Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Pen Dafad: Sgwbidŵ Aur
Caryl Lewis
ISBN: 9780862437879 (0862437873)Dyddiad Cyhoeddi Rhagfyr 2014
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3/4 Fformat: Clawr Meddal, 184x122 mm, 96 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £2.95 
Sgr y Cwsmeriaid ar gyfartaledd:
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
 
Darllen Adolygiadau...
Nofel fer fywiog am helyntion tad a mab sydd wrth ei fodd yn ralïo, gan awdures Iawn Boi!, a enillodd wobr Tir na n-Og. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2005.

A short lively novel about a father and a son who is a rallying enthusiast, by the prize-winning author of Iawn Boi!. Reprint; first published in 2005.
Tipyn o gyfrifoldeb yw cael eich enwi ar l arwr eich tad dybia i; yn yr achos hwn, Colin McRae. A fydd Colin Thomas yn deilwng or fath fraint? Llwydda Caryl Lewis i fynd ni i fyd cymysglyd yr arddegau, byd o deimladau, o orfod delio gyda phroblemau difrifol, a cheisio bod yn ifanc a mwynhau bywyd ar yr un pryd!

Druan Colin, mae ganddo waith cwrs iw gwblhau, maen ffanso Claire, ond ydy hin teimlor un fath tuag ato ef, ac mae ei ffrind gorau, Lee, angen ei gefnogaeth. A pham fod Al yn galw mor aml i weld Mam? Mae bywyd yn gymhleth!

Cawn ein tywys o un sefyllfa ir nesaf yn hollol ddiymdrech drwy gyfrwng iaith dafodieithol syn llifon hollol naturiol. Dawn Caryl Lewis ydy osgoir ystrydebu arferol an gorfodi i uniaethun llwyr phrofiadau Colin drwy sicrhau bod pob sefyllfan hollol gredadwy.

Car rasio o lyfr go iawn. Rydym yn newid gr yn esmwyth wrth droi pob cornel, yn cael ambell deiar fflat ar y ffordd; ac ynan cyflymun gyffrous i uchafbwynt teilwng. Bydd y bois, ar merched cofiwch, wrth eu bodd hon.

Elgan Davies Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Rhoddodd Dosbarth Blwyddyn 8 Cymraeg Iaith Gyntaf Mr Lewis o Ysgol Dyffryn Aman i'r teitl yma ac ysgrifennodd:
"Hwyl i ddarllen Vicky ac Emily, yn fendigedig Robert, yn apelio at bobl fy oedran i David a Niamh, eisiau darllen ymlaen Aled, llyfr ardderchog Gavin, y cymeriadau'n cŵl Rebecca, yn ddoniol Daniel Th. a Daniel E., rydw i yn hoffi ralo Steffan, stori ddiddorol Micayla ac Abigail, realistig iawn Jessica, yn llawn antur Elinor, llyfr cyffrous Kayleigh, Cymraeg bob dydd Lowri, stori am geir yn apelio ata i Jordan, hoffir ddeialog Ashleigh, yn ddiddorol iawn a diweddglo da Leah, llyfr i fechgyn Zenia."
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Cyfres Pen Dafad: Mewn ...
Gwyneth Glyn
£9.70
 
Prynwch
Cywiriadur Cymraeg
Morgan D. Jones
£3.95
Llawlyfr Deddf Eiddo - ...
 
£5.00
Llyfr y Mis
Cymraeg
Mam - Cerddi gan Famau, ...
 
£9.95
 
Prynwch
Saesneg
Talk Welsh
Heini Gruffudd
£6.95
 
Prynwch
Plant
Mis yr Ŷd
Manon Steffan Ros
£5.99
 
Prynwch