Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Tinboeth |
ISBN: 9780860742449 (086074244X)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2007
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, CaernarfonGolygwyd gan Bethan Gwanas
Fformat: Clawr Meddal, 182x123 mm, 102 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£5.95
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Cyfrol o straeon erotig gan naw awdures amlwg iawn: Caryl Lewis, Eigra Lewis Roberts, Meg Elis, Gwen Lasarus, Bethan Gwanas, Lleucu Roberts, Gwyneth Glyn, Siân Northey a Fflur Dafydd. Mae yma straeon amrywiol o ran naws - rhai yn dyner a chynnil, eraill yn fwy uniongyrchol.
A compilation of erotic short stories written by nine of Wales' most famous female authors: Caryl Lewis, Eigra Lewis Roberts, Meg Elis, Gwen Lasarus, Bethan Gwanas, Lleucu Roberts, Gwyneth Glyn, Siân Northey and Fflur Dafydd.
|
|
Mae gwybod dy fod ti ar fin darllen straeon erotig yn anos na digwydd darllen darnau erotig mewn nofel neu lyfr arferol am fod y disgwyliadau’n fwy. Mae deg stori erotig y gyfrol hon yn amrywiol, ac mae’n sicr fod yma rywbeth at ddant pawb.
Mae’r ffaith nad yw’r awduresau sydd wedi cyfrannu wedi dewis nodi'u henwau wrth y gwaith wedi tynnu sylw'r wasg ac yn sicr yn ychwanegu at ddirgelwch y darllen wrth bori drwy’r gyfrol.
Ymdrechwyd, yn ogystal, i gael ystod eang o bynciau yn y gyfrol. Mae rhai wedi dewis gosod eu straeon yng nghefn gwlad ac eraill wedi dewis gosod y stori yng nghyd-destun y ddinas fawr ddrwg. Cawn straeon am athrawes a’i chyn-ddisgybl, perthynas odinebus sy’n cryfhau perthynas briodasol, a menyw sy’n cwympo dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â ffarmwr. Mae yna ddos go dda o hiwmor yn y stori ‘Pwdin’, a digon o gyfrinachau ac amwysedd yn ‘Sleifio’, a thro yn y gynffon yn ‘Prrr’. Mae yna rinweddau i bob un stori, gyda stori ‘Jasmin ac Eiodin’ yn codi i dir uchel. Stori deimladwy, llawn nwyd a rhyw sy’n berl o stori fer. Yn wir, mae hi’n haeddu ei lle ymhlith canon ein straeon byrion. Efallai y gallai ambell stori fod wedi bod yn fwy cynnil ar adegau. I ryw raddau, mae’n wir mai’r aros, y disgwyl a’r pendroni a ddaw yn sgil sefyllfa rywiol yw’r peth mwyaf rhywiol, ac nid y rhyw ei hun.
Cyfrol a ddylai fod yn boblogaidd iawn ymhlith menywod a dynion Cymru gyfan.
Catrin Dafydd
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Gwybodaeth Bellach: Dyma'n sicr dorri tir newydd! Cyfrol o straeon erotig gan naw awdures amlwg iawn – bron bob un ohonynt wedi cyhoeddi cyfrol neu gyfrolau o'u gwaith eu hunain, ac yn cael eu hystyried ymhlith prif awduron Cymru heddiw.
Mae pob math o bethau difyr yn gallu cael eu trafod gan ferched dros baned a brechdan. A dyna’n union ddigwyddodd pan ddaeth criw bychan o awduresau ynghyd yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy. Canlyniad y sgwrs honno yw’r llyfr Tinboeth – deg o straeon erotig gan ferched.
Bethan Gwanas sy’n gyfrifol am olygu’r gyfrol, sy’n cynnwys straeon byrion gan Caryl Lewis, Fflur Dafydd, Meg Elis, Eigra Lewis Roberts, Gwyneth Glyn, Siân Northey, Lleucu Roberts a Gwen Lasarus, yn ogystal â’r golygydd ei hun. Un o’r pethau mwyaf nodweddiadol am y gyfrol yw nad yw’r darllenwyr yn gwybod pa awdures sydd wedi sgwennu pa stori.
Meddai Bethan, “Gan fy mod i wedi hen arfer, roeddwn i’n gwbl hapus i roi fy enw wrth fy stori i. Ond roedd rhai o’r lleill yn teimlo’n gry tasan nhw’n gallu bod yn ddienw, mi fysan nhw’n fwy rhydd i sgwennu. Roedd rhai ohonyn nhw ofn pechu eu mamau, eu neiniau, neu hyd yn oed eu gwŷr efallai, dwi’m yn gwbod!”
Mae arddull y straeon yn amrywio, rhai’n ysgafn gyda digon o hiwmor ynddynt, rhai eraill sy’n fwy mentrus, a rhai‘n hyfryd o farddonol a synhwyrus.
Ychwanega Bethan, “Y brîff roddais i i bawb oedd mai dyma’r math o lyfr ‘dan ni isio i bobl ei ddarllen ar eu gwyliau, neu’n ymlacio dros lasiad o win. Mae ‘na alw wedi bod am lyfr fel hyn yn Gymraeg ers talwm, ac mae’r pwyslais ar yr erotig yn hytrach na’r budur, gobeithio!”
Y peth mwya difyr, wrth gwrs, fydd ceisio dyfalu pa awdures sy’n gyfrifol am ba stori. Ond i’r perwyl hwnnw, tydi Bethan yn rhoi dim i ffwrdd.
“Dienw ydi’r straeon yn y llyfr, a dienw fyddan nhw’n aros! Mae ambell awdures hyd yn oed wedi mynd allan o’i ffordd i guddiad ei steil. Dwi’n meddwl bod y’n steil i’n gwbl amlwg, ond camp i chi ddyfalu’r gweddill!”.
Mae yma straeon amrywiol o ran naws – rhai yn dyner a chynnil, eraill yn fwy uniongyrchol yn arbennig yn eu hymdriniaeth o ryw (ond heb fod byth yn bornograffig).
Yng ngeiriau Bethan Gwanas, y golygydd – 'y math o lyfr fyddech chi'n dymuno ei ddarllen ar eich gwyliau efo gwydraid o siampên neu sangria wrth eich ochr – a gwên ar eich wyneb!'
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|