|
Cyfrol arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr 1998, stori ddychmygus odiaeth wedi ei gosod ym myd dyfeisgar cyfrifiaduron a sglodion meicro yr unfed ganrif ar hugain, yn cynnwys elfennau cryf o hiwmor a dychan.
The prize volume in the Literature Medal competition at Bro Ogwr National Eisteddfod 1998, a highly imaginative story set in the inventive 21st century world of computers and micro-chips, comprising strong elements of humour and satire.
|
|
Dyma nofel syn ail-greu stori creu Blodeuwedd, ond hynny mewn cyd-destun ffantasïol a thra thechnegol y dyfodol gan y llunnir y ferch newydd o tjips cyfrifiadurol (ac wele felly ystyr teitl y nofel 'Blodyn Tatws ar chwarae gogleisiol ar gyd-destun ystyr geiriau). Dyma sodror nofel yn amlwg yn niwylliant Cymru, ar blas Cymraeg a Chymreig yn echel ir stori er gwaethar ffaith fod taid y prif gymeriad yn hanu o Hong Kong a bod y storin llawn o cyber pets, magno-electroneg, zegawatts ar cyfryw bethau . . .
Ceir yma, yn ôl arlwy arferol Eirug Wyn, stori garlamus, dychymyg rhemp, cymeriadau cofiadwy (megis Parri), caru gwyllt, hiwmor slei (a amlygir yn enwaur tair cenhedlaeth Wing-Ha, Weng-Hi, Wang-Ho) ar cyfan wedii socian mewn Cymreictod cadarn, o lenyddiaeth uchel-ael i dafodiaith y dafarn. Mae yma hefyd y stereoteipio ar gymeriadaur merched y rhai rhinweddol sydd am hybu buddiannaur prif gymeriad (Nain Cedora er bod ei henw hithau hyd yn oed yn bychanu ei chyfraniad) ar merched dichellgar hynny sydd am ei ddefnyddio (Gwenllïan, NESTA a Blodyn Tatws hithau). Fel y dywed un ohonyn nhw: Oedd hin hen bitsh yn defnyddioi rhywioldeb iw ddenu?
Efallai nad yw arddull ysgafn a phryfoclyd y bennod gyntaf yn ein paratoi at ddwyster problemau egwyddorol gweddill y nofel, ond maer bennod hon yn sicr yn dal y darllenydd. Yn wir, cydnabyddir bellach fod yr awdur yn feistr corn ar greu stori syn rhwydor darllenydd iw hud; ef yw Pied Piper y nofel Gymraeg gyfoes, yn ei fantell liwgar o Gymraeg bywiog a rhywiog. Soniwyd yn y nofel am ysfa Wang-Ho i greu, am ei greadigrwydd heintus, ac maer un peth yn wir am yr awdur hwn hefyd. Ond er gwychder y dychymyg syn ein dallu âi danbeidrwydd ar yr olwg gyntaf, mae brychau lu yn y plot ar stori, gydag ambell i lwybr yn arwain i unlle, a sawl carreg yn aros heb ei throi.
Braf fyddai cael nofel drymach, yn gogordroin hamddenol uwch seicoleg y cymeriadau (megis braf fyddai darllen adroddiad John Preis cyn ei docio), egwyddor y pwnc llosg o glônio a rôl ddylanwadol os nad caeth cyfrifiaduron yn ein bywydau. Ond yn y byd sydd ohoni, byw ar y lôn gyflym ydyn ni, a chymaint y mae arnon ni angen nofelau Cymraeg syn ein harafu ac yn ein hannog i bendroni, cymaint ywr angen am nofelau iw llowcio ar y ffordd, heb roi fawr o feddwl iw cynnwys. Ac fel nofel syn ein diddanun llwyr am orig fechan, mae Blodyn Tatws ymysg y goreuon.
Gwenllïan Dafydd
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|