EICH BASGED
EWCH I...
CYSYLLTIADAU
|
| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Os Dianc Rhai |
| Awdur: Martin Davis Gweld rhagor o deitlau gan 'Martin Davis'
|
| ISBN: 9780862436636 (086243663X) |
Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2003
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont |
| Fformat: Clawr Meddal, 122x184 mm, 384 tudalen |
| Ar gael |
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
|
| | | ♥ Nofel y Mis: Hydref 2003
|
|
|
|
| |
|
|
|
Ein Pris:
£9.95
|
|
Nofel hanesyddol afaelgar am ormes, trais a chariad wedi'i lleoli ym Mhen Llyn, Rhydychen a chyfandir Ewrop gyda'r Ail Ryfel Byd yn gefndir iddi.
A historical novel set in Pen Llyn, Oxford and mainland Europe during the Second World War.
|
|
Mae thema'r berthynas rhwng teulu'r Plas a'r werin datws yn elfen gyffredin mewn nofelau Cymraeg ers dyddiau Daniel Owen. Mae'r tensiwn yma rhwng y byddigions a'r bobl gyffredin i'w weld mewn nofelau mor wahanol ag Un Nos Ola' Leuad, Cysgod y Cryman, a Trefaelog Gareth Miles yn fwy diweddar. Yn sicr roedd elfennau o nofel boblogaidd Islwyn Ffowc Elis yn dod i'r cof wrth ddarllen nofel newydd Martin Davis, sy'n dilyn hynt a helynt Hugh, un o feibion Plasty ym Mhen Llŷn, yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd. Mae yma garwriaeth rhwng y prif gymeriad, sy'n cynrychiolir hen draddodiad diwylliannol, uchelwrol Cymreig, a ffoadur o'r Almaen, yr Iddewes, Ilse. Daw'r cynllun i leoli maes bomio'r Awyrlu ym Mhenyberth i darfu ar y berthynas, a chawn flas ar y dadlau a'r drwgdeimlad a gafwyd yn yr ardal wrth i rai wrthwynebu ac eraill weld gwerth a phwysigrwydd y datblygiad.
Yng nghymeriad Ilse gwelwn holl wewyr ac ansicrwydd un sy'n gorfod ffoi rhag erledigaeth hiliol a gwleidyddol, ond y gwir yw nad yw Hugh yn teimlo ei fod yn perthyn ychwaith, "Serch hynny, gwyddai'n iawn na fyddai byth yn cael ei dderbyn gan bobol gwlad Llŷn, ac mai mab y plas y byddai bob amser yn eu golwg ac o'r herwydd roedd yn cynrychioli'r holl ormes, annhegwch, bradwriaeth a dieithrwch a gysylltid â hynny. Olew a dŵr oedd hi bellach."
Mae'r ddau brif gymeriad felly'n ddieithriaid o ryw fath, yn chwilio am wreiddiau a chysylltiad, a'u hymdrechion gwahanol i ganfod gwreiddiau a pherthynas sy'n eu harwain i Ryfel Cartref Sbaen ac i'r Ail Ryfel Byd. Drwy lygaid y cymeriadau hyn sy'n perthyn i gyfnod arall, dros 50 mlynedd yn ôl, mae'r awdur hefyd yn codi cwestiynau pwysig ynghylch nifer o faterion sy'n llenwi penawdau'n dyddiau ni. Pryd mae'n gyfiawn mynd i ryfel a pharatoi ar gyfer rhyfel? Ar bwy mae'r cyfrifoldeb o roi gofal a lloches i ffoaduriaid? Beth yw hiliaeth, a sut mae sicrhau nad yw'n codi ei ben budur unwaith yn rhagor? A pha mor hawdd neu anodd yw pontio'r bwlch rhwng pobol o wahanol ddosbarth neu genedl? Mae'n llwyddo i godi'r cwestiynau hyn drwy gyfrwng cymeriadau crwn, credadwy ac mae yma ddigon o gyffro a gwrthdaro hefyd, fel sy ym mhob stori dda.
Mae Martin Davies wedi llwyddo i fynd dan groen cymeriadau sy'n perthyn i gyfnod arall, ond gan wneud hynny mewn ffordd ddidwyll a difyr sy'n bwrw goleuni newydd ar rai o gwestiynau mawr yr 20fed ganrif, a'r 21ain ganrif hefyd.
Iwan Llwyd
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
Gwybodaeth Bellach: Os Dianc Rhai Mae Os Dianc Rhai yn dilyn hynt a helynt teulu bonheddig yng ngogledd Cymru yn y 30au. Hugh Elgon-Hughes, etifedd Plas y Morfa, yw arwr y stori. Myfyriwr yn Rhydychen yw Hugh, ac fe'i magwyd i barchu pethau'r Sais, ond y mae yn dyheu am gael dysgu'r Gymraeg ac ailarddel ei etifeddiaeth. Oddi cartref mae cysgod ffasgaeth yn ymledu, a buan y daw Ilse Meyer, Iddewes sydd yn ffoi, yn ganolbwynt i fywyd Hugh. Mae'r pâr yn ymweld â Phlas y Morfa yn Mhen Llyn, ond oherwydd cyflwr gwael y stad a'r ffaith fod y teulu ar chwâl, mae'n anodd iddynt fwynhau y rhamant a'r hamdden y buont yn disgwyl eu cael. Mae Hugh yn aflonyddu ac yn colli'i ffordd wrth ymdrochi mewn cenedlaetholdeb a sosialaeth, ond nid oes amser gan Ilse i dosturi wrth y gwr ifanc. Mae hi yn ddiaelwyd ni all ddychwelyd at ei theulu. Ar ôl i frawd Hugh, Peter, aelod o Blaid Ffasgaeth Prydain, ymserchu ynddi, mae hi yn ceisio lloches ymhlith ei chyd Iddewon ac yn ymadael â Phlas y Morfa heb ddweud gair wrth neb. Mae Hugh Elgon-Hughes yn cwrdd â sawl cymeriad lliwgar yn yr hanes rymus hon y mae Martin Davis wedi'i chreu am ddegawd tywyll y 30au. Dyma Alun Litherland, comiwnydd o dde Cymru, James Ledbury yr athro diymgeledd, a Karl Hagelstange, Almaenwr sydd yn dychwelyd i'w wlad i ymuno ag ieuenctid Hitler. Mae achos enwog yr Ysgol Fomio yn 1933 yn cael ei wau mewn i'r llyfr gan adleisio trwyddo a gorfodi'r darlennydd i ailystyried cwestiynau dyrys: a oedd gweithred y tri a losgodd yr ysgol yn un anghyfrifol ac esgeulus ynte a oedd hi yn weithred nobl er heddwch ac er gwell dyfodol i'r genedl ac i ddynol ryw? Dyma'r fath gwestiwn sydd yn peri dryswch mawr i Hugh. Mae ei amheuon yn ei drechu ac er mwyn dianc mae'n ymaelodi â'r RAF a marw wrth ymosod ar Hamburg rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Ymhlith y sawl sydd yn galaru ar ei ôl mae Ceinwen, morwyn yn y Plas a ddysgodd ei iaith ei hun iddo. Yn ei chroth mae etifedd Plas y Morfa. Daw teitl ail nofel Martin Davis, Os Dianc Rhai o ysrif gan Saunders Lewis (Ysgrifau Gwleidyddol Saunders Lewis, Gomer, 1985, p. 105). Cyfnewidfa Lên Cymru/Wales Literature Exchange
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
|
|