|
Tristwch, galar, dicter, tosturi a chariad - dyma rai o’r emosiynau yr ydym ni fel darllenwyr yn eu teimlo wrth ddarllen y nofel hon gan Angharad Tomos. Ynddi sonia’r awdures am daith mewn car, sy’n cynrychioli taith amseryddol trwy fywyd. Er nad ydym yn ymwybodol o bwy ydynt nac i le y maent yn mynd ar ddechrau’r nofel, cawn ein cyflwyno'n raddol i’r ddwy brif gymeriad. Y cyntaf yw Eleni, merch ifanc sydd wedi penderfynu mynd â’i hen fodryb, Bigw, yn y car i weld bedd ei chwaer.
Trafodir y brif thema, sef henaint a marwolaeth, yn gelfydd dros ben, ac er i’r thema hon gael ei thrafod drosodd a throsodd yn ein llenyddiaeth, llwydda Angharad Tomos i roi gwedd ffres, unigryw i ni ar fywyd yr hen wraig ‘naw-deg-rwbath’ hon. Ar adegau, mae’r ysgrifennu mor amrwd a chignoeth fel ein bod yn ebychu mewn syndod, a’r munud nesaf cawn ein gorfodi i golli dagrau wrth gydymdeimlo gyda’r cymeriadau. Mae’r rhan lle sonnir am Bigw yn y Cartref wedi iddi golli Jymbo’r ci, ei hunig ffrind yno, yn hynod deimladwy, a medrwn gydymdeimlo i’r byw â’r hen wraig, ei hunigrwydd, a’i chasineb tuag at staff ansensitif y Cartref Henoed.
Llwydda Angharad Tomos i gyfoethogi’r stori trwy newid persbectif o’r person cyntaf i’r trydydd person, a newid amser o’r presennol, i’r gorffennol pell, ac i’r gorffennol agosach. Deallwn mai adrodd hanes y daith olaf hon yn y car ar ôl i Bigw farw y gwna Eleni. Fel hyn cawn fewnwelediad i fywyd ac i bersonoliaeth y ddwy. Down i wybod tipyn a m deimladau’r hen wraig yn ei henaint, ond cawn glywed amdani yn ei hieuenctid hefyd, yn caru gydag Ellis, yn mwynhau bywyd i’r eithaf, yn colli ei mam, ac yn ymdopi ag effeithiau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r gwrthgyferbyniad rhwng cyfnod ei hieuenctid a’i henaint yn effeithiol dros ben, ac erbyn diwedd y nofel, ac wedi ei marwolaeth, daw Eleni hithau'n ymwybodol nad oedd hi’n adnabod Bigw mewn gwirionedd. Daw ar draws nodyn yng nghanol yr holl drugareddau oedd yn ystafell ei hen fodryb wedi iddi farw, a hwnnw'n dweud ‘To Lisi don’t get drunk on your twenty-first’. Ymateb Eleni i hyn oedd meddwl wrthi ei hun, ‘Bigw! Hen hulpan ydw i. A ddaru mi feddwl erioed fy mod yn dy ‘nabod?’
Mae Si Hei Lwli yn denu sylw’r darllenydd o’r cychwyn cyntaf, ac yn delio â thema gyfarwydd mewn ffordd wahanol a newydd. Wrth fynd ar daith gyda’r cymeriadau yn y car, mae’r darllenydd hefyd yn mynd ar daith emosiynol. Er bod yr iaith yn dafodieithol, amlygir crefft a gallu’r awdures i ysgrifennu’n goeth gan gyfleu teimladau a meddyliau’r cymeriadau. Gadawyd fi a’m calon yn fy ngwddf – nofel gyfoes, ddiddorol, gwerth ei darllen fwy nag unwaith.
Hawys Tomos
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Gwybodaeth Bellach: Si Hei Lwli Nofel gelfydd am henaint yw Si Hei Lwli. Cawn gwrdd ynddi â Bigw sydd yn naw deg rhywbeth oed ac yn byw yn brudd mewn cartref hen bobl. Nid yw ei theulu yn poeni amdani, a dim ond i Nadolig y mae hi yn cael dod atynt i ginio, a chael amser diflas pryd hynny. Ond mae Eleni eisiau mynd â'i hen fodryb am dro yn y car. Parchu Bigw mae Eleni, a'r hen fyd y mae hi yn ei gynrhychioli. A pham na ddylai'r hen wraig gael gosod blodau ar fedd ei chwaer? Ffwrdd â nhw ar fyrder felly ar hyd lonydd a ffyrdd Arfon. Taith awr yw hi i'r fynwent, ond siwrnai epig ydyw ar sawl golwg. Mae Bigw eisiau trafaelu ar hyd yr hen lwybrau, ond anodd iawn dod o hyd iddynt. Mae traffyrdd a cylchfannau'r oes wedi gweddnewid y wlad, a'r hyn fu yn arwyddocaol gynt - swyddfa bost, hen ffermdy, lôn gefn - ar gadw yn y cof yn unig. Sut mae cyrraedd man sydd wedi darfod? Sut gall dychwelyd yno fod yn ystyrlon pan mae rhaid defnyddio ffordd ddieithr i gyrraedd pen y daith? Mewn dull tra syml ond hynod o effeithiol, mae Angharad yn trafod dieithrwch Bigw yn y byd sydd ohoni. Nid oes neb o'r sawl a'i carodd ar ôl, a mae'r byd y bu yn perthyn iddo wedi ei ddifetha gan ddatblygiadau'r oes. Hwyrach nad datganiad gwleidyddol mo Si Hei Lwli yn bennaf, ond mae'r nofel yn trafod annibyniaeth a chaethiwed, a'r hyn sydd yn peri i rai fod heb rym dros eu ffawd eu hunain. Cyfnewidfa Lên Cymru/Wales Literature Exchange |