Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Nid yr A470
Ian Parri
ISBN: 9780860742876 (0860742873)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2013
Cyhoeddwr: Gwasg Gwynedd, Pwllheli
Fformat: Clawr Meddal, 198x129 mm, 248 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £8.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Dyma lyfr taith go wahanol gan y newyddiadurwr a'r tafarnwr Ian Parri - un o'r nifer helaeth ohonon ni Gymry sydd wedi cael llond bol ar lusgo i fyny ac i lawr yr A470 fondigrybwyll wrth geisio teithio o'r naill ben o'n gwlad i'r llall.

This is a travel book with a difference, by the reporter and pub landlord Ian Parri, one of the many amongst us who have had enough of the tortuous journey between north and south Wales on the A470.
Wedi cael llond bol ar yr A470? Gwranda, Parri, fe fm innaun teithio wythnosol or gogledd ir de un adeg, ac roedd hynny cyn i John Osmond na neb arall freuddwydio am A470 a chyn creu llathen or ffordd ddeuol rhwng Caerdydd a Merthyr. I gyrraedd Merthyr mewn llai nag awr a hanner bryd hynny roedd angen cychwyn o Gaerdydd tua phump or gloch ar fore Sul. Dyna fi wedi dweud fy nweud ac rwy'n ddiolchgar am bethau bychain.

Syniad gwreiddiol Ian Parri oedd teithio o Landudno i Gaerdydd heb roi troed neu rwbar ar yr un darn or A470, oni bai fod raid ei chroesi, nac ar yr un darn o unrhyw ffordd A arall. Ac fe ymddengys iddo lwyddo, er iddo orfod gyrru drwy le petrol yn Llanfair Caereinion i gyflawnii gamp.

Cyfrol, felly, in hatgoffa o gerdd G. K. Chesterton am y rolling English drunkard ar rolling English road. Dyw Ian ddim yn dweud sawl diwrnod gymrodd e i gyflawni ei gamp, ond i hel yr holl brofiadau y maen eu cofnodi ar pytiau hanesyddol ymyl-y-ddalen blasus, nid taith dair awr a hanner fu hon.

Er mwyn ysgrifennu cyfrol fel Nid yr A470 mae angen ysgrifennwr da, a dyna yw Ian Parri sgwennwr crafog, bachog, ffraeth gyda thrwyn am stori ac am y digri.

Arferai Gwilym Roberts Daily Post slawer dydd gyfiawnhau hoffter newyddiadurwyr o dafarnau drwy ddweud ir arfer gychwyn mewn oes pan fyddair hacs yn crynhoi mewn tafarnau i ddisgwyl y goets fawr, am mai dymar lle gorau am stori.

Hwyrach fod rhywfaint o sail ir stori oherwydd fe aeth Ian o fod yn newyddiadurwr i gadw tafarn. Ac arfer y ddau fusnes yr un pryd am gyfnod.

Yn sicr, maen amlygu brwdfrydedd a phroffesiynoldeb drwy alw mewn nifer rhyfeddol o dafarnau ar y ffordd er nad yw, hyd y cofiaf, yn cael dim cryfach na sudd afal. Heblaw am ei ymweliad r Neuadd Arms, Llanwrtyd, lle maen feirniadol iawn o gwrw or enw Welsh Black a heb fod yn rhy werthfawrogol or hanner o seidir a yfodd wedyn i olchi ymaith y blas drwg.

Oes, mae yma ddigon o hwyl ymysg nifer fawr o bytiau hanesyddol i gyfoethogir darllenydd, fel hanes y teulu Mostyn, a bod gwleidydd arall o Fachen, heblaw Ron Davies, na chyrhaeddodd ei lawn botensial, sef Alfred Edward Morgans fun brif weinidog Gorllewin Awstralia am 32 niwrnod. Wyddwn i ddim, chwaith, mai yn Millfield y cafodd Julian Cayo Evans, arweinydd yr FWA ei addysg.

Mae yna dristwch o ddarllen bod yr awdur wedi canfod cymaint o Seisnigrwydd ar ei daith, hyd yn oed mewn mannau fel Pont-rhyd-y-groes, Pontrhydfendigaid ar Talbot, Tregaron. (Fe ddwedes i fod hon yn gyfrol syn mynd chi ar hyd a lled yr hen wlad.) Ond maer doniolwch yn lleddfur dwyster hwnnw.

Llyfr i unrhyw un syn gwerthfawrogi sgrifennu da a siawns fod ynddo ychydig o addysg i gyw newyddiadurwr syn ffansoi hun fel lluniwr erthyglau nodwedd.

Gwyn Griffiths

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Gwybodaeth Bellach:
Therapi unigryw Ian oedd teithio o Landudno i Gaerdydd heb roi olwyn ei gar ar yr atgas A470 nac ar unrhyw briffordd A ac eithrio iw chroesi ar gyffordd cyn sgwennu am y profiad yn ei arddull grafog ei hun. Yn ei gwmni hwyliog cawn gip ar lefydd diddorol (a diflas!) yr aeth trwyddyn nhw ar y ffyrdd gwledig, a chyfarfod chymeriadau lliwgar mewn tafarnau bach difyr ac ati. Ar un pryd, mi ddysgwn beth wmbredd am Gymru ai phobol!
Diweddarwyd ar 03 Ebrill 2013
Mwyar brys, mwyar rhwystr chwedl yr atgas A470!

Ydych chi wedi cael llond bol ar dreulio oriau maith ar ffordd enwocaf, hiraf a mwyaf diflas Cymru, wrth ichi deithio ar yffordd fawr fondigrybwyll syn cysylltu de a gogledd ein gwlad?

Mae Ian Parri yn sicr wedi cael digon! Cymaint yw ei gasineb tuag at yr A470 ai thebyg, maer tafarnwr ar newyddiadurwr o Lanystumdwy wedi cyhoeddi Nid yr A470 (Gwasg Gwynedd) llyfr taith newydd sbon syn mynd ni o Landudno i Fae Caerdydd heb roir un olwyn car ar yr A470 nac ar unrhyw ffordd A arall.

Profiad bywyd i lawer fyddai teithior 2,451 o filltiroedd o Chicago i Los Angeles ar hyd ffordd hanesyddol y Route 66 yn yr Unol Daleithiau, neu fentro ar bedair olwyn o un pen o Rwsia ir llall ar y Trans-Siberian Highway. Mae eraill yn breuddwydio am gael rhoi eu troed i lawr a gwibion braf ar draffordd enwog yr Autobahn yn yr Almaen, lle nad oes dim math o gyfyngu ar gyflymdra. Ond anodd yw dychmygu unrhyw un fyddain edrych ymlaen at fod y tu l ir llyw yr holl ffordd o Landudno i Gaerdydd ar hyd ein Route 66 ni yr A470. Dyna sail llyfr newydd Ian Parri.

Dywed yr awdur: Des i gasur A470 mewn cyfnod byr o weithio i'r BBC yng Nghaerdydd (tra roedd fy nghartref yn y gogledd), pryd yr arferwn holi fy hun pam O, pam roedd hi'n cymryd cyhyd i deithio cyn lleied o bellter. Yn wir, cwta 186 milltir ydi hi o un pen o Gymru ir llall, ond o lorau Mansel Davies i garafanwyr gorofalus, ac o fysys ysgol i dractorau drewllyd, mae na wastad rhyw falwen och blaen ar yr A470 i wneud yn siŵr bod taith gymharol fer yn cymryd oriau maith, gan godich pwysau gwaed ir entrychion yn y broses.

Ychwanega Ian, sydd wedi bod yn rhedeg Tafarn y Plu yn Llanystumdwy gydai wraig, Cath, ers wyth mlynedd bellach: Fel pawb, bron, fu'n gorfod teithio ar hyd yr A470, bu'n daith mor ddiflas fel y bu hi'n arferiad gen i yn gm, bron i chwilio am ffyrdd o osgoi o leiaf rannau ohoni. Felly daeth y daith o Lanbrynmair heibio Penffordd-las a Llyn Clywedog yn gyfarwydd, ac o bryd i'w gilydd buaswn yn mentro dros Fynydd Epynt hefyd.

Yn ystod yr oriau meithion o edrych ar deiars l tractors neu dinau carafannau ar yr A470, bm yn breuddwydio am fodd o gyflawni'r daith yn gyfan gwbl ar lonydd culion gwledig, a dyna oedd yr ysbrydoliaeth ir gyfrol.

Yn nghwmni hwyliog Ian cawn gip ar lefydd diddorol (a diflas!) yr aeth trwyddyn nhw ar y ffyrdd gwledig hyn, a chyfarfod cymeriadau lliwgar mewn tafarnau bach difyr ar hyd y daith.

Dywed Ian: Fy hoff ran o'r daith ydi o Dregaron i Lanwrtyd, heibio i Soar-y-mynydd a thros Gomin Abergwesyn. Mae rhyw hud arbennig yn perthyn i unigeddau anial fel hyn lle mai'ch unig gwmni ydi byd natur, ond maen nhw'nprysur brinhau wrth i ddyn a'i dechnoleg fynnu cael ei fysedd i bob twll a chornel.

I'r rheiny sy'n bwriadu gwneud y daith o'u cadair freichiau, bydd cartwnau doniol Andy Robert Davies yn fodd i werthfawrogi mwy ar yr hyn sydd iw weld ar y ffordd. Maer lluniau difyr (y mwyafrif wediu tynnu gan Ian ei hun) hefyd yn ychwanegu'n sylweddol at y synnwyr o hwyl sydd ynghlwm 'r holl antur.

Dwi'n gobeithio y caiff bobl ysbrydoliaeth i fentro ar o leiaf rannau o'r daith, gan weld llefydd newydd ac agor eu llygaid i hyd yn oed ragor o ogoniannau ein gwlad, meddai Ian. Mae'n rhannol yn llyfr teithio, yn rhannol yn llyfr hanes, yn rhannol yn ddychanol ac yn rhannol yn gofnod o'n cyfnod ond byth bythoedd yn drwm ei arddull. Dwi'n gobeithio y bydd yn apelio at bawb sy'n gallu edrych ar fywyd trwy sbectol binc, 'u tafodau yn eu boch, ac yn mwynhau'r hyn sy'n ein gwneud nin wahanol fel cenedl.

Fe fwynheais ir daith yn enfawr, gan nad oedd pwysau arnaf i gyrraedd unrhyw le arbennig erbyn rhyw amser penodol. Dwi'n credu i mi ddod i adnabod Cymru a'i phobl yn well, a dwi'n gobeithio y caiff y darllenwyr yr un wefr ac a ges i.
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfansoddiadau a ...
 
£9.00
 
Prynwch
Cyfansoddiadau a ...
 
£9.00
Favourite Watering Holes ...
Ian Parri
£7.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch