Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres y Cewri: 35. Tannau Tynion
Elinor Bennett Wigley
ISBN: 9780860742777 (0860742776)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2011
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Pwllheli
Fformat: Clawr Meddal, 182x123 mm, 276 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £9.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Cawn ein tywys gan yr awdur - y delynores enwog a gwraig cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley - o Faldwyn i Lanuwchllyn, Aberystwyth i Lundain, o Ferthyr i'r Bontnewydd yn Arfon, ac i lwyfannau'r byd, a hynny yn ei harddull fyrlymus ei hun. Mae ganddi stori werth ei hadrodd.

In Tannau Tynion, the latest in Gwasg Gwynedd's popular Cyfres y Cewri series, the author, renowned harpist and wife of former Plaid Cymru President Dafydd Wigley, takes the reader on a journey in her unique writing style from Montgomeryshire to Llanuwchllyn, Aberystwyth to London, Merthyr to Bontnewydd in Arfon, and to the international stage.
Y delynores ar athrawes delyn adnabyddus Elinor Bennett Wigley sy'n adrodd ei hanes yng nghyfrol ddiweddaraf Cyfres y Cewri. Mae ei gŵr, Dafydd Wigley, wedi adrodd ei hanes eisoes mewn tair cyfrol yn y gyfres, ond dyma fwrw golwg arall ar y stori, ac mae hynny ynddoi hun yn ddifyr a diddorol. Calon emosiynol yr hunangofiant yw hanes Elinor fel mam. Maen anodd dirnad na dychymygu sut y chwalwyd ei byd pan ddaeth yn amlwg fod dau oi phlant, Alun a Geraint, yn dioddef o glefyd etifeddol nad oedd gwella iddo. Roedd clywed y newydd am ei phlant, wrth ei gŵr ddechrau ar ymgyrch etholiadol fawr a fyddai yn ei anfon i Lundain, yn ergyd enbydus o anodd. Ond roedd gweld y clefyd yn eu dwyn oddi arni yn araf bach, a hwythau yn eu harddegau, yn brofiad na fyddai neb yn ei chwennych. Maer hanes yn cael ei adrodd yn dyner ar cariad ar gofal yn disgleirio rhwng y llinellau.

Ond cyfrol am gerddor yn ogystal mam yw hon, er fei temtiwyd i feysydd eraill hefyd. Y gyfraith oedd un llwybr posibl. Graddiodd yn y gyfraith yn Aberystwyth a dechreuodd ar gwrs pellach yn Guilford, ond daeth cerddoriaeth ar Academi Gerdd Frenhinol iw hudo or llys barn. Ym Merthyr daeth gwleidyddiaeth iw denu hithau, fel Dafydd Wigley; fei hetholwyd yn gynghorydd a bun daer dros yr ymdrech i sefydlu ysgol Gymraeg yn yr ardal. Ond roedd cerddoriaeth yn galw o hyd. Roedd bod yn fam i bedwar o blant hefyd yn arafu datblygiad unrhyw yrfa, ond yn rhyfedd iawn, rhoddodd colli Alun a Geraint hwb ychwanegol iddi, a throes cerddoriaeth yn therapi yn ogystal gyrfa iddi. Wedi collir ddau, trodd ei hegni at ddatblygu therapi cerdd, perfformio a chomisiynu gweithiau newydd ir delyn a sefydlu mannau lle gallai cerddorion ifanc ffynnu. A dyma, felly, eni Canolfan Gerdd William Mathias.

Mae hon yn gyfrol sydd yn adlewyrchu cymeriad bywiog a brwdfrydig yr awdur. Daw dygnwch Elinor Bennett ir amlwg, ynghyd 'i chefnogaeth gadarn i'w gŵr, ei chymeriad hwyliog, cynnes ai chred gadarn yn y cyfan y maen ei wneud. Maen gyfrol werthfawr a difyr dros ben.

Sarah Down

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Tannau Tynion

Mae hunangofiant a gyhoeddwyd ar gyfer y Nadolig hwn yn un y bydd ei gynnwys yn aros efo chi am amser hir wedi ichi gau ei glawr. Fel telynores adnabyddus ac fel gwraig i wleidydd, yn ogystal ag fel mam a nain, profodd Elinor Bennett Wigley hapusrwydd a llwyddiant eithriadol yn ei bywyd personol a phroffesiynol. Ond gwelwn yn y llyfr hefyd fod profiadau gwirioneddol ddirdynnol wedi dod iw rhan hi ai theulu a fyddain ddigon i lorior mwyafrif ohonom.

Yn ei hunangofiant Tannau Tynion cyfrol ddiweddaraf Gwasg Gwynedd yng Nghyfres y Cewri cawn ein tywys ganddi yn ei harddull fyrlymus ei hun o Faldwyn i Lanuwchllyn, o Aberystwyth i Lundain, o Ferthyr ir Bontnewydd yn Arfon, ac i lwyfannaur byd.

Mae edrych yn l dros fywyd Elinor yn tanio atgofion am ddigwyddiadau allweddol yn hanes Cymru, yn gyhoeddus ac yn breifat o eira mawr 1947 a achosodd iw thad adael y fferm ger Llanidloes, ir frwydr ofer i geisio arbed Cwm Tryweryn pan oedd y teulun byw yn y tŷ a adeiladwyd gan O. M. Edwards yn Llanuwchllyn, ac Elinor yn un or rhai oedd yn darlledun anghyfreithlon dros Blaid Cymru a hithau yn ei harddegau.

Roedd bywyd diwylliannol Llanuwchllyn yn cynnig pob math o gyfleon ond yna, gyda dyfodiad teledu yn y pumdegau, dylanwadwyd yn fawr arni gan raglenni cerddorol a gyflwynid gan y telynor Osian Ellis. Roedd on arwr mawr iddi yn ei harddegau ac roedd hithaun ceisio gwneud popeth o fewn ei gallu i fod cystal fo. Bu Osian Ellis yn ei beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl tro, ac yna daeth yn athro arni gan ei helpu gydai gyrfa yn ddiweddarach.

Efallai y bydd yn syndod deall cymaint o ddylanwad a gafodd byw yn Llundain ar fywyd merch o gefn gwlad Cymru. Yno yn 1949 y prynodd ei thad ei thelyn gyntaf iddi, ai chludo yn l i Lanuwchllyn ar y trn. Yno hefyd y bun astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol a chyfarfod Dafydd Wigley am y tro cyntaf! Yn Llundain y prynon nhw eu cartref cyntaf, lle bu Elinor yn chwarae gyda rhai o gerddorfeydd mwyar byd, a hithaun cynnal ei chyngerdd debut yn Neuadd Wigmore yn 1970.

Bu raid gadael Llundain a symud yn l i Gymru ar ddechraur saithdegau pan benodwyd Dafydd yn un o reolwyr cwmni Hoover ym Merthyr. Tyfodd cariad Elinor tuag at yr ardal ai phobl, a bun hapus iawn yno. Ond ar ddiwedd eu cyfnod ym Merthyr, cafodd y teulu wybod am afiechyd etifeddol eu dau fab, Alun a Geraint, a gymrodd fywydaur ddau yn ifanc iawn. Trasiedi oedd hon a drodd fywyd y teulu i ben i waered.

Erbyn heddiw caiff ei hadnabod fel Elinor Bennett, ond nid felly y bu erioed! Yn dilyn ei phriodas Dafydd Wigley, awgrymodd ei hasiant yn Llundain fod ei henw teuluol, Bennett Owen, yn rhy hir ir byd proffesiynol ond na ddylai chwaith gymryd enw teuluol ei gŵr! Or dydd hwnnw ymlaen, mabwysiadodd hithau ddau bersona Elinor Bennett y cerddor a Mrs Wigley'r wraig. Maer yrfa gerddorol eithriadol o lwyddiannus, ar bywyd priodasol a theuluol, wedi cyd-fywn hapus am dros ddeugain mlynedd. Dros y cyfnod hwnnw dysgodd Elinor lawer iawn o delynorion ifanc gan gynnwys Catrin Finch, ei merch-yng-nghyfraith.

Yn y llyfr hefyd cawn ei barn bendant am sawl peth yn y Gymru gyfoes o fyd y cyfryngau i wleidyddion a gwleidyddiaeth! Dywedodd Elinor, un o sylfaenwyr Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon: Mae ysgrifennur llyfr wedi bod yn broses gathartig iawn sydd wedi gwneud i mi edrych ar fywyd mewn ffordd gadarnhaol. Mae wedi fatgoffa fod bywyd yn fraint, ar waethar cyfnodau anodd. Roedd mynd yn l yn fy nychymyg i fywydau aelodau om teulu yn y gorffennol yn ddifyr iawn, a daeth ton ar l ton o atgofion yn l i mi. Ar l misoedd o ysgrifennu ac o hel atgofion, mae hin amser rŵan i edrych ymlaen ir dyfodol unwaith eto a wynebur her nesaf a chael hwyl efor plant ar wyrion!
Diweddarwyd ar 05 Rhagfyr 2011
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Suo-Ganeuon (CD) (SCD2402)
 
£10.20
 
Prynwch
Beirniadaeth Lenyddol
Hugh Bevan
£5.95
 
Prynwch
Ambell Sylw
Alun Llywelyn-Williams
£5.00
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch