Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Ar y Lein Eto Fyth!
Bethan Gwanas
ISBN: 9780860742456 (0860742458)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Caernarfon
Fformat: Clawr Meddal, 196x130 mm, 184 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £7.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Dyma'r trydydd o ddyddiaduron Bethan Gwanas yn dilyn llinellau 'Ar y Lein'; ei hanes yn dilyn y cyhydedd o amgylch y byd ydi hwn. Ceir nifer o straeon difyr ynghyd â'i sylwadau hithau am amrywiaeth y diwylliannau a'r arferion, a'r systemau gwleidyddol ac economaidd y daeth ar eu traws.

The third lively and engaging diary of Bethan Gwanas's travels - this time following the equator. Many tales are recounted, together with her comments on the various cultures encountered, and the different politics and economies she experienced in different countries.
Mae Bethan Gwanas yn deithwraig fentrus sydd yn gm am bob math o anturiaethau wrth ffilmio cyfresi Ar y Lein ar gyfer S4C. Dymar trydydd dyddiadur iddi ei ysgrifennu yn cofnodi ffilmior cyfresi hyn. Mae cip sydyn ar y lluniau yn y gyfrol yn ddigon i ddweud wrthych nad yw hon yn mynd i fod yn siwrnai gyffredin gonfensiynol ar hyd y cyhydedd. Gallwch gymryd yn ganiataol fod arweinlyfrau fel y Rough Guide a'r Lonely Planet am Kenya, Brasil ac Ecuador wedi cael ffling, neu wedi'u gadael ar y silff yn Rhydymain, wrth ir awdur fynnu dewis ei lleoliadau ei hun er mwyn treiddio o dan yr wyneb a mynd yn agosach at y bobl sydd yn gwneud y llefydd yman ddiddorol.

Yn ogystal dal chwyddwydr uwchben diwylliant y gwledydd, maer dyddiadur yn gofnod dadlennol or broses ffilmio ar pwysau sydd ar bawb i weithio i amserlen anodd, yn ogystal delio gyda ffactorau annisgwyl. Edrychwch ar y dyddiadau, gwnewch eich sỳms, a buan y dewch i sylweddoli nad jolihoetian yw ffilmio dramor.

Fel y ffilmio, cyflym iawn ywr ysgrifennu hefyd. Nid oes lle i ddisgrifiadau manwl or daith, ac mae angen camu'n l ambell waith i atgoffach hun pa wlad yr ydych ynddi. Ond mae arddull pytiog ac anffurfiol y dyddiadur yn gwneud y gyfrol yn ddarllenadwy iawn. Colled i nir darllenwyr yw na chafodd yr awdur fwy o amser i fynd yn frodorol, a threulio cyfnodau hirach yn y llefydd bun ymweld hwy.

I deithwyr annibynnol, maer llyfr yn ysbrydoliaeth wrth i chi weld faint sydd iw weld ai ddarganfod mewn gwledydd tu hwnt ir radar twristaidd. Beth sydd ei angen i fwynhau teithio? Meddwl agored, synnwyr digrifwch, parodrwydd i siarad a gofyn cwestiynau i bobl. Dyma ddawn yr awdures yma ac mae'n wers i ni gyd wrth fynd y tu hwnt in cynefin.

Emyr Williams

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Omlet
Nia Medi
£7.95
 
Prynwch
Ar y Lein Eto
Bethan Gwanas
£7.95
 
Prynwch
Tinboeth
 
£5.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch