| Gwybodaeth Lyfryddol |
| Cyfres Pen Dafad: Ceri GrafuBethan Gwanas
Gweld rhagor o deitlau gan 'Bethan Gwanas' |
ISBN: 9780862436926 (0862436923)Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2011
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bontGolygwyd gan Alun Jones, Nia Royles
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3/4
Fformat: Clawr Meddal, 182x123 mm, 56 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£2.95
| |
| Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
|
Nofel gyfoes am ferch yn ei harddegau sy'n teimlo bod pawb a phopeth yn ei herbyn, a hynny'n bennaf am na chaiff chwarae i dîm pêl-droed yr ysgol am mai merch ydyw, ond a gaiff ei hannog i ddyfalbarhau gan gymdoges, gyda chanlyniadau ardderchog; i ddarllenwyr 11-13 oed. (ACCAC) Adargraffiad. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2003.
A contemporary novel about a young teenage girl who feels that everything and everyone is against her, most particularly as she is not allowed to play for the school football team as she is a girl, but who is urged by a neighbour to persevere, with excellent results; for readers aged 11-13 years. (ACCAC) Reprint; first published in 2003.
|
|
Mae Ceri Gruffydd yn ferch syn gallu chwarae pêl-droed yn well nag un or bechgyn ym mlwyddyn 7. Ond, wrth gwrs, gan mai merch yw hi, maen cael ei rhwystro rhag ymuno â thîm y bechgyn ac yn cael ei hystyried yn domboi gan weddill y merched. Hefyd, mae ganddi duedd i gicior bêl drwy ffenestri pobl eraill. Ond hynny syn ei hachub rhag diflastod wrth iddi ddod i adnabod Mrs Higginbottom, cymdoges iddi, wedi iddi gicio pêl drwy ei ffenest hithau.
Mae Cerin gweld yn fuan iawn nad ywr hen wraig sydd wedi dysgu Cymraeg yn boen yn yr Higginbottom fel roedd hi wedi'i amau, ac yn raddol maen dysgu ganddi fod rhaid iddi ei pharchu ei hun, codi'i phen yn uchel, ymladd am ei hawliau a defnyddioi mamiaith.
Er bod Cerin cael ei digalonni ar brydiau gan amgylchiadau anodd ei chartref a gwrthwynebiad ambell athro, maen llwyddo i oresgyn yr anawsterau hyn fel gwir arwres sydd nid yn unig yn gallu chwarae pêl-droed, ond sy'n trwsio ffenestri ac yn peintio ystafelloedd hefyd.
Dyma lyfr bywiog syn dwyllodrus o rwydd ei ddarllen ond a fydd yn apelio ar sawl lefel, yn arbennig at ferched yn nosbarthiadau isaf yr ysgol gyfun.
Elin Meek
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|