Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Gwenddydd - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2010Jerry Hunter Gweld rhagor o deitlau gan 'Jerry Hunter'
ISBN: 9780860742654 (0860742652)Dyddiad Cyhoeddi Awst 2010
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Pwllheli
Fformat: Clawr Meddal, 198x129 mm, 168 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £6.95 
Gwenddydd - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2010
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Ceir yn y nofel bwerus hon stori ddirdynnol am berthynas milwr o frawd a'i nyrs o chwaer, ac erchylltra'u profiadau yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd. O gefn gwlad Cymru i ysbyty milwrol yn Lloegr a maes y frwydr ar y cyfandir, gwelwn effeithiau rhyfel ar unigolyn, teulu a chymdeithas. Nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent, 2010.

A novel set in the Second World War, telling the harrowing story of a brother and sister - him being a soldier, and his sister a nurse. It follows their experiences from the Welsh countryside to a military hospital in England and to the battlefield on the continent. This novel won Jerry Hunter the Literary Medal at the 2010 National Eisteddfod.
Cyn iddo ennill y Fedal Ryddiaith eleni yr oedd Jerry Hunter wedi gwneud cryn enw iddo'i hun fel awdur nifer o lyfrau academaidd. O'r cyfrolau hynny mae'n siŵr mai Llwch Cenhedloedd, sef ei astudiaeth o gysylltiad y Cymry a Rhyfel Cartref America, yw'r mwyaf adnabyddus gan iddo hefyd gyflwyno cyfres deledu ar yr un pwnc.

Rhyfel arall, yr Ail Ryfel Byd y tro hwn, yw testun ei nofel gyntaf i oedolion. Yn benodol, trafodir effaith y gyflafan honno rhwng 1939 ac 1945 ar aelodau un teulu o Gymry Cymraeg.

Un cwestiwn sy'n codi ei ben droeon yn ystod y nofel yw i ba raddau y mae rhyfel yn dod â phobl at ei gilydd gan achosi iddynt gyd-ddyheu a chydweithio, ac ar y llaw arall i ba raddau y mae'n achosi chwalfa.

Chwalfa a gafwyd yn achos y teulu sy'n ganolog i'r stori hon. Mae'r tad yn cael ei bortreadu fel heddychwr o weinidog anghydffurfiol sy'n wrthwynebus i'r rhyfel. Digia wrth ei fab am gefnu ar yr egwyddorion hyn ac ymuno â'r fyddin. Bydd y tad yn mynd i'w fedd cyn i'r ddau gymodi a chan gredu fod ei fab wedi’i ladd yn Ffrainc.

Mae Gwen, y ferch, yn mynd i ffwrdd i nyrsio ac yng nghwmni’r cleifion dan ei gofal, mae hithau’n llawn sylweddoli beth yw enbydrwydd rhyfel. Mae'r berthynas agos rhwng y brawd a'r chwaer yn ganolog i'r hanes er eu bod yn hoff o herio'i gilydd hefyd. Mae siarad Cymraeg cywir yn bwysig iawn i Robert, y brawd, a bydd yn aml yn cywiro iaith ei chwaer. Un o effeithiau'r rhyfel, gyda llaw, yw ei bod hi wedi cymryd at regi, rhywbeth y tybiech oedd yn ddieithr i ferch y Mans. Yn wir, mae i'r berthynas rhwng y Gymraeg a'r Saesneg ran yn natblygiad y stori.

Effaith y rhyfel ar y fam yw iddi glafychu. Wedi'r cwbl, mae hi wedi colli ei gŵr a chred fod ei hunig fab wedi’i ladd.

Ond Robert yw'r cymeriad pwysicaf. Mae'n fachgen deallus gyda diddordeb dwfn mewn llenyddiaeth Gymraeg, yn arbennig llenyddiaeth y cyfnod arwrol. Trwy gyfrwng y diddordeb hwn fe'n cyflwynir i chwedl Myrddin a Gwenddydd ei chwaer. Dihangodd Myrddin ar ôl i fyddin Gwenddolau golli'r dydd ym mrwydr Arfderydd yn 573. Treuliodd weddill ei oes yn byw’n wyllt yng Nghoed Celyddon. Mae bywyd Robert yn dilyn patrwm tebyg i fywyd Myrddin, ac mae defnyddio'r chwedl fel cefndir yn cyfoethogi'r nofel gan ei bod yn rhoi naws oesol i erchylltra'r rhyfel.

Diddordeb llenyddol arall Robert yw T. H. Parry-Williams ac yn arbennig ei ysgrif ‘KC16’. Trwy gyfeirio at y moto-beic chwedlonol hwn fe'n cyflwynir i obsesiwn mawr Robert gyda cherbydau a chyflymdra. Efallai mai ei ddiddordeb yn y pethau hyn sy'n ei ddenu i'r fyddin yn y lle cyntaf. Yn sicr, mae yna fwy o drafod peiriannau nag sydd o drafod Natsïaeth.

Ond er iddo roi 'Cyfaill' yn enw ar y cerbyd y mae'n teithio ac yn ymladd ynddo ar y Cyfandir, nid yw hwnnw’n ddigon i'w arbed rhag cael ei glwyfo'n ddrwg iawn. Lleddir ei gyfeillion i gyd. Ond yr hyn sy'n cael yr effaith waethaf arno, o bosib, yw gweld môr o gyrff Almaenwyr ifanc o'i gwmpas ac yntau’n gyrru drostynt yn ei gerbyd chwim, profiad sy'n golygu fod ei gorff a'i feddwl yr un mor glwyfus â'i gilydd.

Clywsom droeon y dyddiau hyn fod ein carchardai’n llawn o gyn-filwyr sy'n dioddef o broblemau seicolegol dwys yn dilyn eu profiadau yn Irác ac Affganistan. Mae hynny’n gymorth i ni uniaethu â Robert a'i broblemau yn nhraean olaf y nofel. Mae hon yn adran rymus iawn wrth i Robert ddianc o'r ysbyty a cheisio ymgodymu â'i brofiadau. Defnyddia’i hyfforddiant yn y fyddin er mwyn dianc ac mae'r cyffelybiaethau gyda chwedl Myrddin a hanes Nebuchodonosor (ac yntau’n cuddio yn y coed ger ei gartref) yn gwbl addas.

Mae cryfder y berthynas rhyngddo a'i chwaer yn help iddo wynebu bywyd (a'i fam) unwaith eto. Er iddo gydnabod y bydd yn rhaid iddo fynd yn ôl i'r ysbyty, gwna hynny ar yr amod na fydd yn rhaid iddo deithio yno mewn cerbyd cyflym!

Nofel fer iawn o 164 o dudalennau yw hon ond mae yma ysgrifennu dirdynnol, cymeriadau cryf, dealltwriaeth dda o feddylfryd anghydffurfiol Cymreig y cyfnod, natur cyfeillgarwch, ynghyd â dawn i ddisgrifio erchylltra rhyfel, yn ogystal â meddwl trofaus milwr sy’n glaf. Dyma gyfrol oedd yn gwbl deilwng o'r Fedal Ryddiaith ac mae'n gyfraniad pwysig i lenyddiaeth ryfel yng Nghymru.

Dafydd Morgan Lewis

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
C'mon Midffild 2 (DVD004)
 
£13.26
 
Prynwch
Papermaking in Wales 1658-2000
Alun Eirug Davies
£10.00
 
Prynwch
Paid Ag Edrych Arna I
Gwynn Llywelyn
£5.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Alarch Du, Yr
Rhiannon Wyn
£5.95
 
Prynwch
Saesneg
Owain Glyn Dŵr - The ...
Peter Gordon Williams
£7.95
 
Prynwch