Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
Gwybodaeth Lyfryddol
Ble Wyt Ti Rhwng?
Awdur: Hefin Wyn
Gweld rhagor o deitlau gan 'Hefin Wyn'
ISBN: 9780862438005 (0862438004)
Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2006
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 209x146 mm, 216 tudalen
Ar gael 
Does dim Ymatebion Darllenwyr i'r teitl hwn.
 
 
Ble Wyt Ti Rhwng?
Ein Pris: £14.95 
Hanes canu pop Cymrag o ddechrau'r 80au hyd ddechrau'r mileniwm - dilyniant teilwng i Be Bop a Lula'r Delyn Aur.

A history of Welsh pop music from the beginning of the 80s to the end of the millennium; a sequel to Be Bop a Lula'r Delyn Aur.
Fel rhywun a gafodd ei fagu yng nghanol bwrlwm y Sîn Gerddoriaeth Gymraeg ac wedi cymryd diddordeb byw ynddi, roeddwn yn falch iawn o weld cyhoeddi cyfrol ddiweddaraf Hefin Wyn, Ble Wyt ti Rhwng?, yn ddilyniant i Be Bop a Lula’r Delyn Aur (Y Lolfa, 2002). Yn addas iawn, mae’r gyfrol yn ymdrin â hanes y sîn o’r union flwyddyn y cefais fy ngeni, felly bron y gellid dweud fy mod yn gallu uniaethu â hi hyd yn oed cyn dechrau.

Prin iawn yw gweithiau fel hyn sy’n ymdrin yn ddifrifol â cherddoriaeth Gymraeg gyfoes go iawn ac sy’n mynd o dan groen ei datblygiad. Yn hynny o beth mae ymdrech yr awdur i ymgymryd â phwnc mor eang i’w ganmol. Nid llawer sy’n gallu gweld ochr ddifrifol y ‘SRG’, yn enwedig o safbwynt hanesyddol, ond mae Hefin Wyn yn ymdrechu i’w gosod mewn cyd-destun bywyd cymdeithasol a gwleidyddol Cymru, a thu hwnt!

Rhywbeth sy’n amlwg iawn trwy gydol y llyfr yw’r anniddigrwydd a’r anghytuno ymysg llawer ynglŷn â phenderfyniad rhai bandiau i berfformio trwy gyfrwng y Saesneg, yn bennaf mewn ymdrech i wneud bywoliaeth trwy gerddoriaeth. Un ffaith drist a amlygir yw ei bod bron yn amhosib i artistiaid wneud bywoliaeth trwy ganu yn Gymraeg yn unig. Mae Hefin Wyn yn llwyddo i osgoi’r demtasiwn i fynegi barn bersonol am hyn, gan nodi yn hytrach ddadleuon eraill o blaid ac yn erbyn.

Mae’r awdur yn ymdrin yn fanwl â phob agwedd ar y sîn, gan roi sylw i’r wasg, gan gynnwys cylchgronau fel Sgrech a ffansins megis Llmych. Mae hefyd yn edrych ar y berthynas rhwng y cyfryngau Cymreig a cherddoriaeth, gan edrych yn fanwl ar y ddarpariaeth i bobl ifanc ar Radio Cymru a S4C. Mae ei ddadansoddiad neu ei theori ynglŷn â’r cysylltiad rhwng ymddangosiad Jonsi a Seisnigo Radio Cymru yn arbennig o ddiddorol. Rhoddir sylw hefyd i’r hyrwyddwyr ac wrth gwrs i’r bandiau, gan neilltuo pennod gyfan i rai o’r prif artistiaid.

Teimlaf fod Hefin Wyn wedi llwyddo yn ei fwriad i greu ‘llyfr hanes’ da yma, gan groniclo datblygiad Cerddoriaeth Gymraeg dros 20 mlynedd ddigon cythryblus. Ychydig iawn o farn bersonol a rhamantu a geir, gan ddibynnu’n fwy ar ddyfynnu’n helaeth gan sylwebyddion y cyfnod. Gellir dadlau nad oes yma lawer o straeon difyr na throeon trwstan, ond teimlaf nad hynny yw bwriad y llyfr. Yn hytrach, mae’n ymdrech i gofnodi’r ffeithiau mewn modd diduedd. Yn hynny o beth, bu i mi fwynhau’r gyfrol yn fawr a byddwn yn annog unrhyw un sy’n ymddiddori yn y Sîn Gerddoriaeth Gymraeg i’w darllen.

Owain Schiavone

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Tabl Cynnwys:
Rhagair;
Rhagarweiniad;

1. Sefydlu'r Sianel;
2. Trwbwl yn Sarn;
3. Garej Paradwys;
4. Jôc Bathetig;
5. Revolucion Galesa!;
6. Ym Mrig y Morwydd;
7. Y Tri Hun;
8. Rhywbeth o'i Le;
9. Bonaparte O'Coonassa;
10. Wplabobihocdw;
11. Gwerthwch fi i Lawr yr Afon;
12. Sobinmania;
13. Ailysgrifennu'r Llyfraith;
14. Ffa Coffi Pawb;
15. Spliffs a Rêf;
16. Wi'n napod Cerys Matthews;
17. Cytgord, Golwg ac Anrhefn;
18. Swig o Ffilth, Jonsi a'r Cyfryngis;
19. Dave Datblygu R-Bennig;
20. Reu a Yo;
21. Y Chwarelwr;
22. 'Neud Gwallt eu Gilydd' ;
23. Yr Ebillion;
24. Iechyd Da a Hyfryd Iawn;
25. Craic y Cnapan;
26. Noson Aflawen;
27. Y Tri Hyn (2);
28. Dwi Ddim yn Angen yr Iaith;
29. Shrug off Ya Complex;
30. Ymaelodi â'r Ymylon;
31. Ble Wyt Ti Rhwng?;

Nodiadau
Mynegai
Bywgraffiad Awdur:
Brodor o ardal Crymych, Sir Benfro yw Hefin Wyn. Ef oedd gohebydd adloniant Y Cymro yn y 70au ac awdur y llyfrau Doedd Neb yn Becso Dam a Be Bop a Lula'r Delyn Aur. Mae bellach yn newyddiadurwr ar ei liwt ei hun ac yn byw ym Maenclochog.
Gwybodaeth Bellach:
“…mae’n waith aruthrol a fe ddylai gael ei wobrwyo mewn rhyw ffordd.”
Yr Herald
“Mae Ble Wyt Ti Rhwng? yn adrodd y stori yn onest ac yn frwdfrydig. Dyw Hefin Wyn ddim yn barnu nac yn trio rhoi gormod o sbin bersonol ar yr hanes, ond yn hytrach, mae’n gadael i gymeriadau’r sîn ddod trwyddo. Ardderchog!”
Gareth Potter, Golwg
“…cofnod eithriadol bwysig a fydd, gobeithio, yn codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r traddodiad roc a phop Cymraeg.”
Rhys Mwyn, Y Cymro
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ymddiddori yn y Sîn Gerddoriaeth Gymraeg i’w darllen”.
Owain Schiavone, Western Mail
“Mae’r casgliad ar y diwedd yn codi cwestiynau sy’n annog y darllenydd i feddwl a ffurfio barn am ddyfodol ein diwylliant a’n hiaith. Llwyddodd felly i drosglwyddo ei wybodaeth i ni’n hynod o graff, ond hefyd ein hysgogi i ystyried ein tynged.”
Rhiannon Heledd Williams, Y Cymro
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol: