Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres Pen Dafad: Pen Dafad
Bethan Gwanas
ISBN: 9780862438067 (0862438063)Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2011
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3/4 Fformat: Clawr Meddal, 188x122 mm, 104 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £2.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Nofel fer fywiog a doniol sy'n sôn am anturiaethau bachgen sy'n trawsnewid i fod yn ddafad bob nos. Gan awdures Llinyn Trôns. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2005.

A short, lively and funny novel about a boy who feels he is changing into a sheep every night. By the author of Llinyn Trôns. Reprint; first published in 2005.
Dyma atgof o Teen Wolf, ir sawl ohonom syn cofio, ar ei newydd wedd ac wedii adleoli yng nghefn gwlad Cymru! Druan Dewi – yn hytrach na throi'n flaidd, a fyddain eithaf cŵl, maen troin ddafad bob nos. Maer sefyllfa hynod ryfedd yma yn dir ffrwythlon ir awdur i arfer ei chrefft o adrodd stori ddigri yn ei ffordd ddihafal ei hun gydan harwr 13 oed yn treulior noson gyntaf yn bwyta planhigion tŷ ei fam ac yn deffro ar yr ail fore yn noethlymun yng nghanol cae!

Wrth i Lowri, ei chwaer fach holl wybodus, ddarganfod ei gyfrinach, gwelir eu perthynas yn aeddfedu, wrth iddi geisioi helpu i ddatrys y dirgelwch a dod o hyd i ffordd o atal y gweddnewid.

Yn gyferbyniad ir hiwmor, datblygir y stori trwy rai golygfeydd dramatig ac arswydus gyda thro annisgwyl a chyffrous yn y plot a chyffyrddiad o hud a rhamant tuar diwedd. Adroddir y cyfan trwy gyfrwng arddull lafar, naturiol a rhugl. Mae rhywbeth at ddant pawb yma – rhieni syn darllen iw plant, yn ogystal darllenwyr ifanc brwd ac anfoddog fydd yn medru uniaethu chefndir a chyd-destun teuluol ac amaethyddol y nofel hon.

G. Mari Morgan

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Mabinogion, The
 
£8.99
 
Prynwch
What's the Word ...
 
£6.99
 
Prynwch
Cyfres Cled: Cathreulig
Maureen Potter
£2.50
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dan Bwysau
John Alwyn Griffiths
£8.50
 
Prynwch
Saesneg
Head in the Clouds - ...
Boyd Clack
£10.00
 
Prynwch
Plant
Caffi Merelli
G. R. Gemin
£7.99
 
Prynwch