Eich basged
Mae eich Basged yn Wag
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Maison du Soleil, YMared Lewis
Gweld rhagor o deitlau gan 'Mared Lewis' |
ISBN: 9780860742494 (0860742490)Dyddiad Cyhoeddi Mehefin 2010
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, CaernarfonFformat: Clawr Meddal, 182x123 mm, 240 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£7.95
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Nofel afaelgar ar gyfer oedolion, am ffrindiau a chariadon, am rywioldeb, twyll a chyfrinachau. Fe'i lleolir yn bennaf ym mherfeddion Ffrainc, a hynny yn anterth un haf poeth pan mae'r gwres yn llethol, ond y storm a'r taranau byth yn bell iawn. Mae Esyllt wedi marw, ond mae hi'n dal yno, yn dal i chwarae un cymeriad yn erbyn y llall. Adargraffiad; cyhoeddwyd yn 2008.
A novel about friends and lovers, about sexuality, deceit and secrets. It is set mainly in the heart of France, during one hot summer when the heat is sweltering, but the thunderstorm isn't far away. Esyllt is dead, but she's still there, playing one character against the other. Reprint; first published in 2008.
|
|
Tŷ haf yn ardal Poitou-Charentes, Ffrainc, ydy’r Maison du Soleil. Bob haf ers saith mlynedd byddai criw o ffrindiau Tim ac Esyllt, Ben a Cadi, Gareth a Non yn cyrraedd y Maison yn un haid am bythefnos yn yr haul. Ond mae pethau’n wahanol y tro hwn.
Yn dilyn marwolaeth Esyllt, perchennog y tŷ, mae Tim ei gŵr yn penderfynu gwahodd y pedwar arall i dreulio haf arall yn y Maison. Ond nid pawb sy’n hapus o dderbyn gwahoddiad Tim. Gydag absenoldeb Esyllt fel cysgod dros y criw, mae gan bob un ei resymau dros deimlo’n anghyfforddus yn y tŷ ac yng nghwmni ei gilydd, er mai derbyn y gwahoddiad a mynd i Ffrainc y gwna pob un yn y pen draw.
Mae’r tensiwn yn y Maison yn amlwg, gyda phob aelod yn meddu ar gyfrinach, a’r awyrgylch o dwyll a drwgdeimlad yn dew drwy’r tŷ. Ond cynyddu wna’r tensiwn gyda’r newyddion y bydd llythyr gan Esyllt, a adawyd yn ei ewyllys, yn cyrraedd y Maison cyn diwedd y gwyliau, gan sicrhau fod Esyllt yn dal i reoli’r pethau, yn union fel pan oedd hi’n fyw.
Wrth i’r pum ffrind geisio dianc rhag presenoldeb Esyllt a’i gafael ar ei bywydau, a fydd modd iddynt ddod i delerau â’r gorffennol a symud ymlaen? Sut effaith gaiff y gwyliau ar y berthynas rhwng y pum ffrind? A beth fydd dyfodol y Maison du Soleil?
Dyma nofel afaelgar, sy’n delio â materion yn ymwneud â ffrindiau, cyfeillgarwch, cariadon, a thwyll. Mae’r stori’n frith o gyfrinachau a throeon, ac mae gan bob cymeriad rhywbeth i’w guddio. Ceir cipolwg i ddyfnderoedd personoliaeth y cymeriadau, eu hofnau a’u dyheadau, a’u barn am ei gilydd. Yma ceir darlun o gwlwm criw o ffrindiau sy’n datod yn sydyn ac yn amlwg wedi i’r un person oedd yn eu dal at ei gilydd farw.
Mae tywydd hafaidd a gwres tanbaid lleoliad y nofel yn llifo o’r tudalennau, gyda disgrifiadau niferus o dirwedd Ffrainc. Dyma nofel a chydymaith addas iawn ar gyfer gwyliau haf.
Gwenno Dafydd
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Bywgraffiad Awdur: Mam i ddau fab ac yn byw yn Llanddaniel Fab, Ynys Môn.
Wedi sgriptio cyfresi sebon (Pobol y Cwm, Rownd a Rownd, Rhydeglwys ayyb) a dramâu ar Radio Cymru. Cyhoeddwyd straeon byrion ganddi yn Straeon Siesta (Y Lolfa, 1996), ac Yn nes at baradwys (Gwasg Carreg Gwalch, 2005) – sef goreuon cystadleuaeth Radio Cymru. Ei nofel gyntaf oedd Esgid Wag (Gwasg y Dref Wen). Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf i blant, Ffair Sborion, y llynedd. Mae wedi ennill sawl coron a chadair mewn eisteddfodau lleol, a choron yr Eisteddfod Ryng-golegol. Gwybodaeth Bellach: Nofel afaelgar ar gyfer oedolion, am ffrindiau a chariadon, am rywioldeb, twyll a chyfrinachau.
Fe'i lleolir yn bennaf ym mherfeddion Ffrainc, a hynny yn anterth un haf poeth pan mae'r gwres yn llethol, ond y storm a'r taranau fyth yn bell iawn.
Mae criw o chwech wedi bod yn mynd i'r 'Maison du Soleil' bob blwyddyn ers dyddiau coleg, ond maen nhw bellach un yn fyr. Mae Esyllt wedi marw. Ar gais Tim, ei gŵr, mae pawb wedi cytuno i ddod yn ôl i'r Maison du Soleil unwaith eto, ond mae rhai yn fwy awyddus na'i gilydd, am wahanol resymau. Ac wedi cyrraedd, mae cysgod Esyllt yn dal yno, yn dal i chwarae un cymeriad yn erbyn y llall, yn dal â'i gafael ynddyn nhw – rŵan yn fwy nag erioed, efallai. Does dim dianc rhagddi ... |
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
|
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|