|
Cyfrol arobryn cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002, sef nofel am fachgen ifanc o'r 1960au yn olrhain dryswch ei fywyd trwy gyfrwng cyfres o ffeiliau cyfrifiadurol yn cofnodi digwyddiadau a arweiniodd at ei gwymp, yn arbennig ei berthynas â merched. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Awst 2002.
The prizewinning volume of the 2002 National Eisteddfod Daniel Owen Memorial prize, being a novel about a young man from the 1960s who traces his muddled life by means of a series of computer files recording the happenings that led to his downfall, especially his relationship with females. First published in August 2002.
|
|
Pe bai modd iddo botelui egni dychmygus, gallai Eirug Wyn wneud ei ffortiwn: pedair ar ddeg o gyfrolau mewn deng mlynedd, a hon ywr ddiweddaraf ohonynt. Dyma nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen 2002, a chystal cyflwyniad iw waith âr un. Croeso (neu groeson ôl) iw gynefin tywyll, trofaus a thoreithiog.
Fe fydd tirwedd y gwaith yn gyfarwydd i ddarllenwyr Eirug Wyn erbyn hyn: ansadrwydd meddwl, rhyw anifeilaidd, angau, alcohol, hunanymholi a hunanatgasedd. Stori fyglyd yw hon, drwy lygaid y prif gymeriad, am Abednego (Abi) Thomas ai obsesiynau, ei ffeiliau cyfrifiadur ai ymgais iw ddeall ei hun. Maen agor gydag angladd babi dol ac yn cloi gyda lladd gwrthrych ei nwyd. Rhwng y ddau begwn, dilynwn y cymeriad annigonol, goddefol hwn drwy anturiaethau rhywiol diserch, chwilio ofer am gariad a chyfeillgarwch, a dirywiad ei synnwyr moesol. Dim ond adolygydd digydwybod hollol a fentrai ddweud rhagor na bod tro yn y gynffon hefyd. Ac yn gyfeiliant ir cyfan, ac yn ddehongliad arno, dyma gynnwys trac sain canu poblogaidd Cymraeg a Saesneg y blynyddoedd ffurfiannol-ddinistriol yn hanes Abi. Maen byw ei fywyd yn ddirprwyol drwy emosiynau synthetig Elvis a Joe Brown a Caryl Parry Jones, nes bod diwylliant diflanedig yn hydreiddior personol gan ei ddibersonoli a gwneud Abin byped.
Bydd unrhyw grynodeb yn gwneud cam âr stori, drwy ei hamddifadu oi thyndra. Digon yw dweud mai camp Eirug Wyn yw ein gwneud yn gyfrannog er ein gwaethaf drwy adrodd yr hanes o fanylyn i fanylyn ymddangosiadol dibwys. Pa hanesion syn arwyddocaol? Pa hanesion syn wir? A ellir ymddiried yng ngallu Abi i wahaniaethu rhwng ffaith a ffantasi? A oes gwahaniaeth gwerth y sôn? Diau y bydd cynifer o ddarlleniadau ag o ddarllenwyr.
Mae dull cyffesol y dweud yn codi cwestiynau hefyd ynglŷn â gwerth cathartig troi profiad yn destun. A ywr ffeiliau cyfrifiadur lle cofnoda Abi droeon ei fywyd yn feddyginiaeth ynteun felltith? A beth a ddywed hynny am gymhellion yr awdur ac am y darllenydd syn troir dail?
Nid collfarn yw dweud nad nofel iw mwynhau mo hon. Ni ellir gwneud obsesiwn yn adloniant. Ond os mai amcan yr awdur oedd anesmwythor darllenydd drwy ei ddenu i fyw yng nghroen Abi am awr neu ddwy a theimlor cnawd yn gwingo; os mai ei fwriad oedd gwneud iddo edrych ar Abi rhwng ei fysedd, ai ffieiddio, a methu troi oddi wrtho, fe lwyddodd.
T. Robin Chapman
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|