ddŵr, gan orfodi i’r trên aros dros nos yn y gyffordd ddiarffordd. Â’r teithwyr i gyd ond am un ferch ifanc, Marian, i chwilio am dacsis neu rywle i aros dros nos. Ar ôl ychydig, daw John yn ei ôl i’r ystafell aros ar y platfform, a threulia yntau a Marian noson nwydus yng nghwmni ei gilydd, a’r bore wedyn, wrth ffarwelio, trefna’r ddau y byddan nhw’n ailgyfarfod ddeugain mlynedd i’r noson honno yn yr un man.
Mae gweddill y nofel yn digwydd ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, gyda John a’i feddwl yn llawn trefniadau ar gyfer ceisio gweld Marian. Yn raddol, down i wybod mwy am hanes ei fywyd: y ffaith iddo orfod ymddeol yn gynnar o’i yrfa fel athro, ei ddiffyg hyder a’i ansicrwydd, a sut y trodd y llanc ifanc llawn gobaith a delfrydau yn hen ddyn blin.
Ceir portread da iawn o siomedigaeth a chwerwedd yn y nofel. Dyw John ddim yn gymeriad hoffus, a hawdd gweld sut mae ei deulu a’i gyfeillion yn colli amynedd ag ef. Ond mae’n bosibl cydymdeimlo ag yntau hefyd yn enwedig wrth weld sut mae ei ferch yn ceisio'i reoli a threfnu popeth ar ei gyfer. Dyma ddyn sydd wedi colli rheolaeth ar hynt ei fywyd: mae’n ei chael hi’n amhosibl trefnu bod i ffwrdd am un noson hyd yn oed heb orfod creu rhyw stori fawr i esbonio hynny wrth bawb wrth reswm does neb yn gwybod dim am Marian.
Mae’r stori wedi’i saernïo’n dda, ac mae yma ysgrifennu dirdynnol wrth ddisgrifio diwedd ei briodas ar ôl i’w wraig ei adael, dyma ei hochr hi o’r gwely: ‘y llecyn cynhesaf a mwyaf diogel ar wyneb y ddaear ar un adeg, ond bellach yn llyfn ac yn oer, a’i ddychymyg sbeitlyd yn ei bryfocio am ennyd gyda rhith ei phersawr ar y gobennydd.’
Ond er gwaethaf y cymeriad anghynnes braidd sy’n ganolog iddi, dyw hon ddim yn nofel ddiflas o bell ffordd. Mae’r stori’n llifo’n rhwydd, gyda digon o hiwmor yn yr ysgrifennu, a’r darllenydd yn awyddus i wybod beth fydd ei phen draw.
Ceir cyfeiriadau mynych at luniau Edward Hopper a cheir yma nifer o ddisgrifiadau o gymeriadau unig a llonydd sydd ar goll yn eu meddyliau eu hunain, fel pe baent yn rhan o un o’i beintiadau; ac fel yn lluniau Hopper, dydyn ni ddim yn gweld y stori gyfan yn y nofel chwaith. Bydd rhaid aros tan y dilyniant i’w chael yn llawn.
Catrin Beard
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: Ganed a maged Gareth F. Williams ym Mhorthmadog. Mae'n awdur amser llawn ers dros ugain mlynedd. 'Dyfi Jyncshiyn' yw ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, ond mae eisoes wedi ennill gwobr Tir na n-Og dair gwaith am ei lyfrau ar gyfer pobol ifanc, 'Dirgelwch Loch Ness' a'i ddwy nofel, 'O Ddawns i Ddawns' ac 'Adref heb Elin'. Mae hefyd wedi ysgrifennu llawer iawn ar gyfer y llwyfan a’r sgrin, gan gynnwys y ddrama 'Siôn a Siân' ac, yn ddiweddar, addasiad llwyfan o 'Lyfr Mawr y Plant', a fydd yn cael ei pherfformio gan Gwmni Bara Caws ddiwedd 2007 / dechrau 2008. Enillodd wobr BAFTA am ei sgript ffilm o 'Siôn a Siân', cyd-greodd y gyfres boblogaidd Pengelli ac enillodd wobr yr ŵyl Ffilmiau Geltaidd am ei gyfres 'Pen Tennyn'. Gwybodaeth Bellach: Fis Medi, 1965, gadawodd dau o Gymry ifainc eu cartrefi yng Ngwynedd, eu dau ar drothwy bywydau newydd.
Ond erbyn i'w trên gyrraedd gorsaf Dyfi Jyncshiyn, roedd yn noson wlyb a stormus tu hwnt. Gorfu iddynt dorri eu siwrnai'n ddwy a threulio'r noson ar feinciau anghyfforddus yr ystafell aros. Drannoeth, gwnaethant addewid y buasent – os byw ac iach – yn dychwelyd yma ymhen deugain mlynedd...
Fis Medi, 2005, a chyda'i fywyd yn bell o fod yn berffaith, mae John Griffiths yn benderfynol o gadw'r oed a drefnodd gyda'r ferch ifanc ryfeddol honno yn ôl yng nghanol y chwedegau.
Y cwestiwn mawr, wrth gwrs, yw – fydd Marian yno? Fydd hi hyd yn oed yn cofio amdano? Ac os bydd hi'n ei gofio, a fydd arni eisiau camu'n ôl i'w gorffennol?
Nofel mewn dwy ran yw 'Dyfi Jyncshiyn'. Bydd yr ail ran, 'Y Merched yn yr Haul', yn ymddangos yn ystod 2008. |
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
"Gwych! Llyfr gwirioneddol dda. Mae'n symud yn gyflym a cheir sgyrsiau a defnydd o dafodiaith arbennig. Yn edrych ymlaen yn barod at y nofel nesaf yn y gyfres. Da yw darllen nofel sy'n gafael ond sydd hefyd yn ddoniol a diddan. Dydy hi ddim yn rhoi atebion hawdd ond mae'n dal i ennyn a chadw diddordeb y darllenydd tan y diweddglo - sydd mewn gwirionedd ond yn brolog ar gyfer y bennod nesaf.
Hwrê!
"
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|