Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Ar Drywydd y Duwiau
Emlyn Gomer Roberts
ISBN: 9780860742609 (0860742601)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2010
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Pwllheli
Fformat: Clawr Meddal, 198x129 mm, 304 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £9.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Llyfr y Mis: Ebrill 2010
Nofel ffantasïol sy'n gymysgedd o ddylanwadau Tolkien, Terry Pratchett, Julian May, Star Wars ­ a hyd yn oed Star Trek! ­ ond mae hon yn uchelgeisiol, wreiddiol, ffraeth a chwbl Gymreig. Addas ar gyfer pawb dros 16 oed.

A fantasy novel with a mix of influences ­ Tolkien, Terry Pratchett, Julian May, Star Wars ­ and even Star Trek! But the novel is also original, ambitious and witty. Suitable for everyone over 16.
Dydi nofelau ffantasol, fel arfer, ddim at fy nant i. Dydw i erioed wedi darllen gwaith Tolkien na Pratchett. Ac er fy mod yn ffoli ar Stephen King, dydw i ddim wedi agor yr un gyfrol yn ei gyfres The Dark Tower. Gyda theimladau cymysg, felly, yr es i ati i ddarllen Ar Drywydd y Duwiau oherwydd yr oeddwn yn gwneud hynny o ran dyletswydd er mwyn llunio adolygiad.

Mae hin glamp o nofel o ymron dri chant o dudalennau syn mynd ni ar bererindod beryglus or Ddinas Aur dan ddaear ir Wyneb. Ar unwaith, cawn ddod i adnabod pobol a lleoliadau sydd ag enwau dieithr iawn arnynt, Lenia a Merfus, Parc Marlis a Bryn Crud ar fyddin frawychus, y Cira Seth. Ond er mor ddieithr yw enwaur cymeriadau ar lleoliadau, dawr diwedd ni i fan cyfarwydd.

Mae yma awyrgylch o hynafiaeth, o hen fyd a hen ffyrdd o fyw. Mae yna frwydro rhwng credoau. Mae yma weledigaethau a gwallgofrwydd. Mae yma rialtwch a chariad. Uwchlaw pob pennod ceir adnodau o fath ar Feibl, sef y Confact lle, fel yn hanes dynoliaeth, y Gair oedd y dechreuad ond mair gair yn yr achos hwn oedd Ea-Hara.

Maer bererindod yn daith ysbrydol yn ogystal ag yn ddaearyddol. Yn ddaearyddol, rhaid mynd or Ddinas Aur ir Geudwll ac o Borth Goleuni i gopa Mynydd Aruthredd. Yn ysbrydol, rhaid mynd i fannau tywyll.

Er ei bod yn nofel ffantasol ac wedii gosod mewn amser gwahanol in hamser ni, ceir yma gwestiwn a fur un mor berthnasol ar hyd y canrifoedd - os ywr Duwiaun bodoli, a fyddain ddoeth chwilio amdanynt? Neu ai gwell fyddai gadael iddynt orwedd?

Er gwaethaf dieithredd y genre (i mi) ar enwau gwneud anghyfarwydd, mae hin nofel hawdd iawn ei darllen. Mae hynnyn deyrnged i arddull esmwyth ond cyhyrog yr awdur. Er gwaethaf ei hyd, mae hin symud (neun dringo) yn gyflym, a phroffwydaf yn hyderus mair gyntaf mewn cyfres fydd hon. Disgwyliaf yn ddiamynedd am y nesaf.

Lyn Ebenezer

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Bywgraffiad Awdur:
Actor a sgriptiwr sydd wedi troi ei law at ddramu llwyfan, radio, Pobol y Cwm a chaneuon ar gyfer Gwerinos.


Dyma ei ail nofel a bu canmol mawr i'w nofel gyntaf, Y Ddraig Goch.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Goreuon Storïau Kate ...
Kate Roberts
£6.50
 
Prynwch
Joni a'r Meirwon
Terry Pratchett
£4.95
 
Prynwch
Cymer y Seren
Cefin Roberts
£8.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dim Croeso '69 - ...
Arwel Vittle
£9.99
 
Prynwch
Saesneg
Levels, The
Helen Pendry
£8.99
 
Prynwch
Plant
Seren Orau'r Sêr! / ...
Sophy Henn
£5.99
 
Prynwch