|
Alla i ddim dweud mod in difaru tynnu rhan helaeth o fy nillad, ymdrybaeddu mewn mwd, plastro gwên ddireidus ar fy wyneb a chofleidio dwy esgid rygbi maint chwech i guddior ddwy 34B. Wedir cyfan, mi fur delweddau yma'n fflachio arna in hy o bob safle bws o Gaerdydd i Gaergybi ac o ochr dybl-decars bondigrybwyll, a minnaun teimlo mod i wedi rhoi ryw hwb a denur sylw angenrheidiol at gyfres newydd sbon danlli oedd ar fin dechrau ar S4C! Dar hogan! Ac wedir cyfan, byrhoedlog ydi lluniau or fath. Mi fydd na rywbeth newydd iw werthu wythnos nesa!
Bydd mwn! . . . Llyfr! A nofel Ms Gwanas yn mynnu mwy o werthiant, maen anhepgor bod y ferch fron-noeth yn cael ei llusgo o berfeddion droriau llychlyd y Lolfa ai stampion stond ar glawr un or llyfrau mwyaf poblogaidd yn Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf.
Pam felly? Beth syn gwneud llyfr Bethan Evans am griw o ferched yn sefydlu tîm rygbi mor anhygoel o apelgar? (Ddim fy nwy 34B i, yn saff i chi . . . wedir cyfan, pe na byddair nofel mor boblogaidd, faswn i ddim yn y ffasiwn sefyllfa yn y lle cyntaf!)
Wel, i ddechrau, maen amlwg fod Bethan Gwanas yn adnabod ei phwnc yn drylwyr. Y mae yma ysgrifennu rhwydd a hwyliog am griw o ferched sydd wedi laru ar eu bywyd bob dydd ac syn penderfynu sefydlu tîm rygbi, ac maer cyfan yn cael ei adrodd drwy enaur prif gymeriad Llinos, y fam ifanc rwystredig. Y mae profiad yr awdur o chwarae i dîm Swansea Uplands wedi dod âr manylion angenrheidiol ir nofel: y brifo ar ôl gêmau, y deep heat, y gêmau meddwol, y caneuon coch, ar profiad bregus o gamu ir gawod yn noeth am y tro cyntaf. Ond nid beth syn digwydd ar y cae syn hoelior sylw. Meddyliwch am y peth llond llaw o ferched gwyllt, un hyfforddwr rhywiol, golygus, gwŷr cenfigennus, ac un bêl hirgron
Taflwch nhw i gyd ir pair a dyna beth ydy lobsgows go-iawn!
Roeddwn i wedi pori drwyr nofel cyn clywed am fodolaeth y gyfres deledu, ac wedi cael boddhad o ddod i adnabod cymeriadau real, amrwd. Faint o weithiau mae rhywun yn clywed y frawddeg 'ond does na ddim byd raunchy yn y Gymraeg'? Wel bois bach, dyma beth ydach chi wedi bod yn disgwyl amdano. Os nad ydy pennod 13 yn cosi ambell nerf ddiog, yna mi rydach chin haeddu cic fwy hegar nag un Jonathan Davies i fynych penolau.
A thipyn o gic ydy ailddarllen y nofel. Rhaid oedd darllen y ddwy dudalen gyntaf ddwywaith gan ei fod yn brofiad mor rhyfedd darllen naratif cymeriad yr ydw i wedii chwarae hi am dair cyfres bellach. Roedd yn rhaid cymryd cam yn ôl, a gwerthfawrogir nofel ei hun, yn lle hel meddyliau a chofio pa mor oer a gwlyb a chleisiog oeddwn i ar ddiwrnod ffilmio ambell olygfa.
Bun angenrheidiol newid ambell beth ar gyfer y teledu (pennod 13 yn ei chyfanrwydd am naw or gloch nos Sul S4C dim ffasiwn beryg!), ond hawdd oedd ymlacio i mewn i eiriau gwreiddiol dewines chwant a nwyd Cymru a gwerthfawrogi or newydd cymeriadau yr ydw i wedi dod iw hadnabod yn reit dda dros y blynyddoedd diwethaf.
Does ryfedd fod S4C wedi neidio ar y cyfle i ddod âr cymeriadau yman fyw ar y sgrin fach. Dyma eu geni nhw. Gwanas ydy eu mam nhw, a dim ond cael eu magu dros-dro yr ydan nir actorion.
Ffion Gwallt Davies
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|