Fel un sy’n gyfrifol am farchnata a delwedd gyhoeddus Mudiad Ysgolion Meithrin yn fy ngwaith bob dydd, pan glywes i am y nofel ysgafn, Iesu Tirion, oedd yn sôn am hynt a helynt arweinyddes cylch meithrin, roedd gen i amheuon mawr ar yr effaith a gâi hyn ar ddelwedd y Mudiad. Ond ar ôl darllen y paragraff cyntaf yn unig, roeddwn yn chwerthin yn fy nyblau ac wedi fy argyhoeddi nad oedd angen i mi boeni o gwbl.
Canolbwynt Iesu Tirion yw cylch meithrin pentre bach Cymreig yng nghefn gwlad Cymru. Mae gweithgareddau’r cylch yn gorfodi rhieni o bob cefndir i ddod at ei gilydd – cymeriadau na fyddai byth yn dewis cymysgu â’i gilydd oni bai am gylch meithrin Nantclagwydd. Mae’r rhieni yma’n gymeriadau credadwy iawn a bydd y darllenydd yn sicr yn adnabod rhywun tebyg yn eu cymdeithas nhw. Mae tensiwn dyddiol rhwng Melangell Wyn Parry Ll.B., y gyfreithwraig barchus, sidêt, (wel, dyna’r ddelwedd mae hi ei hun yn ceisio’i gyfleu beth bynnag, ond daw’r darllenydd i wybod mai rhywbeth digon ‘slac ei moes, slac ei choes’ yw hi mewn gwirionedd!) sy’n fam i Lowfi Mefefid, a Susan, y ddarlithwraig prifysgol, sy’n ceisio argyhoeddi pawb o glyfrwch neilltuol ei merch, Brengain Cadwaladr, gan nad yw’r ddwy ‘wedi maddau i’w gilydd ers i Brengain alw Lowfi’n bitsh ar lwyfan y Neuadd Goffa adeg Drama’r Geni y llynedd’.
Mared, arweinyddes y cylch meithrin, yw’r prif gymeriad, ac ar ben ei helyntion yn y cylch, mae’n rhiant sengl i fachgen yn ei arddegau ac yn dod o hyd i ddyn newydd yn sw Bae Colwyn o bobman, ond mae dod â’r mab a’r dyn newydd i dderbyn ei gilydd yn dipyn o sialens. Mae Mared yn haeddu medal am ei dyfalbarhad yn rhedeg cylch meithrin Nantclagwydd yn festri Bethania, gan geisio cadw’r plant, y rhieni a blaenoriaid y capel yn hapus. Portreadir y plantos yn annwyl a doniol iawn ac mae’n amlwg fod yr awdur yn deall byd plant yr oed yma. Dwi’n hoff iawn o’r ffordd y mae’r gân 'Iesu Tirion' wedi’i sgwennu ar y clawr, a diolch i Lleucu Roberts, dyma’r fersiwn mae’r plant yn tŷ ni’n mynnu ei ganu o hyn allan hefyd:
‘Iesu tirion, gwely nawr, Blentyn bach yn bolgi mawr:
Wrth fy ngwenda, ty’d â’r ha. Paid â’m gwnffon, Iesu da. Amen. Côt.’
Dwi ddim mor siŵr pa mor gredadwy yw datblygiad cymeriad Doreen, na pha mor gredadwy yw’r creisus personol mae’n ei brofi yng nghanol y nofel, ond mae ei chymeriad dim-ffrils fel chwa o awyr iach yn y cylch ynghyd â’i thafod ffraeth, a miniog ar adegau, sy’n rhoi taw ar sawl dadl a gyfyd rhwng yr arweinyddes a’r rhieni.
Yn bersonol, dydw i ddim yn hoffi’r ffordd mae’n galw Lowri Mererid yn Lowfi Mefefid drwy’r nofel gan fod hyn yn tueddu i ddilorni pobl sydd â nam ar eu lleferydd (er, dwi’n cyfaddef iddo wneud i mi chwerthin). Byddai’n well gen i pe bai’r hyn y mae Lowri’n ei ddweud wedi ei sgwennu yn y dull yna’n unig, yn hytrach na’i galw hi yn Lowfi drwy’f amsef!
Ond, yng nghanol yr hiwmor, y rhegi, y dadlau, y parti Ann Summers, a’r 'affairs', mae yma werthfawrogiad o’r holl waith caled sy’n mynd ymlaen i gynnal cylchoedd meithrin ledled Cymru. Bydd darllenwyr o bob cefndir, yn enwedig rhieni i blant ifanc, yn gallu uniaethu â'r cymeriadau a mwynhau’r nofel yma – a phwy a ŵyr, efallai y gwelwch chi rywun tebyg iawn i chi’ch hun yma, ond i chi edrych yn ofalus.
Iola Jôns
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Bywgraffiad Awdur: Mae Lleucu ei hun yn fam i bedwar o blant a dyma’i nofel gyntaf. Yn ddiweddar bu’n ysgrifennu sgriptiau i S4C, yn cynnwys sgript y gyfres Amdani. Bu hefyd yn olygydd yn Y Lolfa rai blynyddoedd yn ôl a bu’n agos i’r brig ym mhrif gystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd. Daw’n wreiddiol o Geredigion, ond mae bellach yn byw yn Rhostryfan ger Caernarfon. Gwybodaeth Bellach: Cythrwfwl Dosbarthiadau Meithrin
Dadlau, rhegi, ymladd, affairs – nid dyna’r geiriau y byddai rhywun yn arfer ei gysylltu â dosbarth meithrin i blant tair oed yng ngefn gwlad Cymru. Ond dyna’r darlun a geir o’r cyfryw ddosbarthiadau mewn llyfr newydd gan Lleucu Roberts. Yn y nofel o’r enw Iesu Tirion a gyhoeddir gan Y Lolfa daw’r holl densiynau rhwng rhieni plant meithrin i’r amlwg, boed yn ieithyddol, rhywiol neu ariannol – tensiynau sy’n cael ei amlygu gan y plant, ac sy’n ategu’r gwirionedd mai o enau plant bychain y daw’r gwirionedd yn aml iawn.
Nofel ysgafn llawn hiwmor yw’r gyfrol yn ôl Mared Roberts o’r Lolfa: “Bydd darllen y nofel yn ddifyrwch pur i unrhyw riant, gyda lobsgows o gymeriadau cyferbyniol yn trio cadw trefn ar eu plant – o fewn un dosbarth yn unig ceir ‘un tedi rhacs, un eviction ac un affair’.’”
Yng nghanol yr hiwmor mae na hefyd werthfawrogiad o’r gwaith sy’n mynd ymlaen i gynnal dosbarthiadau, ynghyd â gofid am y sefyllfa ieithyddol yng nghefn gwlad Cymru, a chyflwynodd Lleucu Roberts y gyfrol i “fflyd arweinyddesai’r Mudiad Ysgolion Meithrin am eu dycnwch a’u dyfalbarhad yn wyneb y Saesneg a phob biwrocratiaeth hurt bost gachu rwtsh”. |