Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig   English  
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Gemydd, YCaryl Lewis Gweld rhagor o deitlau gan 'Caryl Lewis'
ISBN: 9780862438012 (0862438012)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2007
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 194x128 mm, 192 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £7.95 
Gemydd, Y
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel y Mis: Ebrill 2007
Nofel sy'n cyfleu unigrwydd dirdynnol gyda phortreadau grymus o gymeriadau sy'n gweithio mewn marchnad sydd ar fin cau. Dilynir argyfwng Mair, sy'n gwneud bywoliaeth o drin gemau a chlirio tai, nes y daw un gem i drawsnewid ei bywyd yn llwyr...

A novel which examines solitary lives, and provides powerful portrayals of characters who work in a market that's about to close. The narrative focuses on Mair who makes a living out of jewellery and house clearances - that is, until she finds one jewel that transforms her life completely.
Erbyn hyn, cydnabyddir Caryl Lewis fel un o’n llenorion mwyaf disglair – mae ganddi’r ddawn i ysgrifennu’n gredadwy mewn amryw gyfrwng ac i farchnadoedd amrywiol. Mae’r Gemydd yn nofel sy’n profi, fel y gwnaeth ei nofel hynod lwyddiannus Martha, Jac a Sianco, nad rhywbeth uchel-ael yw ffuglen dda – pobl bob dydd sydd yma a bywydau go gyffredin a ddisgrifir.

A dweud y gwir, o ddarllen y nofel, ro’n i’n teimlo’n eithaf bodlon fy myd. Bywydau digon unig a llwydaidd yw bywydau’r cymeriadau a datgelir llawer am ddynoliaeth wrth i Caryl Lewis ddisgrifio'r diffyg cyfathrebu, y cwato, y celu. Yn sicr, mae rhyw naws felancolaidd ymhob disgrifiad bendigedig – fel yn y disgrifiad o Ieuan sy’n prynu ambell i watsh yn y farchnad er nad oes ganddo unrhyw le i fynd iddo mewn pryd. Gemydd yw Mair, prif gymeriad y nofel, ac mae hi a’i chyfeilles Mo yn clirio tai pobl hefyd. Mae’r darluniau ohonynt yn twtio bywydau pobl i mewn i fagiau plastig du yn ychwanegu at ddüwch y nofel.

Ond er mai llwydaidd yw’r bywydau, mae lliw yn hynod o bwysig yn y nofel hon. Mae’r disgrifiadau o liwiau cyfoethog y gemau, yr awyr a’r môr yn rhoi swyn arbennig i’r gwaith, ac ar ben hyn, mae coethder y dafodiaith yn ei gwneud yn bleser i’w ddarllen. Mae sawl blwyddyn ers i mi glywed geiriau megis ‘brat’, ‘wilibowan’, ‘ricyn y drws’ a braf deall, mewn oes lle mae yna dermau newydd lu a bratiaith yn rhemp, bod y fath gyfoeth ieithyddol yn rhan naturiol o iaith rhai pobl.

Mae yna gysgodion lu yn y nofel hon – mae cysgod crefydd yn drwm iawn ar y prif gymeriad. Ond mae yna oleuni hefyd. Mae’r dweud yn gynnil, ac er bod yna gylch perffaith o ran y stori, mae yna nifer o gwestiynau yn aros ar y diwedd am dynged ambell gymeriad. Tybed, felly, a fydd yna ddilyniant? Gobeithio, yn wir.

Dana Edwards

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Bywgraffiad Awdur:
Daw Caryl Lewis o Ddihewyd, Ceredigion, ac mae bellach yn byw yn Goginan. Enillodd ei hail nofel, 'Martha, Jac a Sianco', wobr LLyfr y Flwyddyn 2005 a'i nofel i bobl ifanc 'Iawn Boi?' wobr Tir na n-Og 2004. Mae hefyd yn ysgrifennu llyfrau i blant iau, yn cynnwys y gyfres boblogaidd 'Bili Boncyrs'.
Gwybodaeth Bellach:
Wedi llwyddiant ei nofel ddiwethaf, Martha Jac a Sianco, mae Caryl wedi gosod y bar yn uchel iawn iddi hi ei hun ar gyfer ei trydedd nofel, Y Gemydd. Stori yw hi am gymeriadau brith sy’n byw ar gyrion cymdeithas, a’r prif gymeriad Mair sy’n crafu byw wrth drin a gwerthu gemau a chlirio tai, nes y daw un em i drawsnewid ei bywyd yn llwyr.

Meddai golygydd y nofel Alun Jones o’r Lolfa, “Mae hon yn nofel sy’n llawn symbolaeth, sy’n gweithio ar sawl lefel ac yn rymus dros ben. Mae gan Caryl ddawn arbennig wrth greu cymeriadau dwys, diddorol a’i gosod o fewn lleoliad credadwy. Ochr yn ochr â’i dawn dweud, mae’r defnydd o dafodiaith Ceredigion a’r holl waith ymchwil sy’n mynd i mewn i’w gwaith yn cynnig nofel aeddfed, grefftus i unrhyw ddarllenwr ei fwynhau.”
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Sarah Arall
Aled Islwyn
£4.50
 
Prynwch
Wales - Epic Views of a ...
Jan Morris
£12.99
 
Prynwch
Conundrum
Jan Morris
£8.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Argraff Gyntaf, Yr
Ifan Morgan Jones
£7.95
 
Prynwch
Saesneg
Not Quite White
Simon Thirsk
£9.99
 
Prynwch