| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Ar y Lein Eto Fyth!Bethan Gwanas
Gweld rhagor o deitlau gan 'Bethan Gwanas' |
ISBN: 9780860742456 (0860742458)Dyddiad Cyhoeddi Mai 2008
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, CaernarfonFformat: Clawr Meddal, 196x130 mm, 184 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£7.95
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Dyma'r trydydd o ddyddiaduron Bethan Gwanas yn dilyn llinellau 'Ar y Lein'; ei hanes yn dilyn y cyhydedd o amgylch y byd ydi hwn. Ceir nifer o straeon difyr ynghyd â'i sylwadau hithau am amrywiaeth y diwylliannau a'r arferion, a'r systemau gwleidyddol ac economaidd y daeth ar eu traws.
The third lively and engaging diary of Bethan Gwanas's travels - this time following the equator. Many tales are recounted, together with her comments on the various cultures encountered, and the different politics and economies she experienced in different countries.
|
|
Mae Bethan Gwanas yn deithwraig fentrus sydd yn gêm am bob math o anturiaethau wrth ffilmio cyfresi Ar y Lein ar gyfer S4C. Dyma’r trydydd dyddiadur iddi ei ysgrifennu yn cofnodi ffilmio’r cyfresi hyn. Mae cip sydyn ar y lluniau yn y gyfrol yn ddigon i ddweud wrthych nad yw hon yn mynd i fod yn siwrnai gyffredin gonfensiynol ar hyd y cyhydedd. Gallwch gymryd yn ganiataol fod arweinlyfrau fel y Rough Guide a'r Lonely Planet am Kenya, Brasil ac Ecuador wedi cael ffling, neu wedi'u gadael ar y silff yn Rhydymain, wrth i’r awdur fynnu dewis ei lleoliadau ei hun er mwyn treiddio o dan yr wyneb a mynd yn agosach at y bobl sydd yn gwneud y llefydd yma’n ddiddorol.
Yn ogystal â dal chwyddwydr uwchben diwylliant y gwledydd, mae’r dyddiadur yn gofnod dadlennol o’r broses ffilmio a’r pwysau sydd ar bawb i weithio i amserlen anodd, yn ogystal â delio gyda ffactorau annisgwyl. Edrychwch ar y dyddiadau, gwnewch eich sỳms, a buan y dewch i sylweddoli nad jolihoetian yw ffilmio dramor.
Fel y ffilmio, cyflym iawn yw’r ysgrifennu hefyd. Nid oes lle i ddisgrifiadau manwl o’r daith, ac mae angen camu'n ôl ambell waith i atgoffa’ch hun pa wlad yr ydych ynddi. Ond mae arddull pytiog ac anffurfiol y dyddiadur yn gwneud y gyfrol yn ddarllenadwy iawn. Colled i ni’r darllenwyr yw na chafodd yr awdur fwy o amser i ‘fynd yn frodorol’, a threulio cyfnodau hirach yn y llefydd bu’n ymweld â hwy.
I deithwyr annibynnol, mae’r llyfr yn ysbrydoliaeth wrth i chi weld faint sydd i’w weld a’i ddarganfod mewn gwledydd tu hwnt i’r radar twristaidd. Beth sydd ei angen i fwynhau teithio? Meddwl agored, synnwyr digrifwch, parodrwydd i siarad a gofyn cwestiynau i bobl. Dyma ddawn yr awdures yma ac mae'n wers i ni gyd wrth fynd y tu hwnt i’n cynefin.
Emyr Williams
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|